Sut ydw i’n defnyddio’r Porth Gwasanaethau Hyfforddi fel gweinyddwr?
Fel gweinyddwr, gallwch chi gael mynediad at y Porth Gwasanaethau Hyfforddi i gwblhau adnoddau hyfforddi yn ôl eich pwysau ar amrywiaeth o bynciau Canvas. Os oes gan eich sefydliad danysgrifiad hyfforddi y maen nhw’n talu amdano, efallai fod gennych chi fynediad at weminarau a hyfforddiant byw.
Sylwch:
- Dim ond i weinyddwyr, addysgwyr a dylunwyr neu ddefnyddwyr heb rôl wedi’i neilltuo y mae’r Porth Gwasanaethau Hyfforddi ar gael.
- Dim ond i sefydliadau yng Ngogledd America y mae’r Porth Gwasanaethau Hyfforddi ar gael. Dylai sefydliadau yng Nghanada gysylltu â’u Rheolwr Llwyddiant Cwsmer i gael gwybodaeth ynglŷn â chymryd rhan.
- Am gymorth i ddiweddaru eich Porth Gwasanaethau Hyfforddi, cysylltwch â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmer.
- Os nad yw dolen y Porth Gwasanaethau Hyfforddi yn ymddangos yn eich dewislen Help, rhaid i chi ei galluogi yng ngosodiadau’r cyfrif.
Agor y Ddewislen Help
Yn newislen Crwydro’r Safle Cyfan Canvas, cliciwch y ddolen Help.
Sylwch: Yn ddibynnol ar eich sefydliad, efallai y bydd enw ac eicon y ddolen Help yn amrywio.
Agor Porth Gwasanaethau Hyfforddi
Cliciwch y ddolen Porth Gwasanaethau Hyfforddi (Training Services Portal).
Sylwch:
- Dim ond i weinyddwyr, addysgwyr a dylunwyr neu ddefnyddwyr heb rôl wedi’i neilltuo y mae’r Porth Gwasanaethau Hyfforddi ar gael
- Os nad yw dolen y Porth Gwasanaethau Hyfforddi yn ymddangos yn eich dewislen Help, rhaid i chi ei galluogi yng ngosodiadau’r cyfrif.
Awdurdodi Cyfrif
I ddefnyddio’r Porth Gwasanaethau Hyfforddi, rhaid i chi roi caniatâd i’r Porth Hyfforddi gael mynediad at eich cyfrif Canvas.
Mae dwy is-ffenestr yn ymddangos wrth ddefnyddio’r Porth Hyfforddi am y tro cyntaf. I roi caniatâd i ddefnyddio eich cyfrif cliciwch y botymau Caniatáu (Authorize). Yn y dyfodol, dim ond yr is-ffenestr Caniatáu Porth Hyfforddi Canvas fydd yn ymddangos.
Sylwch: Os nad ydych chi wedi eich awdurdodi yn eich Fersiwn Canvas, byddwch chi’n cael eich ysgogi i roi eich URL Canvas cyn cael defnyddio’r Porth Hyfforddi.
Gweladwyedd Porth Hyfforddi
Yn ddiofyn, bydd defnyddwyr gyda hawliau gweinyddu yn gweld y Porth Hyfforddi fel gweinyddwr [1].
I weld y Porth Hyfforddi fel dysgwr, cliciwch y gwymplen Defnyddiwr (User) [2] a dewis yr opsiwn Dysgwr (Learner) [3].
Gweld Adroddiad Cwblhau
Yn ddiofyn, mae’r dudalen Data a Dadansoddiadau yn ymddangos.
Yn y tab Adroddiad Cwblhau [1], gallwch chi weld data cwblhau fel defnyddiwr wedi ymrestru [2], y cynnig [3], math [4], a’r statws cwblhau [5].
I greu adroddiad newydd cliciwch y botwm Adroddiad Newydd (New Report) [6].