Sut ydw i’n cysylltu â gwasanaethau gwe y tu allan i Canvas fel addysgwr?
Mae Canvas wedi ei integreiddio â nifer o wasanaethau gwe trydydd parti. Mae modd ffurfweddu’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau hyn o'r dudalen gosodiadau defnyddiwr.
Agor Gosodiadau Defnyddiwr
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].
Cysylltu Gwasanaethau â Phroffil
Pan fyddwch chi’n cofrestru gwasanaethau gwe eraill â Canvas, gallwch integreiddio eich cyfrif â gwasanaethau rydych chi eisoes yn eu defnyddio. Mae pob un o’r gwasanaethau hyn hefyd yn creu dull cysylltu ar gyfer pobl eraill yn eich cwrs neu eich grŵp.
Os yw’r adnodd Proffiliau (Profiles) wedi ei alluogi ar gyfer eich cyfrif, a’ch bod chi am ddangos unrhyw rai o’ch gwasanaethau gwe cofrestredig ar dudalen eich proffil, ticiwch y blwch Gadael i aelodau eraill y cwrs/grŵp...(Let fellow course/group members...) blwch ticio. Gallwch ddewis gwasanaethau penodol i’w dangos drwy olygu eich proffil.
Nodyn: Os nad oes gennych chi dudalen proffil, nid yw eich sefydliad wedi galluogi’r nodwedd hon.
Cysylltu â Gwasanaethau Gwe
Gallwch integreiddio Canvas â’r gwasanaethau gwe canlynol: