Sut ydw i’n gosod cylchfa amser yn fy nghyfrif fel gweinyddwr?
Mae'r holl ddyddiadau ac amseroedd yn Canvas yn cael eu harddangos yn unol â chylchfa amser cyfrif neu gwrs. Fodd bynnag, gallwch osod cylchfa amser eich hun ar gyfer eich cyfrif a gweld eich cylchfa amser leol ar draws Canvas. Gall gweld dyddiadau yn eich cylchfa amser leol eich helpu i gadw ar ben digwyddiadau, yn enwedig os yw cylchfa amser y cyfrif neu’r cwrs yn wahanol iawn i’r man lle’r ydych yn byw.
Sylwch: Os ydych yn gosod cylchfa amser yn eich gosodiadau defnyddiwr, gallwch weld gylchfa amser y cwrs drwy hofran dros unrhyw ddyddiad neu amser yn Canvas. Bydd y testun yn dangos yr amser lleol ac amser y cwrs.
Agor Gosodiadau Defnyddiwr
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].
Golygu Gosodiadau
Cliciwch y botwm Golygu Gosodiadau (Edit Settings).
Gosod Cylchfa Amser y Defnyddiwr
Yn y gwymplen Cylchfa Amser, dewiswch gylchfa amser newydd ar gyfer eich cyfrif.
Diweddaru Gosodiadau
Cliciwch y botwm Diweddaru Gosodiadau (Update Settings).
Gweld Cylchfa Amser
Gweld cylchfa amser eich cyfrif.