Sut ydw i’n defnyddio’r Dudalen Mynegai Cwisiau (Quizzes Index)?
Gallwch weld holl gwisiau eich cwrs ar y dudalen Mynegai Cwisiau (Quizzes Index). Fel addysgwr, gallwch hefyd ychwanegu cwisiau ac addasu gosodiadau cwisiau.
Sylwch: Os ydych chi'n defnyddio LTI New Quizzes yn eich cwrs, bydd y dudalen Cwisiau hefyd yn dangos cwisiau New Quizzes. I gael help gyda swyddogaethau New Quizzes, ewch i’r bennod New Quizzes.
Agor Cwisiau
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs, cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).
Gweld y Dudalen Mynegai Cwisiau
Mae’r dudalen Mynegai Cwisiau (Quizzes Index) wedi’i dylunio gyda gosodiadau cyffredinol ar frig y dudalen [1], ac yna’r mathau o Gwisiau wedi’u grwpio [2]. Mae cwisiau unigol wedi eu gosod o fewn pob math o Gwis [3].
Gweld Gosodiadau Cyffredinol Cwisiau
Mae’r gosodiadau cyffredinol yn cynnwys chwilio am gwisiau [1] ac ychwanegu cwisiau newydd [2]. Hefyd, gallwch reoli opsiynau cwis cwrs yn y ddewislen Opsiynau (Options) [3]:
Gweld Opsiynau Cwisiau
Yn y ddewislen Opsiynau, gallwch chi reoli banciau cwestiynau cwrs [1].
Os ydy eich sefydliad wedi galluogi New Quizzes gallwch chi ddewis cadw eich dewis o beiriant cwis wrth greu cwis, gallwch chi ailosod y dewis rydych chi wedi’i gadw. I ailosod eich dewis o beiriant cwis, dewiswch yr opsiwn Ailosod y dewis o beiriant cwis (Reset quiz engine choice) yn y gwymplen opsiynau.
Gweld Grwpiau Cwisiau
Mae modd ehangu a chrebachu grwpiau cwisiau drwy glicio’r saeth wrth yr enw.
Gweld Asesiadau New Quizzes
Os ydych chi'n defnyddio LTI New Quizzes yn eich cwrs, bydd y dudalen Cwisiau yn dangos asesiadau New Quizzes gyda'r eicon New Quizzes [1]. Mae cwisiau sydd wedi cael eu creu gydag adnodd cwisiau clasurol Canvas wedi’u nodi gyda yr eicon Classic Quiz [2]. Gellir defnyddio'r ddau fath o gwis yn yr un cwrs.
Am gymorth gyda swyddogaethau New Quizzes, ewch i weld y bennod New Quizzes yn y Canllaw Addysgwyr
Gweld Cwis Unigol
Mae pob cwis yn dangos enw’r cwis [1], dyddiad erbyn (os oes un) [2], sawl pwynt mae’r cwis ei werth [3], sawl cwestiwn sydd yn y cwis [4], a statws drafft y cwis (wedi’i gyhoeddi neu heb ei gyhoeddi) [5].
Gallwch hefyd osod gwahanol ddyddiadau erbyn ar gyfer cwis, a chreu dyddiadau erbyn [6] yn unol ag adran y cwrs. Mae gwahanol ddyddiadau erbyn yn ymddangos fel mwy nag un dyddiad.
Nodyn: Does dim rhaid i gwis fod â dyddiadau erbyn.
Gweld Dyddiadau Ar Gael
Mae cwisiau hefyd yn gallu cynnwys dyddiadau ar gael. Mae dyddiadau ar gael yn gallu golygu nad yw aseiniad ond ar gael am gyfnod penodol.
Rheoli Cwis Unigol
I reoli cwis unigol, cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [1].
Yn y gwymplen Opsiynau, gallwch olygu'r cwis [2], agor SpeedGrader [3], dileu'r cwis [4], symud y cwis i Gwis Newydd [5], anfon y cwis at addysgwr arall [6], neu gopïo'r cwis i gwrs arall [7].
Sylwch: Mae'r opsiwn mudo ar gael os ydy'r opsiwn nodwedd New Quizzes wedi'i alluogi yn eich cwrs.
Gweld Cwisiau SIS
Os yw eich sefydliad wedi galluogi integreiddio system gwybodaeth myfyrwyr (SIS), gallwch weld a yw cwis wedi ei osod i gael ei anfon i SIS eich sefydliad. Mae modd galluogi cwisiau’n uniongyrchol drwy glicio’r eicon cysoni drws nesaf i’r cwis.
Nodyn: Efallai y bydd rhai sefydliadau yn cyfyngu ar enwau cwisiau a/neu yn gwneud dyddiadau erbyn i gwisiau yn ofynnol. Os ydych chi'n ceisio galluogi cwis ac yn derbyn neges gwall, bydd y neges yn dangos pa ofynion sydd angen cael eu datrys cyn bod modd galluogi’r cwis a’i gysoni â'ch SIS.
Gweld MasteryPaths
Os ydych chi’n defnyddio MasteryPaths ar eich cwrs, gallwch weld pa eitemau sydd wedi cael eu gosod yn yr adran Modiwlau fel MasteryPaths neu fel eitemau cynnwys amodol.
Gweld Cwrs Glasbrint
Os yw eich cwrs yn cynnwys eiconau Glasbrint (Blueprint), yna mae eich cwrs yn gysylltiedig â chwrs glasbrint. Mae Cyrsiau Glasbrint yn gyrsiau sy’n cael eu rheoli fel templed a gallant gynnwys gwrthrychau wedi’u cloi ac wedi’u rheoli gan weinyddwr, dylunydd cyrsiau, neu addysgwr arall yn Canvas.
Bydd y tab Manylion Cwrs yng Ngosodiadau’r Cwrs yn rhoi gwybod i chi os yw eich cwrs yn gwrs glasbrint. Fel arfer, ni fydd eich cwrs yn gwrs glasbrint a dim ond cynnwys wedi’i ddatgloi fyddwch chi’n gallu ei reoli yn eich cwrs. Os yw eich cwrs yn gwrs glasbrint, gallwch gloi a chysoni cynnwys cwrs â chyrsiau cysylltiedig.