Sut ydw i'n cyfuno defnyddwyr mewn cyfrif?
Gallwch chi gyfuno dau ddefnyddiwr yn eich cyfrif. Mae cyfuno cyfrifon yn cyfuno gwybodaeth mewngofnodi, dulliau cysylltu, ac ymrestriadau dau gyfrif defnyddiwr. Nid yw ymweliadau â thudalennau’n cael eu cadw ar gyfer y defnyddiwr a gafodd ei gyfuno.
Os ydy’r cyfrif sy’n cael ei gyfuno wedi ymrestru ar gwrs nad yw’r cyfrif y mae’n cael ei gyfuno iddo wedi ymrestru arno, bydd gwybodaeth graddau yn cael ei throsglwyddo i’r cyfrif sydd wedi’i gyfuno. Os ydy’r ddau gyfrif wedi ymrestru ar yr un cwrs, ni fydd gwybodaeth graddau o’r cyfrif sy’n cael eu gyfuno’n cael ei throsglwyddo.
Ar ôl i’r cyfrifon gael eu cyfuno, bydd y defnyddiwr yn gallu defnyddio’r wybodaeth mewngofnodi a ddaeth o’r un cyfrif neu’r llall i weld eu hymrestriadau cwrs yn yr un cwrs.
Nodiadau:
- Os nad ydych chi’n gallu cyfuno defnyddwyr, efallai nad oes gennych chi’r hawliau priodol neu fod cyfuno defnyddwyr wedi cael ei ddiffodd yn eich cyfrif.
- Os oes angen, mae modd gwahau cyfrifon defnyddywr gan ddefnyddio'r API Defnyddwyr Canvas neu ddefnyddio’r ddolen Gwahanu Defnyddwyr wedi’u Cyfuno o fewn 180 diwrnod o gyfuno defnyddwyr; ond, does dim modd adfer defnyddwyr wedi’u cyfuno yn llawn i’w cyflwr blaenorol yn llawn.
- Does dim modd i chi gyfuno cyfrifon defnyddwyr eich hun mewn fersiwynau gwahanol.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor yr adnodd Pobl
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Pobl (People).
Dod o hyd i Ddefnyddiwr
Defnyddiwch yr hidlydd a’r opsiynau chwilio i ddod o hyd i’r defnyddiwr yn y cyfrif.
Agor Proffil Defnyddiwr
Yn y canlyniadau chwilio, cliciwch enw’r defnyddiwr.
Cyfuno Defnyddwyr
Cliciwch y ddolen Cyfuno â Defnyddiwr Arall (Merge with Another User).
Dod o hyd i Gyfrif Defnyddiwr
Dewch o hyd i'r cyfrif defnyddiwr lle rydych chi eisiau cyfuno gwybodaeth y defnyddiwr. Gallwch chi chwilio am y defnyddiwr neu roi ID y defnyddiwr.
Os ydych chi wedi ymrestru ar fwy nad un cyfrif, mae’r dudalen Cyfrifon Defnyddiwr yn dangos dewislen cyfrif [1]. Yn y gwymplen, dewiswch y cyfrif lle mae’r defnyddiwr.
I ddod o hyn i ddefnyddiwr yn ôl enw, teipiwch enw’r defnyddiwr yn y maes Enw [2]. Dewiswch y defnyddiwr pan mae’r enw llawn yn ymddangos [3]. Ar ôl cadarnhau'r defnyddiwr, cliciwch y botwm Dewis (Select) [4].
I ddewis defnyddiwr yn ôl ID defnyddiwr, rhowch yr ID yn y maes ID Defnyddiwr [5] a chlicio’r botwm Mynd (Go) [6].
Nodyn: Mae’r ID Defnyddiwr ar ddiwedd eich URL Canvas (e.e. account.instructure.com/account/XXXXXX/users/XXXXXX).
Cyfuno Cyfrifon Defnyddwyr
Ar ôl dewis y cyfrif defnyddiwr i’w gyfuno, byddwch chi’n gweld y tabl proses a chanlyniad.
Bydd y tabl yn dangos y Defnyddiwr (User), Cam Gweithredu (Action), Negeseuon E-bost (Emails), Gwybodaeth Mewngofnodi (Logins), ac Ymrestriadau (Enrollments) pob defnyddiwr [1]. Bydd y tabl yn dweud beth fydd yn cael ei ddileu a beth fydd yn cael ei gadw.
Os ydych chi eisiau newid safleoedd defnyddwyr fel bod un yn cael ei ddileu a’r llall yn cael ei gadw, cliciwch y botwm Newid Safleoedd Defnyddwyr (Switch User Positions) [2].
Gallwch chi hefyd glicio Cyfuno Rhywun Arall Gyda [Enw Defnyddiwr] [3] ar gyfer unrhyw un o’r defnyddwyr os byddwch chi’n penderfynu newid y defnyddwyr.
Pan fyddwch chi’n barod, cliciwch y botwm Paratoi i Gyfuno Defnyddwyr (Prepare to Merge Users) [4].
Nodyn: Ni fydd y tabl yn dangos ymrestriadau mewn cyrsiau sydd wedi’u dirwyn i ben neu gyrsiau sydd heb eu cyhoeddi.
Cadarnhau Cyfuno
Byddwch chi’n cael eich ysgogi unwaith eto i ofyn a ydych chi’n siŵr eich bod chi eisiau cyfuno’r defnyddwyr. Pan rydych chi’n barod, cliciwch y botwm Cyfuno Cyfrifon Defnyddwyr (Merge User Accounts)
Nodyn: Does dim modd dad-wneud hyn.
Gweld Cadarnhad
Cadarnhau cyfuno’n llwyddiannus.