Sut ydw i’n defnyddio Digwyddiadau Byw gyda’r Porth Gwasanaethau Data?
Os ydych chi wedi gosod Gwasanaethau Data Canvas yn eich cyfrif, gallwch chi ychwanegu a rheoli ffrydiau data yn eich cyfrif.
I gael rhagor o wybodaeth am Ddata Canvas, edrychwch ar eiriadur Data Canvas.
Nodiadau:
- Mae gweld Gwasanaethau Data yn hawl cyfrif. Os na allwch chi weld y ddolen Gwasanaethau Data yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, yna dydy’r hawl hon ddim wedi’i galluogi ar gyfer eich cyfrif defnyddiwr.
- Rhaid i gyfrifon fod ag URL gwasanaeth ffrydio data y mae modd delio ag ef i dderbyn ffrydiau data.
- Mae ffrydiau Data Canvas yn gallu cynnwys gwybodaeth bersonol ar gyfer defnyddwyr Canvas. Dim ond i wasanaethau a chyrchfannau dibynadwy y dylech chi ffrydio data.
- Nid yw Data Canvas yn dangos gwybodaeth cyfrif plentyn mewn cyfrif rhiant.
- Mae data digwyddiadau byw yn cael ei brosesu yn yr un rhanbarth a’r fersiwn Canvas y maen nhw’n cael eu hallyrru ohono. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gallu derbyn digwyddiadau o unrhyw gyfeiriadau IP. Os bydd Canvas yn dod ar draws gwallau mewn tanysgrifiadau defnyddiwr, efallai y bydd tanysgrifiadau digwyddiad byw yn cael eu hanalluogi.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Gwasanaethau Data
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gwasanaethau Data (Data Services).
Gweld Gwasanaethau Data
Yn ddiofyn, mae Gwasanaethau Data yn agor i'r dudalen Gosodiadau (Settings) [1]. Yn y Gosodiadau Gwasanaethau Data, gallwch chi weld a rheoli rhestr o holl opsiynau ffrydio data eich cyfrif.
I weld dogfennau gwasanaethau data, cliciwch ddewislen y tab Dogfennau (Documentation) [2].
Gweld Opsiynau Ffrydio Data
Gweld eich ffrydiau data cyfredol. Mae’r tabl Opsiynau Ffrydio Data yn dangos enw [1] a statws [2] eich ffrydiau. Mae ffrydiau anweithredol yn dangos y label statws Anweithredol (Inactive) [3]. Nid yw ffrydiau gweithredol yn dangos label.
Rheoli Opsiynau Ffrwd Data
I weld opsiynau ar gyfer ffrwd data, cliciwch eicon Opsiynau y ffrwd [1]. I olygu’r ffrwd, cliciwch y ddolen Golygu (Edit) [2]. I ddyblygu’r ffrwd, cliciwch y ddolen Dyblygu (Duplicate) [3]. I analluogi’r ffrwd, cliciwch y ddolen Analluogi (Deactivate) [4].
Nodyn: Dim ond am 90 diwrnod mae tanysgrifiadau anweithredol yn cael eu dangos.