Sut ydw i’n anfon neges at ddefnyddiwr mewn cyfrif?
Gallwch weld defnyddiwr yn eich cyfrif ac anfon neges at y defnyddiwr hwnnw.
Mae’r ddolen neges yn cysylltu â’ch Blwch Derbyn. Mae hon yn ffordd arall y gallwch anfon neges at ddefnyddiwr yn uniongyrchol.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor yr adnodd Pobl
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Pobl (People).
Dod o hyd i Ddefnyddiwr
Defnyddiwch yr hidlydd a’r opsiynau chwilio i ddod o hyd i’r defnyddiwr yn y cyfrif.
Agor Proffil Defnyddiwr
Yn y canlyniadau chwilio, cliciwch enw’r defnyddiwr.
Anfon Neges
Bydd Canvas yn eich ailgyfeirio i’r Blwch Derbyn, lle gallwch greu eich neges ar gyfer y myfyrwyr.
Pan fyddwch wedi gorffen, cliciwch y botwm Anfon (Send).