Sut ydw i’n creu aseiniad?
Gallwch greu aseiniadau ar y dudalen Aseiniadau. Gallwch greu cragen aseiniad, sef dalfan ar gyfer aseiniad o fewn grŵp aseiniadau, neu gallwch greu aseiniad cyfan gyda holl fanylion yr aseiniad.
00:00: Sut ydw i’n creu aseiniad yn fy nghwrs? 00:03: Ar y dudalen Mynegai Aseiniadau, mae sawl ffordd y gallwch greu aseiniad. I greu cragen mewn grŵp o aseiniadau, dewiswch yr arwydd adio ym mhenawd y grŵp. 00:13: Yn yr is-ffenestr Ychwanegu Aseiniad, rhowch enw a manylion eraill. 00:17: Cliciwch Cadw i greu cragen aseiniad. Er mwyn i fyfyrwyr allu ei weld, cliciwch Cadw a Chyhoeddi yn lle. 00:24: I greu aseiniad mewn grŵp a gosod ei fanylion, cliciwch yr arwydd adio ym mhennawd y grŵp. 00:30: Llenwch y meysydd anghenrheidiol yn yr is-ffenestr ac yna cliciwch Mwy o Opsiynau. 00:34: Ychwanegwch gynnwys gan gynnwys cyfarwyddiadau ac awgrymiadau yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, neu RCE. 00:40: Gosodwch fanylion yr aseiniad. 00:43: Cliciwch y botwm Cadw, neu os ydych chi’n barod i’r myfyrwyr allu gweld yr aseiniad, dewiswch Cadw a Chyhoeddi. 00:50: Cliciwch ar Aseiniadau yn y cwrs neu’r ddewislen crwydro briwsion i ddychwelyd i’r dudalen Mynegai Aseiniadau. 00:56: I greu aseiniad gyda’i fanylion, cliciwch y botwm Ychwanegu Aseiniad. 01:02: Rhowch enw i’r aseiniad a chyfansoddi ei gynnwys yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. 01:07: Gosodwch fanylion yr aseiniad o ran graddio, cyflwyno, a dyddiadau erbyn. 01:12: Cliciwch y botwm Cadw, neu os ydych chi’n barod i’r myfyrwyr allu gweld yr aseiniad, dewiswch Cadw a Chyhoeddi. 01:19: Cliciwch ar yr Aseiniadau yn y ddewislen crwydro briwsion neu’r cwrs i ddychwelyd i’r dudalen Mynegai Aseiniadau. 01:25: Roedd y canllaw hwn yn trafod sut i greu aseiniad newydd yn fy nghwrs.
Agor Aseiniadau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).
Ychwanegu Cragen Aseiniad
Os ydych chi am greu dalfan ar gyfer aseiniad gyda theitl a dyddiad, gallwch greu cragen aseiniad mewn grŵp aseiniadau.
Mae grwpiau aseiniadau’n cynnwys y gwahanol fathau o aseiniadau y gallech chi fod eisiau eu cadw yn eich cwrs, fel aseiniadau, trafodaethau, cwisiau, arolygon, ac ati [1]. Os byddwch chi’n creu grwpiau aseiniadau yn eich cwrs, bydd myfyrwyr yn gallu hidlo eu tudalen aseiniadau yn ôl math o aseiniad i weld yr un grwpiau. Gallwch ddysgu sut mae ychwanegu grŵp aseiniadau.
I greu cragen aseiniad, chwiliwch am grŵp aseiniadau a chlicio’r botwm Ychwanegu Aseiniad (Add Assignment) [2]. Dim ond meysydd ar gyfer math o aseiniad, enw, dyddiad erbyn (dewisol) a phwyntiau sydd wedi’u cynnwys mewn cragen aseiniad. Gallwch ychwanegu manylion aseiniad ar unrhyw adeg drwy olygu’r aseiniad.
Ychwanegu Aseiniad
Os ydych chi am greu aseiniad gyda holl fanylion yr aseiniad ar yr un pryd, cliciwch y botwm Ychwanegu Aseiniad (Add Assignment).
Mae manylion yr aseiniad yn cynnwys meysydd ar gyfer y math o aseiniad, enw, disgrifiad, pwyntiau, grŵp aseiniadau (os ydych yn dymuno), dull dangos graddau, math o gyflwyniad a dyddiadau erbyn. Gallwch hefyd nodi a yw’r aseiniad yn aseiniad grŵp neu’n galw am adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn y wers manylion aseiniad.
Pan fyddwch chi’n ychwanegu manylion at aseiniad, gallwch hefyd neilltuo’r aseiniad i’r holl fyfyrwyr, adrannau cwrs, grwpiau cwrs, neu fyfyrwyr unigol fel rhan o’r nodwedd aseiniadau wedi’u gwahaniaethu yn Canvas.