Sut ydw i’n fformatio ffeiliau testun CSV ar gyfer llwytho data SIS i fyny i gyfrif Canvas?

Mae Canvas yn caniatáu i chi fewngludo ffeiliau CSV i greu defnyddwyr, cyfrifon, tymhorau, cyrsiau, adrannau, ymrestriadau a mewngofnodiadau eich hun mewn swp drwy'r rhyngwyneb Gweinyddwr.

Mae'r ddogfen hon yn cynnwys tudalen API Fformat CSV Mewngludo SIS (SIS Import CSV Format API), lle mae'r rhan fwyaf o wybodaeth CSV wedi'i lleoli. Mae pob ffeil CSV yn symbiotig ag un arall ac yn dweud wrth Canvas sut mae rheoli holl wybodaeth y cyfrif. Gallwch weld diagram perthynas SIS.

Ffeiliau Enghreifftiol

Mae pob cam yn y wers hon yn darparu manylion am y ffeiliau CSV a disgrifiadau o bob maes dewisol a gofynnol. Mae pob cam hefyd yn cynnwys dolen i lwytho ffeil CSV enghreifftiol i lawr. Mae ffeiliau enghreifftiol yn cynnwys pob maes gofynnol ac efallai y byddan nhw hefyd yn cynnwys meysydd dewisol. Ar ben hynny, gallwch chi lwytho pecyn wedi’i sipio i lawr sy’n cynnwys pob ffeil enghreifftiol. Os nad yw dolenni CSV yn llwytho i lawr, rhowch gynnig ar agor y ddolen mewn ta newydd.

Dylech ymarfer mewngludo data yn eich amgylchedd prawf Canvas cyn mewngludo unrhyw gynnwys i’ch amgylchedd cynhyrchu.

Fformat Ffeil CSV

Er mwyn llwytho data i fyny i Canvas mewn swp, rhaid i chi greu un neu ragor o ffeiliau testun CSV. Gellir defnyddio sawl rhaglen i greu ffeiliau CSV. Yn aml iawn, mae gan Systemau Gwybodaeth am Fyfyriwr (SIS) ffordd o lunio adroddiadau mewn fformat CSV mae modd ei addasu i’r fformat mae Canvas yn gofyn amdano. Os dydych chi ddim yn gwybod sut mae cadw ffeil ar fformat CSV, edrychwch yn nogfennau'r rhaglen rydych chi’n ei defnyddio i greu eich ffeil CSV (e.e. Excel).

Wrth ddefnyddio’r fformat Instructure i fewngludo ffeiliau yn y dudalen Mewngludo SIS, gallwch fewngludo un ffeil testun CSV neu gallwch gywasgu mwy nag un ffeil i un ffeil ZIP i fewngludo data mewn swp. Os ydych chi’n llwytho ffeiliau unigol i fyny eich hun, rhaid eu llwytho yn y drefn a ddangosir yn y wers hon.

Fformatio Maes CSV

Rhaid i res gyntaf eich ffeil CSV (pennyn) gynnwys enw maes cyflawn pob ffeil. Dydy trefn y colofnau ddim yn bwysig ond mae’n bwysig bod y rhesi mewn trefn briodol ar gyfer ffeiliau fel accounts.csv.

Meysydd Gludiog

Yn ddiofyn, dydy newidiadau penodol sy’n cael eu gwneud yn rhyngwyneb y defnyddiwr ddim yn cael eu disodli gan brosesau mewngludo SIS yn y dyfodol, a bydd y rhain yn cael eu nodi fel rhai gludiog. Mae pob maes gludiog yn cael eu nodi yn y ddogfen hon. Gallwch chi ddisodli'r meysydd hyn drwy osod override_sis_stickiness yn yr API neu drwy roi tic ym mlwch ticio Diystyru newidiadau i ryngwyneb y defnyddiwr (Override UI changes) ar dudalen Mewngludo SIS (SIS Import).

Dogfennau API

Dim ond set benodol o feysydd sydd mewn ffeiliau CSV. Mae Canvas yn cynnwys gwerthoedd ychwanegol sydd ar gael drwy bob API unigol. Ar ôl rhedeg y ffeiliau CSV ar gyfer eich sefydliad, yr hyn mae'r rhan fwyaf o sefydliadau’n ei wneud fel arfer yw llwytho pob ffeil CSV SIS i fyny ac wedyn defnyddio API Canvas i ddiweddaru priodoleddau llawn cyfrifon a chyrsiau. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Dogfennau API Canvas ar gyfer Defnyddwyr, Cyfrifon, Tymhorau, Cyrsiau, Adrannau, Ymrestriadau, a Grwpiau. Mae modd rheoli nodwedd Mewngludo SIS hefyd drwy ddefnyddio API Mewngludo SIS (SIS Imports API).

users.csv

Pobl sydd â chyfrifon defnyddiwr mewn sefydliad yw defnyddwyr. Mae users.csv yn ychwanegu pobl i’r system fel defnyddwyr generig. Bydd enrollments.csv yn neilltuo rôl (athro, myfyriwr, ayb.) i’r defnyddwyr hyn. Pan fydd cyfrif defnyddiwr yn cael ei ddileu, bydd pob un o’u hymrestriadau yn cael eu dileu hefyd, a fyddan nhw ddim yn gallu mewngofnodi i’w cyfrif Canvas. Os ydych chi dal am i’r defnyddiwr allu mewngofnodi ond ddim cymryd rhan neu os ydych chi am eu dileu o gwrs penodol, dylech adael eu cyfrif defnyddiwr fel rhai gweithredol a newid eu hymrestriad (yn yr enrollments.csv) i rai sydd wedi’u cwblhau neu eu dileu, yn y drefn honno.

Llwythwch ffeil enghreifftiol users.csv i lawr sydd â 10 cyfrif defnyddiwr Canvas.

Maes gofynnol* | Maes Gludiog^

  • user_id*: Gwerth unigryw yw hwn sy’n cael ei ddefnyddio i adnabod unrhyw un sydd â chyfrif Canvas. Chaiff y gwerth hwn ddim newid ar gyfer y defnyddiwr, a rhaid iddo fod yn unigryw ar draws yr holl ddefnyddwyr. Yn y rhyngwyneb defnyddiwr, gelwir hyn yn ID SIS a gall gynnwys unrhyw gyfuniad o nodau. Gallwch ddod o hyd i’r ID SIS hwn drwy fynd i gyfrif unrhyw ddefnyddiwr ac edrych ar eu Gwybodaeth am Fewngofnodi (Login Information).
  • integration_id: Ail ddynodydd unigryw yw hwn ac mae’n ddefnyddiol ar gyfer prosesau integreiddio SIS mwy cymhleth. Chaiff y dynodydd hwn ddim newid ar gyfer y defnyddiwr, a rhaid iddo fod yn unigryw ar draws y system.
  • login_id*^Dyma’r enw defnyddiwr y bydd rhywun yn ei ddefnyddio i fewngofnodi i Canvas. Os oes gennych chi wasanaeth dilysu sydd wedi’i ffurfweddu (fel LDAP), bydd hyn yn paru eu henw defnyddiwr yn y system o bell fel arfer. Gall Login_id gynnwys llythrennau, rhifau, neu’r symbolau canlynol:  - _ = + . @
  • password:  Os yw'r cyfrif wedi'i ffurfweddu i ddefnyddio LDAP neu brotocol SSO, does dim angen hyn. Fel arall, dyma'r cyfrinair ar gyfer yr 'login_id' uchod. Rhaid i’r cyfrinair hwn gynnwys o leiaf 8 nod.
  • ssha_password: Yn lle cyfrinair testun plaen, gallwch basio cyfrinair sydd wedi'i stwnshio ymlaen llaw (pre-hashed password) gan ddefnyddio cynllun creu cyfrinair SSHA yn y maes hwn. Er bod hyn yn well na phasio cyfrinair testun plaen, dylech ddal annog defnyddwyr i newid eu cyfrinair ar ôl mewngofnodi am y tro cyntaf. Gallwch ddysgu sut mae creu cyfrineiriau SSHA (SSHA passwords).
  • authentication_provider_id: Dyma’r darparwr dilysu sy’n gysylltiedig â'r manylion mewngofnodi. Bydd unrhyw fanylion mewngofnodi sy’n gysylltiedig â darparwr penodol ond yn cael eu rhoi ar waith gyda'r darparwr hwnnw. Bydd hen ddarparwyr (LDAP, CAS, SAML) yn chwilio am unrhyw fanylion mewngofnodi sy’n gysylltiedig â nhw, neu unrhyw fanylion mewngofnodi heb fod yn gysylltiedig. Dim ond am fanylion mewngofnodi sy’n gysylltiedig â nhw’n unig y bydd darparwyr newydd yn chwilio amdanynt. Gall hyn fod yn ID cyfanrif y darparwr, neu'r math o ddarparwr (os felly, bydd yn chwilio am y darparwr cyntaf sy’n cyfateb).  
  • first_name^:  Hwn yw enw bedydd (enw cyntaf) y defnyddiwr. Os oes un, mae’n cael ei ddefnyddio i greu full_name a/neu sortable_name.
  • last_name^:  Hwn yw cyfenw (enw olaf) y defnyddiwr. Os oes un, mae’n cael ei ddefnyddio i greu full_name a/neu sortable_name.
  • full_name^: Hwn yw enw bedydd a chyfenw'r defnyddiwr. Tynnwch first_name ac last_name os yw hyn wedi'i roi.
  • sortable_name^: Dyma'r opsiwn enw mewn trefn yn Canvas, fel arfer yn deillio o enw'r defnyddiwr, ond mae modd ei addasu.
  • short_name^: Dyma enw arddangos y defnyddiwr, fel arfer yn deillio o enw'r defnyddiwr, ond mae modd ei addasu.
  • e-bost:  Dyma gyfeiriad e-bost sydd wedi'i neilltuo gan y sefydliad a hwn hefyd fydd y cyfeiriad e-bost diofyn ar gyfer cyfrif y defnyddiwr hwn. Dylid dal rhoi’r cyfeiriad e-bost hwn hyd yn oed os yw’r un fath ag login_id defnyddiwr.
  • rhagenwau: Os ydy rhagenwau personol wedi’u galluogi, dyma’r rhagenwau personol fydd yn ymddangos ar ôl enw defnyddiwr yn Canvas. Mae’r maes rhagenwau’n derbyn pob rhagenw, hyd yn oed os na chawson nhw eu creu yn y dudalen Gosodiadau Cyfrif.
  • declared_user_type: Gall y math hwn o ddefnyddiwr wedi’i ddatgan fod yn weinyddwr, arsyllwr, staff, myfyriwr, myfyriwr arall, neu athro. Gellir pasio "<delete>" i dynnu’r math o ddefnyddiwr wedi’i ddatgan o’r defnyddiwr.
  • canvas_password_notification: Mae'n ffug yn ddiofyn. Pan fo’n wir, mae’r defnyddiwr yn cael hysbysiad i osod cyfrinair os mai’r authentication_provider_id yw Canvas. Os nad oes gan eich sefydliad integreiddiad SIS Canvas, mae’n rhaid llenwi’r maes hwn i roi gwybod i ddefnyddwyr newydd fod eu cyfrifon wedi cael eu creu.
  • home_account: Bydd gosod yr home_account fel gwir yn creu defnyddiwr newydd yn y cyfrif targed ar gyfer mewngludo SIS ac yn ei gyfuno a defnyddiwr cyfredol arall o gyfrif arall o fewn y consortiwm gydag integration_id sy’n cyfateb. Bydd yn cael ei anwybyddu oni bai bod y cyfrif targed yn gysylltiedig â chonsortiwm cyfuno awtomatig.
  • status*^:  Yma, gallwch ychwanegu neu dynnu defnyddiwr o Canvas. Marciwch nhw fel rhai gweithredol er mwyn ychwanegu defnyddiwr, wedi atal er mwyn atal defnyddiwr, neu wedi dileu i dynnu defnyddiwr sy’n bodoli’n barod.

Gwrthdaro rhwng cyfeiriadau e-bost

Mae Canvas yn adnabod defnyddwyr yn ôl cyfeiriadau e-bost. Pan gaiff myfyrwyr eu hychwanegu i gwrs, bydd Canvas yn ceisio cysoni unrhyw wrthdaro rhwng cyfeiriadau e-bost pan fydd y defnyddiwr yn mewngofnodi i’r cwrs am y tro cyntaf.

Fel arfer, mae cyfeiriadau e-bost yn unigryw i bob myfyriwr. Weithiau, efallai bod sawl myfyriwr yn rhannu un cyfeiriad e-bost. Wrth ychwanegu myfyrwyr i gyrsiau drwy’r nodwedd Mewngludo SIS, bydd Canvas yn gwybod pan fydd cyfeiriad e-bost wedi'i neilltuo i fwy nag un myfyriwr.

  • Os yw ID SIS newydd yn gysylltiedig â chyfeiriad e-bost sydd eisoes wedi'i neilltuo i ID SIS sy’’n bodoli’n barod, bydd Canvas yn anfon e-bost i’r cyfeiriad e-bost.
  • Pan fydd defnyddwyr yn cael eu hychwanegu i gyfrif drwy'r nodwedd Mewngludo SIS, fyddan nhw ddim yn cael hysbysiad e-bost oni bai fod y system yn gweld bod defnyddiwr dyblyg. Ond, os bydd defnyddiwr yn cael ei ychwanegu neu’n ymrestru ei hun, bydd yn cael e-bost yn dweud ei fod wedi cael ei ychwanegu neu ei ymrestru ar gwrs newydd. Bydd y myfyriwr sy’n rhannu cyfeiriad e-bost yn cael hysbysiad bod y cyfeiriad e-bost yn cael ei ddefnyddio’n barod, a gofynnir iddo greu cyfrif newydd yn Canvas. Gall hyn ddigwydd hefyd wrth ychwanegu defnyddiwr at yr ymrestriad ar gwrs.

accounts.csv

Uned sefydliad yn Canvas yw cyfrif (e.e., cyfrif rhiant y sefydliad). Gall pob cyfrif gynnwys hierarchaeth o isgyfrifon, fel creu cyfrifon ar gyfer colegau unigol o fewn sefydliad, neu ar gyfer ysgolion unigol mewn ardal. Gall isgyfrifon fod â sawl isgyfrif hefyd, er enghraifft pan fydd coleg yn rhannu’n adrannau neu’n rhaglenni, neu ysgol yn rhannu'n lefelau gradd neu’n bynciau.

Llwythwch ffeil enghreifftiol accounts.csv i lawr sydd â’r isgyfrifon canlynol:

  • 3 isgyfrif yn eich prif gyfrif/cyfrif gwraidd. (Celfyddydau a Dyniaethau, Busnes, Mathemateg a Gwyddoniaeth)
  • 4 isgyfrif yn eich isgyfrif Busnes. (Cyfrifyddu, Cyfrifiadureg, Economeg, a Marchnata)
  • 3 isgyfrif yn eich isgyfrif Mathemateg a Gwyddoniaeth. (Bioleg, Ffiseg, ac Ystadegau)
  • 1 isgyfrif yn eich isgyfrif Celfyddydau a Dyniaethau. (Celfyddydau Gweledol)
  • 2 isgyfrif yn eich isgyfrif Celfyddydau Gweledol. (Ffotograffiaeth, a Chyfryngau Digidol)

Maes gofynnol* | Maes Gludiog^

  • account_id*:  Dynodydd unigryw yw hwn sy’n cael ei ddefnyddio i greu isgyfrif. Bydd y ffeil courses.csv yn caniatáu i chi neilltuo cyrsiau i id cyfrif penodol. Chaiff y dynodydd unigryw hwn ddim newid ar gyfer y cyfrif, a rhaid iddo fod yn unigryw ar draws pob cyfrif. Yn Rhyngwyneb Defnyddiwr Canvas, gelwir hyn yn ID SIS. Mae modd ei addasu drwy fynd i Gosodiadau (Settings) ar gyfer pob isgyfrif priodol.
  • parent_account_id*^: Mae'r dynodydd hwn yn nodi y dylai isgyfrif fod o dan y cyfrif rhiant hwn. Os yw’r maes hwn yn wag, bydd yr isgyfrif yn mynd o dan eich prif gyfrif neu gyfrif gwraidd. Hyd yn oed os bydd yr holl werthoedd yn wag, rhaid cynnwys y golofn er mwyn gwahaniaethu’r ffeil o broses mewngludo grŵp.
  • name*^:  Dyma enw’r isgyfrif.
  • status*: Dyma sut gallwch greu neu dynnu isgyfrif. Marciwch nhw fel rhai gweithredol er mwyn ychwanegu isgyfrif neu wedi dileu i dynnu isgyfrif sy’n bodoli’n barod.
  • integration_id: Ail ddynodydd unigryw yw hwn ac mae’n ddefnyddiol ar gyfer prosesau integreiddio SIS mwy cymhleth. Chaiff y dynodydd hwn ddim newid ar gyfer y cyfrif, a rhaid iddo fod yn unigryw ar draws y system.

terms.csv

Mae tymor yn darparu set ddiofyn o ddyddiadau cychwyn a gorffen i unrhyw gwrs sydd wedi’i neilltuo i'r tymor hwnnw. Mae modd rheoli dyddiadau tymor ar gyfer cyrsiau ar lefel y cwrs heb ffeil mewngludo. Ond, mae rhoi term_id i sawl cwrs gwahanol yn sicrhau bod pob cwrs yn y tymor hwnnw yn cychwyn/gorffen yr un pryd. Bydd dyddiadau tymor sy’n cael eu llwytho i fyny yn eich helpu hefyd i ddidoli a rhoi trefn ar gyrsiau wrth edrych ar ddata ac adroddiadau yn y rhyngwyneb Gweinyddwr.

Llwythwch ffeil enghreifftiol terms.csv i lawr sydd â 10 tymor.

Maes gofynnol* | Maes Gludiog^

  • term_id*:  Dynodydd unigryw ar gyfer y tymor yw hwn. Bydd courses.csv yn caniatáu i chi ddefnyddio’r term_id hwn fel bod eich cyrsiau’n gwybod pryd mae cychwyn a phryd mae gorffen. Chaiff y dynodydd hwn ddim newid ar gyfer y tymor, a rhaid iddo fod yn unigryw ar draws pob tymor. Yn y rhyngwyneb defnyddiwr, gelwir hyn yn ID SIS.
  • name*^:  Dyma enw eich tymor. Meddyliwch am ddull enwi da a fydd yn eich helpu i gyfeirio’n hawdd at eich tymhorau.  Mae llawer o adnoddau gweinyddol ar gael a fydd yn gadael i chi chwilio neu ymholi mewn data yn ôl enw tymor.
  • status*:  Dyma sut gallwch greu neu dynnu tymor. Marciwch nhw fel rhai gweithredol er mwyn ychwanegu tymor neu wedi dileu i dynnu tymor sy’n bodoli’n barod.
  • start_date^:  Dyma’r dyddiad y bydd y tymor yn cychwyn. Dylai’r fformat ddilyn ISO 8601: BBBB-MM-DDTAA:MM:EEZ (Mae modd rhoi bwlch yn lle’r T, fel sydd i’w weld yn y ciplun enghreifftiol.) Er enghraifft byddai Awst 26, 2013 am 5:00pm Amser Safonol Dwyrain yn cael ei nodi fel hyn - 2013-08-26T17:00-5:00
  • end_date^:  Dyma’r dyddiad y bydd y tymor yn gorffen. Dylai’r fformat ddilyn ISO 8601: BBBB-MM-DDTAA:MM:EEZ (Mae modd rhoi bwlch yn lle’r T, fel sydd i’w weld yn y ciplun enghreifftiol.) Yn ddiofyn, mae mynediad defnyddiwr yn cael ei atal am hanner nos ar y dyddiad gorffen rydych chi wedi’i nodi, gan olygu mai’r diwrnod blaenorol yw'r diwrnod llawn olaf y gall defnyddwyr gael mynediad at y tymor. Yr hyn sydd orau i’w wneud yw bod eich dyddiad gorffen yn cael ei osod ar y diwrnod ar ôl i’r tymor ddod i ben.
  • integration_id: Ail ddynodydd unigryw yw hwn ac mae’n ddefnyddiol ar gyfer prosesau integreiddio SIS mwy cymhleth. Chaiff y dynodydd hwn ddim newid ar gyfer y tymor, a rhaid iddo fod yn unigryw ar draws y system.
  • date_override_enrollment_type: Mae hyn yn caniatáu i chi osod neu dynnu dyddiadau cychwyn a gorffen ar gyfer math penodol o ymrestru o fewn tymor sy’n bodoli’n barod. Pan fydd hyn wedi’i osod, bydd pob colofn ac eithrio term_id, status, start_date, a end_date yn cael eu hanwybyddu ar gyfer y rhes. Os bydd y statws wedi'i osod ar ‘gweithredol’, dim ond ar gyfer ymrestriadau o’r math a nodir y bydd dyddiadau’r tymor yn berthnasol. Os bydd y statws wedi'i osod ar ‘wedi dileu’, bydd y dyddiadau sydd wedi'u gosod ar hyn o bryd yn cael eu tynnu ar gyfer y math penodol o ymrestriad. Mae modd gosod math o ymrestriad i Ymrestriad Myfyriwr (StudentEnrollment), Ymrestriad Athro (TeacherEnrollment), Ymrestriad Cynorthwyydd Dysgu (TaEnrollment), neu Ymrestriad Dylunydd (DesignerEnrollment.

courses.csv

Cyflwyniad trefnus ar bwnc penodol yw cwrs. Weithiau, gall cwrs gynnwys cyfres o gyrsiau. Mae cyrsiau’n cael eu rhoi mewn tymhorau i greu dyddiadau cychwyn a gorffen diofyn. Ond, os yw cwrs yn cynnwys dyddiadau cwrs penodol, bydd y dyddiadau hyn yn disodli dyddiadau mynediad y myfyriwr yn y tymor, sydd wedi'i nodi gan term_id (os yw hyn wedi'i gynnwys.) Yr hyn sy’n dda wrth roi term_id yw eich bod yn gallu didoli a rhoi trefn ar y cyrsiau wrth edrych ar ddata ac adroddiadau yn y rhyngwyneb Gweinyddwr. Mae’n hawdd rhoi term_id wrth nifer o wahanol gyrsiau sy’n cychwyn/gorffen yr un pryd. Os na fyddwch chi’n cysylltu cwrs i dymor, bydd y cwrs yn cael ei gysylltu â’r tymor a elwir yn Dymor Diofyn (Default Term).

Os yw eich sefydliad wedi galluogi Cyrsiau Glasbrint, gallwch ddefnyddio courses.csv i ychwanegu cyrsiau cysylltiedig i gwrs glasbrint. Rhaid creu a galluogi'r cwrs glasbrint fel cwrs glasbrint cyn bod modd ychwanegu cyrsiau cysylltiedig.

Llwythwch ffeil enghreifftiol courses.csv i lawr sydd â 10 cwrs; maen nhw i'w gweld yn eu hisgyfrifon priodol mewn tymor penodol.

Maes gofynnol* | Maes Gludiog^

  • course_id*:  Dynodydd unigryw yw hwn sy’n cael ei ddefnyddio i wahaniaethu rhwng cyrsiau yn Canvas. Chaiff y dynodydd hwn ddim newid ar gyfer y cwrs, a rhaid iddo fod yn unigryw ar draws pob cwrs. Yn y rhyngwyneb defnyddiwr, gelwir hyn yn ID SIS.
  • short_name*^:  Dyma enw byr y cwrs. Yn Rhyngwyneb Defnyddiwr Canvas, gelwir hyn hefyd yn God Cwrs (Course Code) neu Gyfeirnod (Reference Code).
  • long_name*^:  Dyma enw (llawn) hir y cwrs. (Gall hwn fod yr un fath â’r enw byr, ond os yw’r ddau ar gael, bydd rhoi’r ddau yn rhoi profiad gwell i’r defnyddiwr.)
  • account_id^:  Dyma ddynodydd unigryw'r cyfrif ID SIS (o accounts.csv), ac mae’n dweud wrth y cwrs ym mha isgyfrif y bydd yn cael ei gadw. Os na fydd id_cyfrif yn cael ei bennu ar gyfer cwrs newydd, bydd y cwrs yn cael ei gysylltu â’ch prif gyfrif/cyfrif gwraidd. Mae ID SIS i'w weld yn newislen Gosodiadau'r isgyfrif.
  • term_id^:  Dyma ddynodydd unigryw'r tymor (o terms.csv), ac mae’n dweud wrth y cwrs pryd i gychwyn a phryd i orffen. Os byddwch chi’n cysylltu term_id â chwrs, fydd dim angen i chi roi start_date neu end_date.
  • status*^:  Dyma sut gallwch chi greu, tynnu, dirwyn i ben neu gyhoeddi cwrs. Marciwch fel gweithredol i ychwanegu cwrs, wedi dileu i dynnu cwrs sy’n bodoli’n barod, wedi cwblhau i ddirwyn i ben unrhyw gwrs sy’n bodoli’n barod, neu wedi cyhoeddi i gyhoeddi cwrs sy’n bodoli’n barod.
  • integration_id: Ail ddynodydd unigryw yw hwn ac mae’n ddefnyddiol ar gyfer prosesau integreiddio SIS mwy cymhleth. Chaiff y dynodydd hwn ddim newid ar gyfer y cwrs, a rhaid iddo fod yn unigryw ar draws y system.
  • start_date^:  Dyma’r dyddiad y bydd y cwrs yn cychwyn. Dylai’r fformat ddilyn ISO 8601: BBBB-MM-DDTAA:MM:EEZ (Mae modd rhoi bwlch yn lle’r T.)
  • end_date^:  Dyma’r dyddiad y bydd y cwrs yn gorffen. Dylai’r fformat ddilyn ISO 8601: BBBB-MM-DDTAA:MM:EEZ (Mae modd rhoi bwlch yn lle’r T.) Yn ddiofyn, mae mynediad defnyddiwr yn cael ei atal am hanner nos ar y dyddiad gorffen rydych chi wedi’i nodi, gan olygu mai’r diwrnod blaenorol yw'r diwrnod llawn olaf y gall defnyddwyr gael mynediad at y cwrs. Yr hyn sydd orau i’w wneud yw bod eich dyddiad gorffen yn cael ei osod ar y diwrnod ar ôl i’r cwrs ddod i ben.
  • course_format: Dyma fformat y cwrs. Gall y fformat fod ar-lein, on_campus, neu gyfunol.
  • blueprint_course_id: Dyma ID cwrs y cwrs glasbrint rydych chi am ychwanegu cwrs cysylltiedig iddo. I dynnu dolen y Cwrs Glasbrint, gallwch chi roi ‘datgysylltu’ yn lle'r ID. Yn y rhyngwyneb defnyddiwr, dyma yw ID SIS y cwrs glasbrint.
  • homeroom_course: Mae hwn yn cael ei ddefnyddio i neilltuo cyrsiau homeroom mewn cyfrifon Canvas ar gyfer Cynradd. Rhaid i’r gosodiad Canvas ar gyfer Cynradd fod wedi’i alluogi.

sections.csv

Mae adran yn rhannu myfyrwyr mewn cwrs. Hefyd, mae modd traws-restru mwy nag un adran mewn un cwrs, yn enwedig os yw pob adran myfyriwr yn dysgu'r un deunydd cwrs. Mae modd gosod mwy nag un adran mewn un cwrs, ond does dim modd i adran gynnwys mwy nag un adran. Bydd adrannau’n etifeddu dyddiadau’r cwrs fel sydd wedi’i osod yn y tymor. Ond, os yw adran yn cynnwys dyddiadau cwrs penodol, bydd y dyddiadau hyn yn disodli dyddiadau mynediad y myfyriwr ar gyfer y cwrs a dyddiadau cychwyn a/neu ddyddiadau gorffen y tymor.

Os ydych chi’n ceisio dileu cwrs a bod y defnyddwyr wedi’u cysylltu ag adrannau, bydd angen i chi gynnwys paramedr section_id yn y broses mewngludo CSV yn ogystal ag ID SIS yr adran.

Llwythwch ffeil enghreifftiol sections.csv i lawr sydd â’r adrannau canlynol:

  • 4 adran yng nghwrs ACCT300 - Cyfrifyddu Costau
  • 4 adran yng nghwrs ACCT310 - Cyfrifyddu Rheolaethol
  • 2 adran yng nghwrs BIO101 - Cyflwyniad i Fioleg

Mae'r ffeil hon yn cymryd yn ganiataol bod gennych chi fwy nag un adran mewn un cwrs. Mae llawer o sefydliadau’n mewngludo adrannau cwrs fel cyrsiau ar wahân. Mae modd gwneud hyn drwy (1) greu cwrs Canvas ar gyfer pob adran yn eich courses.csv, wedyn (2) creu un adran ym mhob un o'r cyrsiau hyn. Yn y bôn, mae modd i chi ddefnyddio’r un data ar gyfer y cwrs a’r adran gan gynnwys yr ID SIS, a fydd yr un peth ar gyfer yr course_id a’r section_id.

Maes gofynnol* | Maes Gludiog^

  • id-adran*:  Dynodydd unigryw yw hwn sy’n cael ei ddefnyddio i greu adrannau mewn cwrs. Chaiff y dynodydd hwn ddim newid ar gyfer yr adran, a rhaid iddo fod yn unigryw ar draws y system. Yn y rhyngwyneb defnyddiwr, gelwir hyn yn ID SIS.
  • course_id*^:  Dyma ddynodydd unigryw’r cwrs lle caiff yr adran ei hychwanegu neu ei dileu (ychwanegu yn courses.csv).
  • name*^:  Dyma enw’r adran. Mae adrannau’n cael eu trefnu yn nhrefn yr wyddor yn ôl enw.
  • status*:  Dyma sut gallwch greu neu dynnu adran mewn cwrs. Marciwch fel gweithredol er mwyn creu adran neu wedi dileu i dynnu adran sy’n bodoli’n barod.
  • integration_id: Ail ddynodydd unigryw yw hwn ac mae’n ddefnyddiol ar gyfer prosesau integreiddio SIS mwy cymhleth. Chaiff y dynodydd hwn ddim newid ar gyfer yr adran, a rhaid iddo fod yn unigryw ar draws y system.
  • start_date^:  Dyma’r dyddiad y bydd yr adran yn cychwyn. Dylai’r fformat ddilyn ISO 8601: BBBB-MM-DDTAA:MM:EEZ (Mae modd rhoi bwlch yn lle’r T.)
  • end_date^:  Dyma’r dyddiad y bydd yr adran yn gorffen. Dylai’r fformat ddilyn ISO 8601: BBBB-MM-DDTAA:MM:EEZ (Mae modd rhoi bwlch yn lle’r T.) Yn ddiofyn, mae mynediad defnyddiwr yn cael ei atal am hanner nos ar y dyddiad gorffen rydych chi wedi’i nodi, gan olygu mai’r diwrnod blaenorol yw'r diwrnod llawn olaf y gall defnyddwyr gael mynediad at yr adran. Yr hyn sydd orau i’w wneud yw bod eich dyddiad gorffen yn cael ei osod ar y diwrnod ar ôl i’r adran ddod i ben.

enrollments.csv

Ymrestriad yw defnyddiwr sydd wedi ymrestru ar gwrs o dan rôl benodol. Mae enrollments.csv yn gadael i chi neilltuo rolau i ddefnyddwyr a’u gosod ar gyrsiau priodol. Pan fydd statws ymrestru unrhyw ddefnyddiwr wedi’i farcio fel wedi'i gwblhau byddan nhw’n cael eu cyfyngu i gael mynediad darllen-yn-unig ar gyfer y cwrs hwnnw.

Nodyn: Mae ffeiliau CSV ymrestru SIS sy’n cynnwys gwerthoedd start_date ac end_date yn disodli dyddiadau tymor, dyddiadau cwrs, a dyddiadau adran.

Llwythwch ffeil enghreifftiol enrollments.csv i lawr sydd â’r ymrestriadau canlynol:

  • 1 defnyddiwr fel athro yng nghwrs ACCT300 - Cyfrifyddu Costau
  • 1 defnyddiwr fel cynorthwyydd dysgu yng nghwrs ACCT300 - Cyfrifyddu Costau
  • 1 defnyddiwr fel dylunydd yng nghwrs ACCT300 - Cyfrifyddu Costau
  • 3 defnyddiwr fel myfyriwr yn adran 1 yng nghwrs ACCT300 - Cyfrifyddu Costau
  • 3 defnyddiwr fel myfyriwr yn adran 2 yng nghwrs ACCT300 - Cyfrifyddu Costau
  • 1 defnyddiwr fel arsyllwr myfyriwr yn adran 1 yng nghwrs ACCT300 - Cyfrifyddu Costau

Maes gofynnol* | Maes Gludiog^

  • course_id*:  (Mae angen hyn os yw’r section_id ar goll) Dyma ddynodydd unigryw’r cwrs lle caiff y defnyddiwr ei ymrestru (ychwanegu yn courses.csv). Os mai ymrestru myfyrwyr i fod ar y cwrs yn hytrach nag i adran benodol rydych chi, rhowch yr course_id yn y maes hwn. Fel arall, gadewch hwn yn wag.
  • root_account: Dyma barth y cyfrif er mwyn chwilio am y defnyddiwr.
  • start_date^: Dyma ddyddiad dechrau’r ymrestru. Er mwyn i start_date fod yn weithredol, rhaid llenwi end_date hefyd. Dylai’r fformat ddilyn ISO 8601: BBBB-MM-DDTAA:MM:EEZ.
  • end_date^: Dyma ddyddiad gorffen yr ymrestru. Er mwyn i end_date fod yn weithredol, rhaid llenwi start_date hefyd. Dylai’r fformat ddilyn ISO 8601: BBBB-MM-DDTAA:MM:EEZ.
  • user_id*:  Dyma ddynodydd unigryw’r defnyddiwr a fydd yn cael ei ymrestru ar y cyrsiau penodedig (ychwanegu yn users.csv). Os oes user_integration_id ar gael, bydd y maes hwn yn cael ei anwybyddu.
  • user_integration_id*: (Mae angen hyn os yw’r user_id ar goll) Dyma ail ddynodydd unigryw’r defnyddiwr (ychwanegu yn users.csv fel integration_id).
  • role*:  Dyma’r rôl a gaiff ei neilltuo i ddefnyddiwr ar gyfer y cwrs penodedig. Rydych chi’n ymrestru defnyddiwr i ymgymryd ag unrhyw un o'r rolau canlynol: athro, dylunydd, cynorthwyydd dysgu, arsyllwr neu rôl benodol rydych chi’n ei diffinio.  Ym mhob rôl mae hawliau wedi'u rhoi y gall Gweinyddwyr eu haddasu ar lefel prif gyfrif/cyfrif gwraidd neu lefel isgyfrif.
  • role_id*: (Mae angen hyn os yw rôl ar goll) Dyma ddynodydd unigryw’r rôl lle caiff y defnyddiwr ei ychwanegu fel rhan o’r broses ymrestru.
  • id-adran*:  (Mae angen hyn os yw’r course_id ar goll) Dyma ddynodydd unigryw’r adran lle caiff y defnyddiwr ei ymrestru (ychwanegu yn sections.csv). Os mai ymrestru myfyrwyr mewn adran benodol o’r cwrs rydych chi, rhowch section_id yr adran yma. Fel arall, gadewch y maes hwn yn wag. Os nad oes section_id wedi’i bennu, bydd adran ddiofyn y cwrs yn cael ei defnyddio. Os nad oes adran ddiofyn yn bodoli, bydd un yn cael ei chreu’n awtomatig heb ID SIS.
  • status*: Dyma sut rydych chi’n ymrestru cwrs, yn dirwyn cwrs i ben, yn analluogi cwrs (ei wneud yn anweithredol), neu dynnu ymrestriad mewn cwrs. Marciwch fel gweithredol er mwyn ymrestru defnyddiwr ar gwrs, wedi’u cwblhau i ddirwyn ymrestriad defnyddiwr ar gwrs, anweithredol i analluogi’r defnyddiwr ar y cwrs, ac wedi dileu i dynnu’r defnyddiwr oddi ar y cwrs. Pan fydd y statws yn ‘anweithredol’, caiff y myfyriwr ei roi ar gofrestr y cwrs ar gyfer addysgwyr ond fyddan nhw ddim yn gallu gweld na chymryd rhan yn y cwrs nes bydd yr ymrestriad wedi’i alluogi.  
  • associated_user_id:  (Rôl arsyllwr yn unig)  Dyma ddynodydd unigryw’r defnyddiwr y bydd yr arsyllwr yn gallu gweld ei wybodaeth (gan gynnwys graddau). Rhaid i’r arsyllwr fod wedi ymrestru ar yr un cwrs/adran â'r defnyddiwr yr hoffech chi iddyn nhw eu harsyllu. Bydd y maes hwn yn cael ei anwybyddu ar gyfer unrhyw rôl heblaw rôl arsyllwr.
  • limit_section_privileges: Dyma sut mae dynodi y bydd ymrestriad yn caniatáu i'r defnyddiwr weld a rhyngweithio yn unig â defnyddwyr sydd wedi ymrestru yn yr adran sydd ag course_section_id. Mae'r maes hwn yn mynd i ffug yn ddiofyn. Mae cyfyngu myfyrwyr i ryngweithio yn ôl adran yn effeithio ar Gydweithrediadau, Sgwrs, Pobl, a Sgyrsiau. Wrth ymrestru addysgwyr a chynorthwywyr dysgu, mae cyfyngiadau ar adrannau’n caniatáu i’r defnyddwyr hynny raddio myfyrwyr yn yr un adran(nau). Dydy cyfyngiadau ar adrannau ddim yn effeithio ar bynciau trafod a Thudalennau, ac mae modd i unrhyw fyfyriwr eu gweld. Byddai modd cyfyngu ar y nodweddion hyn drwy greu cynnwys mewn grwpiau cwrs.
  • hysbysu: Dyma sut rydych chi’n dewis anfon hysbysiad at ddefnyddwyr sydd wedi ymrestru pan fyddan nhw wedi ymrestru ar gwrs.

group_categories.csv

Mae categorïau grŵp yn caniatáu i chi drefnu grwpiau yn Canvas. Mae group_categories.csv yn gadael i chi greu categorïau grŵp ar lefel y cyfrif neu ar lefel y cwrs. Yn rhyngwyneb y defnyddiwr, gelwir categorïau grŵp yn setiau grwpiau.

Llwythwch ffeil enghreifftiol group_categories.csv i lawr sydd â’r categorïau grŵp canlynol:

  • Grwpiau Gweinyddwyr
  • Grwpiau Dylunwyr
  • Grwpiau Prosiect Hanes

Maes gofynnol* | Maes Gludiog^

  • group_category_id: Dyma’r dynodydd sy’n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at y categori grŵp. Chaiff y dynodydd ddim newid ar gyfer y categori grŵp, a rhaid iddo fod yn unigryw ar draws y system.
  • account_id: Dyma'r dynodydd sy’n cysylltu’r categori grŵp â chyfrif (ychwanegu yn accounts.csv). Os na fydd cyfrif na chwrs yn cael ei bennu, bydd y grŵp yn cael ei gysylltu â’r cyfrif gwraidd.
  • course_id: Dyma'r dynodydd sy’n cysylltu’r categori grŵp â chwrs (ychwanegu yn courses.csv). Os na fydd cwrs na chyfrif yn cael ei bennu, bydd y grŵp yn cael ei gysylltu â’r cyfrif gwraidd.
  • category_name*^: Dyma enw’r categori grŵp.
  • status*: Dyma statws y categori grŵp. Marciwch fel gweithredol er mwyn creu’r categori grŵp neu wedi dileu i ddileu’r categori grŵp.

groups.csv

Mae modd defnyddio grŵp i gynnig cyfleoedd cydweithio i fyfyrwyr, addysgwyr, gweinyddwyr, neu ddefnyddwyr eraill. Mae groups.csv yn gadael i chi greu grwpiau ar lefel y cyfrif ac ar lefel y cwrs. Dim ond drwy SIS mae modd diweddaru neu ddileu grwpiau sydd wedi’u llwytho i fyny drwy SIS.

Llwythwch ffeil enghreifftiol groups.csv i lawr sydd â’r grwpiau canlynol:

  • Gweinyddwyr
  • Athrawon Mathemateg
  • Dylunwyr

Maes gofynnol* | Maes Gludiog^

  • group_id*: Dyma’r dynodydd unigryw sy’n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at eich grŵp. Chaiff hwn ddim newid ar gyfer y grŵp, a rhaid iddo fod yn unigryw ar draws y system.
  • group_category_id: Dyma ddynodydd y categori grŵp (ychwanegu yn group_categories.csv) rydych chi’n ychwanegu grŵp iddo. Os na fydd dim categori grŵp yn cael ei bennu, caiff y grŵp ei osod yn y categori grŵp diofyn ar gyfer y cyfrif neu'r cwrs sydd wedi’i ddiffinio. Os na fydd cyfrif na chwrs yn cael ei bennu, bydd y grŵp yn cael ei osod yn y categori grŵp diofyn ar gyfer y cyfrif gwraidd.
  • account_id: Dyma'r dynodydd sy’n cysylltu’r grŵp â chyfrif (ychwanegu yn accounts.csv). Os na fydd dim un yn cael ei bennu, bydd y grŵp yn cael ei gysylltu â’r cyfrif gwraidd.
  • course_id: Dyma'r dynodydd sy’n cysylltu’r grŵp â chwrs (ychwanegu yn courses.csv). Os na fydd cwrs na chyfrif yn cael ei bennu, bydd y grŵp yn cael ei gysylltu â’r cyfrif gwraidd.
  • name*^: Dyma enw’r grŵp.
  • status*: Dyma statws y grŵp. Marciwch fel gweithredol er mwyn agor y grŵp i gael aelodau neu wedi dileu i ddileu’r grŵp.

groups_membership.csv

Mae bod yn aelod o grŵp yn caniatáu i ddefnyddwyr gydweithio ar weithgareddau yn Canvas. Mae groups_membership.csv yn gadael i chi ychwanegu pobl mewn swp i grŵp rydych chi wedi'i greu drwy groups.csv, neu eu tynnu o’r grŵp hwnnw.

Llwythwch ffeil enghreifftiol groups_membership.csv i lawr sydd â’r aelodaeth grŵp canlynol:

  • 1 defnyddiwr wedi'i dderbyn yn y grŵp Gweinyddwyr
  • 1 defnyddiwr wedi'i dderbyn yn y grŵp Athrawon Mathemateg
  • 1 defnyddiwr wedi'i ddileu yn y grŵp Athrawon Mathemateg

Maes gofynnol*

  • group_id*: Dyma’r dynodydd unigryw sy’n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at eich grŵp (ychwanegu yn groups.csv).
  • user_id*: Dyma ddynodydd unigryw’r defnyddiwr rydych chi am ei ychwanegu i’r grŵp (ychwanegu yn users.csv).
  • status*: Dyma statws y defnyddwyr yn y grŵp. Marciwch fel wedi’u derbyn er mwyn ychwanegu defnyddiwr at grŵp neu wedi dileu i dynnu defnyddiwr o grŵp.

xlists.csv

Mae traws-restru’n caniatáu i chi symud adrannau i gwrs arall. Mae ffeil xlist.csv yn gadael i chi draws-restru adrannau mewn cyrsiau sy’n bodoli’n barod a chreu hierarchaeth adrannau.

Disgwylir bod id adrannau’n bodoli’n barod ac yn cyfeirio’n barod at id cyrsiau eraill. Os bydd id adran yn cael ei roi, bydd yn cael ei symud o’i id cwrs sy’n bodoli’n barod i id cwrs newydd, felly os bydd y cwrs newydd hwnnw’n cael ei dynnu neu os bydd y traws-restru’n cael ei dynnu, bydd yr adran yn newid yn ôl i’r id cwrs blaenorol. Os na fydd xlist_course_id yn cyfeirio at gwrs sy’n bodoli’n barod, bydd hyn yn cael ei greu. Os ydych chi am roi rhagor o wybodaeth am y cwrs sydd wedi'i draws-restru, gwnewch hynny yn courses.csv.

Llwythwch ffeil enghreifftiol xlists.csv i lawr sydd â’r cyrsiau a’r adrannau canlynol:

  • 4 adran weithredol yng nghwrs ACCT300 - Cyfrifyddu Costau sydd wedi’i draws-restru yng nghwrs ACCT310 - Cyfrifyddu Rheolaethol

Maes gofynnol*

  • xlist_course_id*: Dyma ddynodydd y cwrs newydd (ychwanegu yn courses.csv).
  • id-adran*: Dyma ddynodydd yr adran (ychwanegu yn sections.csv).
  • status*: Dyma statws yr adran. Marciwch fel gweithredol er mwyn gwneud yr adran yn weithredol neu wedi dileu i dynnu’r adran.

user_observers.csv

Mae modd defnyddio’r rôl arsyllwr i ymrestru rhieni a’u cysylltu â myfyriwr, gan adael iddyn nhw weld graddau eu myfyrwyr a’r ffordd maen nhw’n rhyngweithio â chwrs. Mae user_observers.csv yn gadael i chi ymrestru a chysylltu arsyllwyr ag ymrestriadau pob myfyriwr penodedig.

Llwythwch ffeil enghreifftiol user_observers.csv i lawr sydd â’r ymrestriadau canlynol:

  • 2 arsyllwr gweithredol
  • 1 arsyllwr wedi'i ddileu

Maes gofynnol*

  • observer_id*: Dyma ddynodydd unigryw’r arsyllwr (ychwanegu fel user_id yn users.csv).
  • student_id*: Dyma ddynodydd unigryw’r myfyriwr (ychwanegu fel user_id yn users.csv).
  • status*: Dyma statws yr arsyllwr. Marciwch fel gweithredol i ymrestru’r arsyllwr ar gyfer holl ymrestriadau’r myfyriwr neu wedi dileu i ddileu holl ymrestriadau’r arsyllwr.

logins.csv

Mae logins.csv yn gadael i chi greu neu ddiweddaru manylion mewngofnodi defnyddwyr. Dim ond at ddefnyddwyr sy'n bodoli'n barod y mae modd ychwanegu mewngofnodiadau. Gellir tynnu mewngofnodiadau gan ddefnyddio users.csv.

Llwythwch ffeil enghreifftiol logins.csv gyda thri mewngofnod defnyddiwr.

Maes gofynnol*  | Maes Gludiog^

  • user_id*: Dyma ddynodydd unigryw'r defnyddiwr (cyfeirir ato yn enrollments.csv) Chaiff y gwerth hwn ddim newid ar gyfer y defnyddiwr a rhaid iddo fod yn unigryw ar draws yr holl ddefnyddwyr. Gelwir yn ID SIS yn rhyngwyneb defnyddiwr Canvas.
  • integration_id: Ail ddynodydd unigryw yw hwn ac mae’n ddefnyddiol ar gyfer prosesau integreiddio SIS cymhleth. Chaiff y gwerth hwn ddim newid ar gyfer y defnyddiwr a rhaid iddo fod yn unigryw ar draws yr holl ddefnyddwyr. Dylai'r maes hwn gael ei adael yn wag wrth gyfuno defnyddwyr gyda ID integreiddio cyfatebol.
  • login_id*: Dyma’r enw y byddai'r defnyddiwr yn ei ddefnyddio i fewngofnodi i Canvas. Ar gyfer gwasanaeth dilysu sydd wedi’i ffurfweddu, fel LDAP, yr enw defnyddiwr o'r system o bell fydd hwn.
  • password: Dyma’r cyfrinair y bydd y defnyddiwr yn ei ddefnyddio i fewngofnodi i Canvas. Ni ddylai'r maes hwn gael ei lenwi ar gyfer cyfrifon sydd wedi'u ffurfweddi i LDAP neu SSO.
  • ssha_password: Dyma gyfrinair sydd wedi'i greu gyda chynllun creu SSHA sydd wedi'i stwnshio'n barod.
  • authentication_provider_id: Dyma’r darparwr dilysu sy’n gysylltiedig â'r manylion mewngofnodi.
  • existing_user_id^: Dyma ID SIS y defnyddiwr fel y ceir yn users.csv.
  • existing_integration_id^: Dyma ID integreiddio'r defnyddiwr fel y ceir yn users.csv.
  • existing_canvas_user_id^: Dyma ID Canvas y defnyddiwr.
  • root_account: Dyma'r cyfrif parth ar gyfer y defnyddiwr.
  • e-bost: Dyma gyfeiriad e-bost y defnyddiwr.

Nodiadau:

  • Mae angen un existing_user_id, existing_integration_id, neu existing_canvas_user_id er mwyn mewngludo logins.csv yn llwyddiannus.
  • Mae angen y maes root_account wrth adnabod defnyddwyr mewn cyfrif ymddiriedaeth (e.e. wrth draws-restru defnyddwyr ar draws cyfrifon o fewn cyfrif ymddiriedaeth.

admins.csv

Mae gweinyddwyr yn rheoli gosodiadau cyfrif cyfan neu isgyfrif. Mae admins.csv yn gadael i chi ddynodi defnyddwyr yn Canvas yn weinyddwyr cyfrif neu rolau personol eraill mewn cyfrif neu isgyfrif.

Llwythwch ffeil enghreifftiol admins.csv i lawr sydd â’r gweinyddwyr canlynol:

  • 2 weinyddwr cyfrif gweithredol
  • 1 gweinyddwr cyfrif wedi'i ddileu
  • 2 rôl bersonol weithredol mewn cyfrif

Maes gofynnol*

  • user_id*: Dyma ID unigryw’r defnyddiwr rydych chi am ei ddynodi’n weinyddwr (ychwanegu yn users.csv).
  • account_id*: Dyma ddynodydd unigryw’r cyfrif lle rydych chi am roi’r gweinyddwr (ychwanegu yn accounts.csv). Os bydd y golofn hon yn wag, bydd y defnyddiwr yn cael ei roi yn y cyfrif gwraidd. Mae angen y golofn hon bob tro, hyd yn oed os yw’r gwerth yn wag.  
  • role_id*: (Mae angen hyn os yw rôl ar goll) Dyma ID y rôl, naill ai’r ID diofyn neu'r ID personol wedi'i ddiffinio gan y cyfrif.
  • role*: (Mae angen hyn os yw role_id ar goll) Dyma enw’r rôl, naill ai rôl Gweinyddwr Cyfrif (Account Admin) diofyn neu rôl bersonol wedi'i diffinio gan y cyfrif. Os ydych chi’n ychwanegu gweinyddwr cyfrif, fformatiwch y maes i ddarllen ‘GweinyddwrCyfrif’ (AccountAdmin). Os ydych chi’n ychwanegu rôl bersonol, fformatiwch y maes yn union fel y mae’n ymddangos yn rhyngwyneb defnyddiwr Canvas.
  • status*: Dyma statws y gweinyddwr. Marciwch fel gweithredol er mwyn creu gweinyddwr gweithredol neu wedi dileu i dynnu gweinyddwr
  • root_account: Dyma barth y cyfrif er mwyn chwilio am y defnyddiwr.

change_sis_id.csv

Mae ID SIS yn ddynodydd unigryw ar gyfer gwrthrych yn Canvas. Mae change_sis_id.csv yn gadael i chi newid ID SIS mewn swp ar gyfer cyfrifon, tymhorau, cyrsiau, adrannau, grwpiau, neu ddefnyddwyr sy’n bodoli’n barod.

Llwythwch ffeil enghreifftiol change_sis_id.csv i lawr sydd â’r newidiadau ID SIS canlynol:

  • 1 newid ID SIS defnyddiwr
  • 1 newid ID SIS cwrs
  • 1 newid ID SIS tymor

Maes gofynnol*

  • old_id*: Dyma ID SIS presennol y gwrthrych.
  • new_id*: Dyma ID SIS dymunol y gwrthrych. Rhaid i'r ID SIS newydd fod yn unigryw ar hyn o bryd i’r math o wrthrych a'r cyfrif gwraidd.
  • type*: Dyma’r math o wrthrych. Gall math fod yn gyfrif, tymor, cwrs, adran, grŵp neu ddefnyddiwr.