Sut ydw i’n creu trafodaeth fel addysgwr?
Fel addysgwr, gallwch greu trafodaeth ar gyfer eich cwrs. Mae'r wers hon yn amlinellu amrywiaeth o opsiynau i ddewis ohonynt er mwyn addasu trafodaeth ar gyfer eich cwrs.
Sylwch:
- Mae modd i drafodaethau fod wedi’u graddio neu heb eu graddio. Os yw myfyriwr yn atodi ffeil i drafodaeth heb ei graddio, yna mae maint y ffeil yn cyfrif tuag at gwota storio’r myfyriwr. Ond, dydy atodiadau sy’n cael eu hychwanegu at drafodaethau wedi’u graddio ddim yn cyfrif tuag at gwota storio myfyriwr.
- Gall myfyrwyr greu trafodaethau yn eu grŵp myfyrwyr. Os yw gosodiadau’r cwrs yn caniatáu hynny, gall myfyrwyr hefyd gynnal trafodaethau yn eu cyrsiau.
Agor Trafodaethau
![Agor Trafodaethau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/762/447/original/14a7f580-6c6a-469d-9840-75013cf3e09b.png)
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Trafodaethau (Discussions).
Ychwanegu Trafodaeth
![Ychwanegu Trafodaeth](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/585/986/original/737b5ecd-014e-47f8-9ab5-db2204421c16.png)
Cliciwch y botwm Ychwanegu Trafodaeth (Add Discussion).
Creu Trafodaeth
![Creu Trafodaeth](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/727/945/original/d9ea4093-3131-4392-ab4f-6ca7f90f6737.png)
Yn ddiofyn, mae’r tab Manylion (Details) wedi’i ddewis [1].
Rhowch deitl i drafodaeth yn y maes Teitl Pwnc (Topic Title) [2].
Ychwanegwch gynnwys at drafodaeth drwy ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog [3].
Gallwch chi hefyd atodi ffeiliau i’ch trafodaeth [4].
I ychwanegu Llwybrau Meistroli i drafodaeth wedi’i graddio, cliciwch y tab Llwybrau Meistroli (Mastery Paths) [5].
Nodyn: Pan fydd dogfen yn cael ei llwytho i fyny i’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog (Rich Content Editor) o drafodaeth, mae’r ffeil yn cael ei chadw yn y ffolder Cyfryngau wedi’u Llwytho i Fyny (Uploaded Media) yn Ffeiliau’r Cwrs (Course Files) ac yn ddiofyn bydd wedi’i guddio. Gall myfyrwyr weld y ffeil pan fydd y drafodaeth ar gael iddynt. Dysgu mwy am opsiynau gweld ffeiliau.
Gosod Hawliau Defnyddio Atodi Ffeil
![Ychwanegu Atodiad](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/585/991/original/6c7209f9-102f-49b0-80d7-28a07d71d0c2.png)
Os yw’n ofynnol yn eich sefydliad, bydd angen i chi ddewis gosodiadau hawliau defnyddio ar gyfer eich atodiad. I olygu gosodiadau hawliau defnyddio, cliciwch yr eicon Gosod hawliau defnyddio (Set usage rights) [1].
Yn y gwymplen Hawliau Defnydddio (Usage Right) [2], dewiswch un o bum hawl defnyddio. Os ydych chi’n addysgwr ac nad ydych chi’n siŵr pa hawliau defnyddio sy’n berthnasol i’ch ffeil, gofynnwch i weinyddwyr eich sefydliad am gyngor:
- Fi sydd biau’r hawlfraint (cynnwys gwreiddiol sydd wedi’i greu gennych chi)
- Rydw i wedi cael caniatâd i ddefnyddio’r ffeil (caniatâd awdurdodedig gan yr awdur)
- Mae’r deunydd yn y parth cyhoeddus (wedi’i neilltuo’n benodol i’r parth cyhoeddus, nid oes modd ei ro o dan hawlfraint, neu nid yw wedi’i ddiogelu gan hawlfraint mwyach)
- Mae’r eithriad yn berthnasol i'r deunydd - ee defnydd teg, yr hawl i ddyfynnu, neu hawliau eraill o dan y cyfreithiau hawlfraint perthnasol (dyfyniad neu grynodeb yn cael eu defnyddio ar gyfer sylwadau, adrodd y newyddion, ymchwil, neu ddadansoddiad mewn addysg)
- Mae’r deunydd wedi'i drwyddedu o dan Creative Commons; mae’r opsiwn hwn yn golygu gosod trwydded Creative Commons benodol
Os yw’n hysbys, rhowch wybodaeth perchennog yr hawlfraint yn y maes Perchennog yr Hawlfraint (Copyright Holder) [3].
I gadw eich gosodiadau hawliau defnyddio, cliciwch y botwm Cadw (Save) [4]. Gallwch chi olygu gosodiadau hawliau defnyddio drwy glicio’r eicon Gosod hawliau defnyddio.
Gosod Opsiynau Trafodaeth Ddienw
![Gosod Opsiynau Trafodaeth](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/585/994/original/32ba5eda-75ad-4b92-b830-5bfe9f56765b.png)
Yn ddiofyn, nid yw trafodaethau’n ddienw; mae enwau a lluniau proffil myfyrwyr yn ymddangos mewn trafodaethau [1].
I ganiatáu i fyfyrwyr benderfynu a yw eu henwau a’u lluniau proffil i’w gweld, cliciwch yr opsiwn Rhannol: gall myfyrwyr ddewis datgelu eu henw a’u llun proffil (Partial: students can choose to reveal their name and profile picture) [2].
I alluogi trafodaethau dienw a chuddio enwau a lluniau proffil myfyrwyr, cliciwch yr opsiwn Llawn: bydd enwau a lluniau proffil myfyrwyr wedi cael eu cuddio (Full: student names and profile pictures will be hidden) [3].
Nodiadau:
- Nid yw trafodaethau dienw’n cefnogi trafodaethau wedi’u graddio neu draethodau grŵp.
- Os nad oes unrhyw drafodaethau wedi’u cyflwyno, gallwch olygu’r opsiynau trafod dienw.
- Ni fydd ymatebion sy’n cael eu gwneud gan Athro, Cynorthwyydd neu rôl Dylunydd byth yn ddi-enw.
Gosod Opsiynau Ychwanegol
![Gosod Opsiynau Ychwanegol](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/711/181/original/7ac14ddd-e09c-4e78-b532-7010294f1765.png)
I ganiatáu ymatebion i bwnc y drafodaeth yn unig ac atal defnyddwyr rhan ymateb i ymatebion, cliciwch y blwch ticio Peidio â chaniatáu ymatebion i edeifion [1].
I orfodi myfyrwyr i ymateb i drafodaeth cyn gweld yr ymatebion eraill, cliciwch y blwch ticio Rhaid i gyfranogwyr ymateb i’r testun cyn gweld yr ymatebion eraill (Participants must respond to the topic before viewing other replies) [2]. Mae myfyrwyr yn gweld neges “Mae’n rhaid i chi anfon ymateb cyn i chi gael gweld ymatebion eraill” (“You must post before seeing replies”) pan maent yn edrych ar y pwnc Trafod.
I alluogi ffrwd podlediad trafodaeth, cliciwch y blwch ticio Galluogi ffrwd podlediad (Enable podcast feed) [3].
I greu aseiniad wedi'i raddio, cliciwch y blwch ticio Wedi graddio (Graded) [4]. Wrth greu aseiniad wedi’i raddio, mae opsiynau ychwanegol yn ymddangos, lle gallwch chi ddewis nifer o bwyntiau, ychwanegu adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr, a dewis opsiynau eraill. Dysgu mwy am greu aseiniad wedi’i raddio ar gyfer pawb, myfyrwyr unigol, adrannau o gwrs, neu grwpiau mewn cwrs.
I adael i ddefnyddwyr hoffi atebion trafodaeth, cliciwch y blwch ticio Caniatáu Hoffi (Allow liking) [5]. I sicrhau mai dim ond graddwyr y cwrs sy’n gallu defnyddio’r swyddogaeth hoffi, cliciwch y blwch ticio Dim ond graddwyr sy’n cael hoffi (Only graders can like) [6]. Dim ond defnyddwyr gyda chaniatâd Golygu Graddau sy’n gallu gweld y ddolen Hoffi. Fodd bynnag, mae’r holl ddefnyddiwr dal yn gallu gweld y nifer sy’n hoffi pob ymateb.
I ychwanegu trafodaeth heb ei graddio at y tasgau sydd gan fyfyriwr i’w gwneud, ticiwch y blwch Ychwanegu at y tasgau sydd gan fyfyriwr i’w gwneud (Add to student to-do) [6]. Mae’r tasgau sydd gan fyfyriwr i’w gwneud yn ymddangos yng nghalendr y cwrs, yn y Dangosfwrdd Gwedd Rhestr penodol i fyfyrwyr, ac yn rhestr tasgau i’w gwneud tudalen hafan y cwrs a thudalen hafan y safle cyfan. Mae mathau o gwisiau a fydd yn cael eu graddio i’w gweld yn y Maes Llafur, Llyfr Graddau, Calendr, a’r Rhestr o dasgau i’w gwneud.
I wneud y drafodaeth yn drafodaeth grŵp, cliciwch y blwch ticio Mae Hon yn Drafodaeth Grŵp (This is a Group Discussion) [7].
Sylwch:
- Does dim modd graddio’n ddienw mewn trafodaeth wedi’i graddio.
- Nid yw trafodaeth wedi’i graddio yn gallu bod yn ddienw; rhaid i enwau a lluniau proffil myfyrwyr fod i’w gweld i aelodau eraill o’r cwrs.
- Unwaith mae ymatebion i edeifion mewn trafodaeth, nid oes modd i chi newid y gosodiad Peidio â chaniatáu ymatebion i edeifion.
- Weithiau, bydd myfyrwyr yn gallu gweld ymatebion eraill cyn rhoi ymateb eu hunain drwy ddileu eu postiadau. Gallwch newid gosodiadau eich cwrs i atal myfyrwyr rhag dileu eu hymatebion.
Rheoli Gosodiadau Aseiniadau
![](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/716/147/original/54471d0c-b9ce-46a5-8cbe-70b7b66a7133.png)
Yn ddiofyn, mae pob adran a myfyriwr o’ch cwrs yn gallu gweld a chyfrannu at y drafodaeth.
I nodi adrannau neu ddefnyddwyr penodol ar gyfer eich trafodaeth, ychwanegwch myfyrwyr a neilltuwyd a dyddiadau ar gael.
Dewis Myfyrwyr a Neilltuwyd
![](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/716/149/original/378a8188-a8e6-4c9c-a641-2d54fbea4674.png)
I ychwanegu myfyriwr a neilltuwyd cliciwch ar y maes Rhoi I (Assign To) [1]. Yna, dewiswch un neu fwy o’r myfyrwyr a neilltuwyd. Gallwch neilltuo adran o’r cwrs [2], neu fyfyriwr unigol [3] i bawb.
Dod o hyd i Fyfyriwr neu Adran
![](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/716/151/original/d65b0256-fd3c-4968-b3c7-a286e2605b29.png)
I ddod o hyd i fyfyriwr neu adran yn haws, rhowch rai o lythrennau’r enw [1] a dewiswch yr enw o restr wedi’i hidlo [2].
I dynnu myfyriwr a neilltuwyd, cliciwch yr eicon Tynnu (Remove) [3].
Rhowch Ddyddiadau Ar Gael
![](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/716/153/original/96eb0fd7-bb4a-4a61-83a3-2b20321573df.png)
Gall myfyrwyr weld y drafodaeth yn ddiofyn ar unrhyw amser yn ystod dyddiadau’r cwrs neu’r adran. Fodd bynnag, i roi dyddiadau ac amseroedd penodol pan fydd dyddiad erbyn neu gyfnod trafodaeth ar gael, rhowch ddyddiadau ac/neu amseroedd yn yr ardaloedd Ar gael o (Available from) [1] a Tan (Until) [2].
Nodiadau:
- Cyn y dyddiad Ar gael o (Available From), dim ond teitl y drafodaeth fydd myfyrwyr yn gallu ei weld. Ar ôl y dyddiad Tan (Until), bydd modd i fyfyrwyr weld y pwnc trafod a phob ateb ond ni fydd modd ychwanegu na golygu unrhyw atebion.
- Mae Canvas yn dangos dyddiad ac amser y gylchfa amser yn unol â’r cyd-destun [3]. Os ydych chi’n rheoli cyrsiau mewn cylchfa amser wahanol i’ch cylchfa amser leol ac yn creu neu’n golygu dyddiad erbyn trafodaeth, yna mae amser y cwrs a’r amser lleol yn cael eu dangos er gwybodaeth.
Gosod Dyddiadau ac Amseroedd
![](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/716/155/original/b2a9e8e7-25ac-496f-b091-0e1cc8d988a5.png)
I osod dyddiadau, rhowch ddyddiad yn y maes Ar gael o (Available from) neu Tan (Until) [1]. Neu cliciwch y maes a dewis dyddiad o’r calendr [2].
I osod amseroedd, rhowch amser neu cliciwch ar y gwymplen Amser (Time) a dewis amser [3].
Nodiadau:
- I dynnu dyddiadau ac amseroedd a ddewiswyd, cliciwch y ddolen Clirio (Clear) [4].
- Yn y calendr, mae’r dyddiad presennol yn cael ei ddangos mewn cylch glas [5].
Ychwanegu Manylion Aseiniad Ychwanegol
![](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/716/157/original/e4be3d9f-d9b5-4f6e-8091-a41819daf477.png)
I neilltuo i fyfyrwyr neu adrannau eraill gyda gwahanol ddyddiadau ac amseroedd, cliciwch y botwm Neilltuo i (Assign To). Yna, neilltuwch fyfyrwyr eraill a dyddiadau ar gael.
Gweithredu Manylion
![](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/727/948/original/befa5902-cb22-4505-9e0d-da241cd3cf28.png)
I gadw manylion eich aseiniad trafod, cliciwch y botwm Cadw (Save).
Cadw Trafodaeth
![Cadw Trafodaeth](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/661/408/original/177e9b8f-3dbd-496e-9865-91b83a134011.png)
Mae’r label Newidiadau yn Aros (Pending Changes) yn ymddangos [1].
Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich trafodaeth, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save and Publish) [2].
I greu drafft o’ch trafodaeth a’i chyhoeddi rywbryd eto, cliciwch y botwm Cadw (Save) [3].
Cyhoeddi
![Cyhoeddi Trafodaeth Ddrafft](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/586/015/original/e4c20323-fe33-4980-8a97-fbc001ace07f.png)
Os wnaethoch chi gadw eich trafodaeth fel drafft, gallwch chi ei chyhoeddi ar unrhyw adeg drwy glicio’r eicon Cyhoeddi (Publish).