Sut ydw i’n galluogi’r nodwedd hunan-ymrestru mewn cyfrif ac yn caniatáu i fyfyrwyr hunan-ymrestru ar gwrs?
Mae modd galluogi’r nodwedd hunan-ymrestru yng ngosodiadau’r cyfrif. Drwy alluogi’r nodwedd hunan-ymrestru, bydd yn rhoi’r gallu i addysgwyr ganiatáu i fyfyrwyr ddefnyddio cod ymuno neu glicio botwm i gofrestru eu hunain ar gwrs. Yn ddiofyn, mae’r nodwedd hunan-ymrestru wedi’i hanalluogi ar gyfer y cyfrif.
Ar ôl galluogi’r nodwedd hon, gall addysgwyr alluogi’r nodwedd hunan-ymrestru yng Ngosodiadau’r Cwrs (Course Settings).
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Gosodiadau
Yng Ngosodiadau'r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Caniatáu Hunan-ymrestru
Yn y tab Gosodiadau, dewch o hyd i’r gwymplen Caniatáu Hunan-ymrestru.
Gosod Hunan-ymrestru
Dewiswch y math o ganiatâd hunan-ymrestru rydych am ei alluogi.
I alluogi cyrsiau sydd ddim wedi’u cysylltu ag unrhyw ddata SIS neu sy’n cael eu heffeithio gan brosesau mewngludo SIS, cliciwch yr opsiwn Ar gyfer Cyrsiau sydd heb gael eu Creu’n Awtomatig (For Manually-Created Courses) [1].
I alluogi unrhyw fath o gwrs, p’un a ydych chi wedi’i greu eich hun neu wedi’i greu gan ddefnyddio’r adnodd Mewngludo SIS, cliciwch yr opsiwn Ar Gyfer Unrhyw Gwrs (For Any Courses) [2].
Diweddaru Gosodiadau
Cliciwch y botwm Diweddaru Gosodiadau (Update Settings).