Sut ydw i’n defnyddio aseiniadau adolygiad gan gyd-fyfyrwyr mewn cwrs?
Mae aseiniad adolygiad gan gyd-fyfyrwyr yn gadael i fyfyrwyr ddarparu adborth ar gyflwyniad aseiniad myfyriwr arall. Mae adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn adnodd sy’n caniatáu cyfathrebu rhwng myfyrwyr ac mae’n gallu helpu myfyrwyr i feistrolo cysyniadau cwrs a dysgu oddi wrth ei gilydd. Mae adolygiad gan gyd-fyfyrwyr hefyd yn gallu cael eu neilltuo i ddangos enwau myfyrwyr neu eu dangos yn ddi-enw.
Nodyn: Dim ond ar ôl iddyn nhw gyflwyno gwaith i’r aseiniad y gall myfyrwyr weld aseiniadau adolygiad gan gyd-fyfyrwyr.
Gweld Aseiniadau Adolygiad gan Gyd-fyfyrwyr
Pan fyddwch chi neu gynorthwyydd dysgu yn creu aseiniad adolygiad gan gyd-fyfyrwyr, gallwch chi neilltuo adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr eich hun neu gallwch chi wneud i Canvas eu neilltuo’n awtomatig [1]/ Mae aseiniadau grŵp hefyd yn gallu bod yn adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr wedi’u neilltuo.
Pan fydd adolygiad gan gyd-fyfyrwyr wedi cael ei neilltuo, gall myfyrwyr weld hysbysiad yn Ffrwd Gweithgarwch neu far ochr Tasgau i’w Gwneud eu Dangosfwrdd neu Bydd myfyrwyr hefyd yn cael hysbysiad drwy e-bost.
Os nad yw’r aseiniad yn fath o aseiniad Ar Bapur neu Dim Cyflwyno, bydd myfyrwyr hefyd yn gallu gweld gwybodaeth yr adolygiad gan gyd-fyfyriwr ym mar ochr tudalen fanylion yr aseiniad.
Gweld Sylwadau Adolygiad gan Gyd-fyfyrwyr
I gwblhau adolygiad gan gyd-fyfyriwr, rhaid i fyfyrwyr adolygu’r aseiniad a gadael sylw ar dudalen fanylion y cyflwyniad [1].
Does dim modd i fyfyrwyr weld sylwadau sydd wedi cael eu cyflwyno gan adolygwyr eraill, gan gynnwys sylwadau gan gynorthwywyr dysgu neu addysgwyr eraill.
Gallwch chi hefyd neilltuo cyfarwyddyd sgorio i'r aseiniad. Os ydy’r aseiniad yn cynnwys cyfarwyddyd sgorio [2], dim ond y cyfarwyddyd sgorio y mae’n rhaid i fyfyrwyr ei gwblhau i gwblhau’r adolygiad gan gyd-fyfyriwr. Ond, gallwch chi ddewis gofyn i’ch myfyrwyr adael sylw yn y bar och sylwadau. Mae sgôr y cyfarwyddyd sgorio’n cael ei ddefnyddio fel barn asesu yn unig; rhaid i chi adolygu'r aseiniad a neilltuo’r radd derfynol.
Gweld Graddau Adolygiad gan Gyd-fyfyrwyr
Nid yw myfyrwyr yn derbyn gradd am gwblhau adolygiad gan gyd-fyfyriwr. Os hoffech chi neilltuo pwyntiau ychwanegol ar gyfer adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr, gallwch chi greu aseiniad Dim Cyflwyno yn y Llyfr Graddau a neilltuo pwyntiau eich hun. Bydd tudalen Adolygiad gan Gyd-fyfyrwyr yr aseiniad yn dangos enwau myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r adolygiad gan gyd-fyfyriwr.
Gweld Adolygiadau Dienw gan Gyd-Fyfyrwyr
Fel rhan o greu adolygiad gan gyd-fyfyriwr, mae’r opsiwn di-enw yn gadael i chi guddio enw’r myfyriwr sy’n adolygu oddi wrth y myfyriwr gyda’r cyflwyniad. Does dim modd i’r adolygwr weld enw’r person wedi’i neilltuo y bydd ei waith yn cael ei adolygu, a does dim modd i’r myfyriwr a gyflwynodd yr aseiniad weld enwau sy’n gysylltiedig ag unrhyw sylwadau.
Nodiadau am Adolygiadau Dienw gan Gyd-fyfyrwyr
- Mae hysbysiadau e-bost sy’n caeel eu hanfon at fyfyrwyr am adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn ddi-enw. Nid yw myfyrwyr sy’n adolygu yn gallu gweld enw’r person y maen nhw’n adolygu ei waith.
- Ar ôl i adolygiad gan gyd-fyfyriwr gael ei neilltuo, does dim modd newid y gosodiad gweld. Er enghraifft, does dim modd gwneud adolygiad arferol gan gyd-fyfyriwr yn ddi-enw yn nes ymlaen—ac ymddangos yn ddi-enw—oni bai fod yr adolygiad gan gyd-fyfyriwr yn cael ei ddileu a’i ail-neilltuo.
- Dydy Canvas DocViewer ddim yn gallu delio â sylwadau dienw, felly does dim modd ei ddefnyddio ar gyfer adborth ag anodiadau ar aseiniadau sydd ag adolygiadau dienw gan gyd-fyfyrwyr.
- Pan fydd adolygiadau dienw gan gyd-fyfyrwyr yn cael eu galluogi, byddwch chi a’ch chynorthwywyr dysgu’n dal yn gallu gweld enwau’r myfyrwyr sy’n adolygu yn SpeedGrader ac ar dudalen cyflwyno’r myfyriwr. Ond, os yw graddio dienw’n cael ei alluogi yn SpeedGrader, bydd enwau'r ddau fyfyriwr yn cael eu cuddio yn SpeedGrader ond ddim ar dudalen cyflwyno’r myfyriwr.