Sut ydw i’n ychwanegu cyfarwyddyd sgorio at aseiniad?

Gallwch ychwanegu cyfarwyddyd sgorio i helpu myfyrwyr i ddeall disgwyliadau ar gyfer yr aseiniad a sut rydych chi’n bwriadu sgorio eu cyflwyniadau. Yn achlysurol, caiff cyfarwyddiadau sgorio eu hychwanegu at aseiniadau os oes gennych chi ddeilliant yn y cyfarwyddyd sgorio yr hoffech chi ei ddefnyddio at ddibenion alinio. Yn ogystal ag aseiniadau, gellir ychwanegu cyfarwyddiadau sgorio at drafodaethau a chwisiau wedi’u graddio hefyd.

Gellir ychwanegu cyfarwyddiadau sgorio drwy ddod o hyd i gyfarwyddyd sgorio sy’n bodoli eisoes yn un o’ch cyrsiau, neu drwy greu cyfarwyddyd sgorio newydd.

Nodwch: Pan fyddwch chi’n ychwanegu cyfarwyddyd sgorio at aseiniad wedi’i safoni, bydd unrhyw ganlyniadau deilliannau cysylltiedig yn ymddangos yn y Llyfr Graddau Meistroli Dysgu ar ôl i’r graddau terfynol gael eu postio.

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Agor Aseiniad

Cliciwch enw’r aseiniad.

Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio

Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio

Cliciwch y botwm Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio (Add Rubric).

Dod o hyd i’r cyfarwyddyd sgorio

Dod o hyd i’r cyfarwyddyd sgorio

I ddod o hyd i gyfarwyddyd sgorio sy’n bodoli eisoes, cliciwch y ddolen Canfod Cyfarwyddyd Sgorio (Find a Rubric).

Gallwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau sgorio a gafodd eu creu mewn aseiniadau blaenorol yn ogystal â chyfarwyddiadau sgorio sydd wedi’u creu mewn cyrsiau eraill lle mae gennych chi rôl addysgwr.

Dewis Cyfarwyddyd Sgorio

Dewis Cyfarwyddyd Sgorio

Yn y golofn gyntaf, dewiswch gwrs neu gyfrif [1]. Yn yr ail golofn, dewch o hyd i’r cyfarwyddyd sgorio a chlicio ei enw [2]. Gallwch weld y meini prawf a’r pwyntiau ym mhob cyfarwyddyd sgorio. I ddewis cyfarwyddyd sgorio ar gyfer yr aseiniad, sgroliwch i waelod y cyfarwyddyd sgorio a chlicio y botwm Defnyddio’r Cyfarwyddyd Sgorio Hwn (Use This Rubric) [3].

Golygu Cyfarwyddyd Sgorio

Rheoli Cyfarwyddyd Sgorio

I olygu cyfarwyddyd sgorio heb ei ddefnyddio neu i ddewis gosodiadau'r cyfarwyddyd sgorio, cliciwch yr eicon Golygu.

Nodwch: Wrth adolygu cyfarwyddyd sgorio, gallwch dynnu meini prawf deilliannau cysylltiedig. Fodd bynnag, dim ond ar y dudalen Deilliannau y mae modd golygu meini prawf deilliannau.

Creu Cyfarwyddyd Sgorio Newydd

Creu Cyfarwyddyd Sgorio Newydd

Os na allwch chi ddod o hyd i gyfarwyddyd sgorio sy’n bodoli eisoes i’w ddefnyddio ar gyfer yr aseiniad, gallwch greu cyfarwyddyd sgorio newydd ar gyfer eich aseiniad. Caiff cyfarwyddiadau sgorio newydd eu cadw yn eich cwrs i’w defnyddio yn y dyfodol.

Dewis Gosodiadau Cyfarwyddyd Sgorio

Dewis Gosodiadau Cyfarwyddyd Sgorio

Ar ôl i chi ychwanegu cyfarwyddyd sgorio, gallwch ddewis sawl opsiwn ar gyfer y cyfarwyddyd sgorio.

Os ydych chi am ysgrifennu sylwadau testun rhydd ar gyfer myfyrwyr yn SpeedGrader, ticiwch y blwch Byddaf i’n ysgrifennu sylwadau testun rhydd... (I'll write free-form comments...) [1]. Os caiff yr opsiwn hwn ei ddewis, ni fydd graddau’n cael eu defnyddio i asesu'r myfyriwr a bydd y gwerthoedd maen prawf yn cael eu neilltuo’n awtomatig.

Os ydych chi am dynnu pwyntiau o’r cyfarwyddyd sgorio, ticiwch y blwch Tynnu pwyntiau o gyfarwyddyd sgorio (Remove points from rubric) [2]. Os caiff yr opsiwn hwn ei ddewis, ni fydd pwyntiau’n gysylltiedig â’r cyfarwyddyd sgorio, ond bydd myfyrwyr yn gallu cael eu graddio gan ddefnyddio meini prawf y cyfarwyddyd sgorio.

Os yw’r Llyfr Graddau Meistroli Dysgu wedi’i alluogi genych ond dydych chi ddim am i ganlyniadau deilliannau gael eu postio yn y Llyfr Graddau Meistroli Dysgu, dewiswch y blwch ticio Peidio â phostio canlyniadau’r Deilliannau yn y Llyfr Graddau Dysgu Meistrolaeth (Don't post Outcomes results to Learning Mastery Gradebook [3]. Os yw’r opsiwn hwn wedi’i ddewis, bydd myfyrwyr yn gallu gweld canlyniadau cyfarwyddyd sgorio a deilliannau yn y tudalennau Graddau a manylion cyflwyniad, ond ni fydd canlyniadau’n cael eu postio i’r Llyfr Graddau Meistroli Dysgu.

Os ydych chi am ddefnyddio’r cyfarwyddyd sgorio ar gyfer graddio yn SpeedGrader, ticiwch y blwch Defnyddio’r cyfarwyddyd sgorio ar gyfer graddio aseiniadau (Use this rubric for assignment grading) [4].

Os nad ydych chi am i fyfyrwyr weld y cyfanswm sgôr ar gyfer y cyfarwyddyd sgorio, ticiwch y blwch Cuddio cyfanswm sgôr ar gyfer canlyniadau asesu (Hide score total for assessment results) [5]. Gall y myfyrwyr weld y gwerthoedd pwynt ar gyfer pob maen prawf o hyd, ond ni fydd y sgôr gyflawn yn ymddangos ar waelod y cyfarwyddyd sgorio. Mae'r opsiwn hwn ar gael dim ond pan na fydd y cyfarwyddyd sgorio'n cael ei ddefnyddio i raddio.

Cadw Cyfarwyddyd Sgorio

Cadw Cyfarwyddyd Sgorio

Cliciwch y botwm Diweddaru Cyfarwyddyd Sgorio (Update Rubric).

Nodwch: Os ydych chi wedi creu cyfarwyddyd sgorio newydd, bydd yr aseiniad yn dangos y botwm Creu Cyfarwyddyd Sgorio (Create Rubric).

Addasu Pwyntiau Sgorio

Addasu Pwyntiau Sgorio

Os ydych chi’n dewis defnyddio’r cyfarwyddyd sgorio ar gyfer graddio, bydd Canvas yn cymharu'r cyfarwyddyd sgorio a phwyntiau'r Aseiniad.

Os yw nifer y pwyntiau yn y cyfarwyddyd sgorio’n wahanol i nifer y pwyntiau yn yr Aseiniad, bydd Canvas yn creu neges yn eich rhybuddio nad yw gwerthoedd y pwyntiau yn hafal.

I ddiweddaru nifer y pwyntiau yn yr aseiniad, cliciwch y botwm Newid [1]. Fel arall, cliciwch y botwm Gadael yn wahanol [2].

Gweld Cyfarwyddyd Sgorio

Gweld Cyfarwyddyd Sgorio

Gweld y cyfarwyddyd sgorio ar gyfer yr aseiniad.

I olygu’r cyfarwyddyd sgorio, cliciwch yr eicon Golygu [1]. I newid y cyfarwyddyd sgorio am gyfarwyddyd sgorio sy’n bodoli eisoes, cliciwch yr eicon Chwilio [2].

I ddileu’r cyfarwyddyd sgorio o’r aseiniad, cliciwch yr eicon Dileu [3]. Os cafodd y cyfarwyddyd sgorio ei greu o’r aseiniad ac nad yw wedi’i gysylltu â chynnwys cwrs arall, bydd y cyfarwyddyd sgorion yn cael ei dynnu o’r cwrs pan fydd yn cael ei ddileu.

Copïo cyfarwyddyd Sgorio

Copïo cyfarwyddyd Sgorio

Os ydych chi’n ceisio golygu cyfarwyddyd sgorio sydd wedi cael ei ddefnyddio mewn mwy nag un aseiniad (aseiniad, trafodaeth wedi’i graddio neu gwis) bydd Canvas yn creu neges yn rhybuddio nad oes modd golygu’r cyfarwyddyd sgorio. Mae’r neges hon yn golygu nad oes modd golygu'r cyfarwyddyd sgorio’n uniongyrchol ond gallwch greu copi o’r cyfarwyddyd sgorio.

I greu copi o'r cyfarwyddyd sgorio, cliciwch y botwm Iawn (OK). Bydd Canvas yn creu fersiwn wedi’i gopïo o’r cyfarwyddyd sgorio. Bydd y fersiwn sydd wedi’i olygu yn diystyru'r cyfarwyddyd sgorio blaenorol yn yr aseiniad yn awtomatig. Os ydych chi’n defnyddio’r cyfarwyddyd sgorio ar gyfer graddio, bydd y cyfarwyddyd sgorio’n diweddaru ar gyfer yr holl fyfyrwyr yn SpeedGrader. Efallai y byddwch chi am ail-adolygu cyflwyniadau myfyrwyr sydd wedi cael eu graddio eisoes â'r cyfarwyddyd sgorio gwreiddiol.

Bydd y cyfarwyddyd sgorio sydd wedi’i gopïo hefyd yn cael ei gadw yn rhestr cyfarwyddiadau sgorio’r cwrs i'w ddefnyddio yn y dyfodol.

Nodwch: Ni fydd cyfarwyddyd sgorio sydd wedi’i gysylltu â mwy nag un aseiniad yn cael ei gopïo os mai’r unig newid sydd wedi’i wneud yw dewis defnyddio'r cyfarwyddyd sgorio ar gyfer graddio aseiniadau.