Sut ydw i’n rhoi ac yn golygu graddau yn y Llyfr Graddau?
Mae’n bur debyg mai’r SpeedGrader fyddwch chi’n ei ddefnyddio i roi’r graddau. Bydd y graddau’n ymddangos yn y Llyfr Graddau pan fyddwch wedi gorffen. Ond, gallwch chi roi a golygu graddau eich hun yn y Llyfr Graddau.
Mae aseiniadau yn y Llyfr Graddau’n cael eu dangos â gwerth pwynt yr aseiniad bob tro. Ond, gallwch newid yr aseiniad i ddangos graddau ar gyfer math penodol o raddio.
Hefyd, gallwch ddefnyddio ffeil CSV i fewngludo graddau.
Pan fydd sgôr aseiniad yn cael ei rhoi fel gradd llythyren yn y Llyfr Graddau, y sgôr canran ar gyfer yr aseiniad yw terfyn uchaf yr ystod sydd wedi’i neilltuo i’r radd llythyren yn y cynllun graddio. Os bydd disodli gradd olaf yn cael ei rhoi fel gradd llythyren, y sgôr canran ar gyfer yr aseiniad yw terfyn isaf yr ystod sydd wedi’i neilltuo i’r radd llythyren yn y cynllun graddio.
Er enghraifft, efallai bod cynllun graddio eich cwrs yn neilltuo ystod o 86% i 89% ar gyfer gradd llythyred B+. Byddai rhoi B+ ar gyfer aseiniad yn neilltuo canran o 89% ond byddai rhoi B+ ar gyfer disodli gradd olaf yn neilltuo canran o 86% I sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn canran benodol ar gyfer aseiniad neu radd derfynol, rhowch sgôr yr aseiniad neu ddisodli gradd fel canran.
Nodiadau:
- Wrth ddefnyddio aseiniadau sydd wedi’u gwahaniaethu, bydd yr aseiniad yn ymddangos fel colofn i bob myfyriwr, ond bydd celloedd y radd yn lliw llwyd i fyfyrwyr sydd ddim yn rhan o’r aseiniad neu o adran sydd yn aseiniad. Does dim modd neilltuo graddau i fyfyrwyr sydd ddim yn rhan o’r aseiniad neu adran; dydy’r aseiniadau hynny ddim yn cael eu cynnwys yn y graddau cyffredinol.
- Os byddwch chi’n dewis peidio neilltuo myfyriwr neu adran i aseiniad sydd wedi'i wahaniaethu ac rydych chi wedi'i raddio’n flaenorol, bydd y radd a’r cyflwyniad yn cael eu tynnu o’r aseiniad. Gallwch chi adfer y cyflwyniad drwy ailneilltuo’r aseiniad i’r myfyriwr.
- Pan mae Mwy nag un Cyfnod Graddio (Multiple Grading Periods) ar waith mewn cwrs, does dim modd i chi olygu graddau ar gyfer unrhyw aseiniad sydd ag o leiaf un myfyriwr mewn cyfnod graddio sydd wedi dod i ben.
- Yn dibynnu ar fanylion aseiniad cwis, efallai na fydd cwisiau sydd yn werth dim pwyntiau yn ymddangos yn y Llyfr Graddau.
- Mae tudalen Hanes Llyfr Graddau yn cofnodi pob newid mewn gradd yn y Llyfr Graddau ac mae modd eu gweld unrhyw bryd.
Agor Graddau
![Agor Graddau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/767/040/original/c848a721-2e14-4088-88f2-01a7007c1cf8.png)
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).
Dod o hyd i Aseiniad Myfyriwr
![Dod o hyd i Aseiniad Myfyriwr](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/001/245/705/original/16b70b75-f13d-4a30-b86f-f2a1ebad0313.png)
Dewch o hyd i enw’r myfyriwr a’r aseiniad ble rydych chi eisiau rhoi gradd.
Rowch Radd
![Rowch Radd](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/035/551/original/88181db6-4bf7-42ef-8d32-19542a15c6c6.png)
Bydd graddau’n cael eu rhoi yn ôl gosodiad Dangos Gradd yr aseiniad. Mae modd rhoi graddau fel un o bum opsiwn: pwyntiau, cwblhau/heb gwblhau, gradd llythyren, canran, a GPA. Gallwch newid yr aseiniad i ddangos graddau ar gyfer math penodol o raddio.
Nodyn: Pan fyddwch chi'n cyrraedd diwedd colofn, bydd pwyso'r fysell Return neu'r fysell Enter yn mynd â chi i frig y golofn nesaf.
Rhoi Gradd Pwyntiau
![Rhoi Gradd Pwyntiau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/035/547/original/84b2648e-b404-433e-bc3c-ab7df86d6e24.png)
I roi gradd pwyntiau, rhowch nifer y pwyntiau yn y gell a phwyso’r fysell Return (ar fysellfwrdd Mac) neu’r fysell Enter (ar fysellfwrdd cyfrifiadur).
Rhoi Gradd wedi'i Chwblhau neu Heb ei Chwblhau
![Rhoi Gradd wedi'i Chwblhau neu Heb ei Chwblhau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/035/559/original/df8326c6-0312-4cc0-b459-673a401c7e33.png)
I roi gradd gyflawl neu anghyflawn, cliciwch y gwymplen yn y gell a dewis yr eicon rydych chi eisiau. Mae’r opsiynau graddio’n cynnwys wedi cwblhau, heb gwblhau, heb ei raddio, ac wedi’i esgusodi.
Rhowch Radd Llythyren
![Rhowch Radd Llythyren](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/035/549/original/b049c189-030e-4793-8e62-22747b554acd.png)
Cliciwch y gwymplen a dewiswch radd llythyren o’r ddewislen.
![Rhowch Radd Llythyren](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/035/541/original/71b32f8c-b5d8-48fc-9e59-eaa7e8aa5558.png)
Gallwch hefyd roi gradd llythyren eich hun. Rhowch y llythyren sy’n cyfateb i’r raddfa lythrennau sydd wedi'i diffinio gan y cynllun graddau, a phwyso’r fysell Return (ar fysellfwrdd Mac) neu’r fysell Enter (ar fysellfwrdd cyfrifiadur).
Gweld Gwall Dilysu Gradd Llythyren
![Gweld Gwall Dilysu Gradd Llythyren](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/035/539/original/5e8af56a-3f24-4a39-91ef-ae02f9c558c1.png)
Os byddwch chi’n rhoi gradd llythyren nad yw’r cynllun graddio yn gallu delio ag o, bydd y gell yn dangos eicon rhybudd gradd annilys. Bydd Canvas hefyd yn dangos neges rhybudd gradd annilys.
Rhowch Radd Canran
![Rhowch Radd Canran](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/035/561/original/5e233fd4-67ba-4629-998f-1f18a393bf1c.png)
I roi gradd canran, rhowch y ganran yn y gell a phwyso’r fysell Return (ar fysellfwrdd Mac) neu’r fysell Enter (ar fysellfwrdd cyfrifiadur).
Rhowch Radd GPA
![Rhowch Radd GPA](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/035/557/original/7f0625fd-d370-4fd3-acb4-10d9ae16d0d9.png)
I roi gradd GPA, cliciwch y gwymplen a dewiswch y radd rydych chi ei heisiau o’r ddewislen.
![Rhowch Radd GPA](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/035/543/original/bc20ade9-1923-4f37-9558-1f3f83f1fcc4.png)
Gallwch hefyd roi’r rhif sy’n cyfateb i’r raddfa GPA sydd wedi'i diffinio gan y cynllun graddau, a phwyso’r fysell Return (ar fysellfwrdd Mac) neu’r fysell Enter (ar fysellfwrdd cyfrifiadur).
Gweld Gwall Dilysu Gradd GPA
![Gweld Gwall Dilysu Gradd GPA](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/035/563/original/f71084a7-b6fd-4b67-9df7-dc03c8c0d593.png)
Os byddwch chi’n rhoi gradd llythyren nad yw’r cynllun graddio yn gallu delio ag o, bydd y gell yn dangos eicon rhybudd gradd annilys. Bydd Canvas hefyd yn dangos neges rhybudd gradd annilys.
Golygu Gradd
![Golygu Gradd](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/035/545/original/0476ba64-ba41-4c3a-97bb-3e0373627568.png)
I olygu gradd sydd eisoes yn bodoli yn y Llyfr Graddau, cliciwch gell yr aseiniad i gael y radd.
I roi gradd newydd, rhowch y radd newydd. I ddileu’r radd, cliciwch y fysell Dileu.
I roi’r radd wedi’i golygu, pwyswch y fysell Return (ar fysellfwrdd Mac) neu’r fysell Enter (ar fysellfwrdd cyfrifiadur).
Rhoi Gradd drwy Ardal Manylion y Radd
![Gweld Ardal Manylion y Radd](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/035/553/original/fac5c308-5c73-4c17-8612-bb6e64dbd160.png)
Gellir rhoi graddau yn Ardal Manylion y Radd yn ôl gosodiad dangos gradd yr aseiniad. I agor yr ardal, cliciwch gell aseiniad ar gyfer y myfyriwr a chlicio’r eicon Ardal Manylion y Radd (Grade Detail Tray) [1]. Yn y maes Gradd (Grade) [2], rhowch y radd ar gyfer y myfyriwr.
I symud ymlaen i’r myfyriwr nesaf, cliciwch yr eicon saeth [3].
Gweld Neges Hysbysu Gormod o Bwyntiau
Os bydd gormod o bwyntiau’n cael eu hychwanegu at radd myfyriwr, bydd Canvas yn creu neges hysbysu i roi gwybod bod y myfyriwr wedi cael gradd anarferol o uchel. Gallwch naill ai gadw neu gywiro gwerth y pwynt.
Mae gormod o bwyntiau'n gallu codi yn y sefyllfaoedd canlynol:
- Mae’r swm a nodir yn 50% yn uwch na chyfanswm y pwyntiau sy'n bosib
- Mae digid ychwanegol wedi'i roi (e.e. 500 yn lle 50)
- Mae aseiniad wedi cael pwyntiau negyddol