Sut ydw i'n defnyddio gosodiadau'r cyfrif?
Fel gweinyddwr, gallwch ddefnyddio gosodiadau eich cyfrif i reoli gosodiadau eich sefydliad cyfan. Yn dibynnu ar eich hawliau, gallwch olygu lefelau gwahanol o osodiadau’r cyfrif.
Gwyliwch fideo am Osodiadau Cyfrifon.
Note: Mewn isgyfrifon, efallai na fydd holl osodiadau’r cyfrif ar gael.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Gosodiadau
Dim ond i weinyddwyr Canvas mae'r rhan gosodiadau o’ch cyfrif ar gael.
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Gweld Gosodiadau
Yn y tab Gosodiadau'r Cyfrif, gallwch nodi gosodiadau ar gyfer y cyfrif cyfan. Mae'r tab hwn yn cynnwys nifer o adrannau gallwch chi eu rheoli gan gynnwys Gosodiadau’r Cyfrif, Hidlyddion Cyfeiriadau IP, Nodweddion, Global JavaScript a CSS, Dolenni Help Personol, Gwasanaethau Gwe wedi’u Galluogi, a hawliau o ran pwy sy’n gallu creu cyrsiau newydd.
Note: Rhaid i’r opsiwn nodwedd Amser Erbyn Diofyn fod wedi’i alluogi i weld y gwymplen Amser Erbyn Diofyn.
Gweld Cwotâu
Yn y tab Cwotâu, gallwch chi ragosod cwotâu cyfrif ar gyfer cyrsiau, defnyddwyr a grwpiau [1]. Hefyd, gallwch osod cwotâu yn ôl ID Cwrs neu ID Grŵp [2}.
Gweld Integreiddiadau
Os yw eich cyfrif wedi galluogi’r opsiwn nodwedd Cysoni ymrestriad Grŵp Microsoft, gallwch chi weld y tab Integreiddiad. O’r tab hwn, gallwch chi ganiatáu i gyrsiau yn cyfrif gysoni data cwrs gyda Microsoft Teams.
Gweld Hysbysiadau
Yn y tab Hysbysiadau (Notifications), gallwch newid y gosodiadau ar gyfer hysbysiadau e-bost. Gallwch ddewis cadw rhagosodiad Canvas neu newid Enw Hysbysiad E-bost “Oddi wrth” ar gyfer hysbysiadau Canvas. Gall enw eich sefydliad neu ba wybodaeth bynnag gan yr anfonwr yr hoffech ei defnyddio fod yn destun personol. Mae defnyddio’r maes testun personol yn helpu myfyrwyr i adnabod hysbysiadau e-bost yn haws ac yn gwella ansawdd y rhyngweithio rhwng myfyrwyr ac addysgwyr.
Hefyd, gallwch chi rybuddio defnyddwyr am hysbysiadau wedi’u hanfon i wasanaethau allanol; gall ychwanegu cyfeiriad e-bost nad yw'n gysylltiedig â sefydliad arwain at ddatgelu cynnwys sensitif.
Note: Dim ond gweinyddwr cyfrif gwraidd sy’n gallu ffurfweddu gosodiadau hysbysiadau ar gyfer cyfrif. Dydy tab Hysbysiadau ddim ar gael mewn isgyfrifon.
Gweld Gweinyddwyr
Yn y tab Gweinyddwyr, gallwch chi weld a golygu'r gweinyddwyr sydd wedi’u neilltuo i'r cyfrif hwn. Os ydych chi'n gweithio gydag isgyfrifon, mae breintiau gweinyddol wedi'u cyfyngu i gwmpas yr isgyfrif hwnnw’n unig a’r hyn sydd o dan yr isgyfrif. Rhagor o wybodaeth am ychwanegu defnyddiwr gweinyddol at eich cyfrif.
Gweld Cyhoeddiadau
Yn y tab Cyhoeddiadau, gallwch chi anfon cyhoeddiadau cyffredinol at bob defnyddiwr yn y cyfrif hwnnw. Mae’r cyhoeddiadau hyn yn cael eu defnyddio i gyhoeddi digwyddiadau fel cau adeiladau, canslo dosbarthiadau, gwyliau ayb. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am gyhoeddiadau cyffredinol.
Gweld Adroddiadau
Yn y tab Adroddiadau y bydd yr adroddiadau personol yn ymddangos ar ôl i chi eu cynllunio. Mae llawer iawn mwy o adroddiadau ar gael yn Canvas, ond dydyn nhw ddim wedi'u rhestru ar y dudalen hon. Maen nhw ar gael yn eu cyd-destun. Mae adroddiadau am gwisiau, er enghraifft, ar gael ar dudalen y cwis ei hun. Mae adroddiadau am ddefnyddiwr ar gael ar dudalen proffil y defnyddiwr.
Gweld Apiau
Os yw eich sefydliad wedi galluogi'r Canvas App Center, yn y tab Apiau (Apps), gallwch weld yr holl adnoddau dysgu allanol sydd ar gael yn Canvas. Fodd bynnag, mae modd i chi ffurfweddu apiau eich hun hefyd.
Yn aml iawn, bydd adnoddau dysgu allanol yn cael eu datblygu fel integreiddiadau LTI. Mae’n bosib y caiff yr adnoddau hyn eu cyhoeddi ynghyd â gwerslyfr, a dim ond myfyrwyr ar y cwrs fydd yn cael mynediad at yr adnoddau hyn yn aml iawn. Dylai unrhyw ddarparwr LTI allu rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i ffurfweddu'r adnodd yn Canvas. Ar ôl ei ffurfweddu yma ar lefel y cyfrif, bydd ar gael i unrhyw ddylunydd cwrs neu addysgwr yn y cyfrif.
Gweld Opsiynau Nodweddion
Mae tab Opsiynau Nodweddion yn dangos nodweddion newydd sydd ar gael i’ch cyfrif ar lefel y cyfrif a'r cwrs. Mae modd rhoi nodweddion ar waith ar gyfer y cyfrif cyfan, eu diffodd ar gyfer y cyfrif cyfan, neu eu caniatáu fel bod addysgwyr yn gallu penderfynu defnyddio'r nodwedd neu beidio. Gall addysgwyr alluogi nodweddion a ganiateir ar gyfer cwrs ar sail pob cwrs yn unigol.
Gweld Diogelwch
Y tab Diogelwch yw ble y gellir rheoli'r Polisi Diogelwch Cynnwys. Gallwch chi alluogi neu analluogi'r Polisi Diogelwch Cynnwys ac ychwanegu neu dynnu parthau wedi’u caniatáu.
Note: Dim ond os ydy’r opsiwn nodwedd Polisi Diogelwch Cynnwys wedi cael eu galluogi y mae'r tab Diogelwch yn ymddangos yng Ngosodiadau’r Cyfrif.