Sut ydw i’n gallu rheoli tocynnau cymorth ar gyfer fy sefydliad?
Gallwch chi ddewis o dri chyrchfan posib i’r tocynnau y bydd eich defnyddwyr yn eu creu drwy Ddewislen Help Canvas, sy’n eich helpu i symleiddio llif gwaith eich tîm cefnogi mewnol.
Gallwch ddewis llwybro tocynnau eich defnyddwyr i:
- Ein system docynnau (Cwmwl Gwasanaeth Salesforce)
- Eich copi chi o Zandesk neu’r Cwmwl Gwasanaeth gan ddefnyddio cysylltydd API personol
- Bron unrhyw system docynnau arall gydag e-bost neu bost ar y we
Anfon Tocynnau i’n System Docynnau
Y cyrchfan diofyn ar gyfer anfon tocynnau yw system Cymorth Canvas (Cwmwl Gwasanaeth) (Sending tickets to the Canvas Support system (Service Cloud) is the default destination).
Os yw gweithio yn yr un system docynnau â Thîm Cymorth Canvas yn hwylus i chi, yna mae croeso i chi ddefnyddio’r opsiwn hwn. Dysgwch sut i fewngofnodi i‘r Cwmwl Gwasanaeth.
Cysylltyddion Zandesk a’r Cwmwl Gwasanaeth
Gallwch ddefnyddio eich copi chi o Zandesk neu’r Cwmwl Gwasanaeth gyda chysylltyddion API personol ar gyfer Canvas. Mae’r opsiwn hwn yn caniatáu defnydd o’r metadata o Canvas gyda phob tocyn. Gallwch hefyd fanteisio ar y nodweddion dadansoddi.
Y Cysylltyddion E-bost a Phostio ar y We
Gallwch newid cysylltyddion e-bost neu bostio ar y we yn docynnau yn eich system docynnau eich hun, hyd yn oed os nad ydych chi'n defnyddio Zendesk neu’r Cwmwl Gwasanaeth.