Sut ydw i’n gweld yr adroddiad canlyniadau deilliannau ar gyfer myfyriwr unigol mewn cyfrif?
Mae modd i ddefnyddwyr gyda hawliau digonol gael gafael ar ganlyniadau deilliant. Mae hyn yn cynnwys athro yn cael gafael ar adroddiadau Deilliant mewn cwrs neu ddefnyddiwr gyda hawliau gweinyddol digonol yn cael gafael ar adroddiadau mewn is-gyfrif.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor yr adnodd Pobl
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Pobl (People).
Dod o hyd i Ddefnyddiwr
Defnyddiwch yr hidlydd a’r opsiynau chwilio i ddod o hyd i’r defnyddiwr yn y cyfrif.
Agor Proffil Defnyddiwr
Yn y canlyniadau chwilio, cliciwch enw’r defnyddiwr.
Gweld Canlyniadau Deilliant
Cliciwch y ddolen Gweld Canlyniadau Deilliant ar gyfer [enw’r myfyriwr].
Gweld Canlyniadau Deilliant
Os oes gan addysgwr aseiniadau neu gyfarwyddiadau dysgu wedi’u cysylltu i Ddeilliannau, bydd y canlyniadau’n ymddangos yn yr adroddiad hwn. Mae’r adroddiad yn dangos y Deilliant, Ymgeisiadau, Sgôr Diweddaraf, a Canran Gyfartalog [1]. Bydd yr adroddiad yn cael ei lenwi ar ôl i’r myfyriwr cyflwyno aseiniad neu wneud rhywbeth yn ymwneud a Deilliant.
Os ydych chi eisiau gweld yr arteffactau sy’n gysylltiedig â’r Deilliannau, cliciwch y botwm Dangos Pob Atreffact (Show All Artifacts) [2]. Gallwch chi hefyd weld canlyniad y myfyriwr ar gyfer Deilliannau eraill (os oes rhai) drwy glicio’r opsiwn canlyniadau eraill.
Nodyn: Mae canlyniadau Deilliannau’n gysylltiedig â lefel mynediad deilliant. Mae deilliannau cyfrif i’w gweld yn adroddiad y cyfrif, ac mae deilliannau’r is-gyfrif i’w gweld yn adroddiad yr is-gyfrif. Yr unig amser y byddai deilliannau i’w gweld yn y ddau adroddiad yw os ydyn nhw’n cael eu storio yn y ddau gyfrif, fel copïo deilliant cyfrif i’r lefel is-gyfrif. Mae deilliannau wedi’u creu ar lefel y cwrs i’w gweld ar lefel y cwrs ac ni fyddant yn ymddangos mewn adroddiadau deilliannau lefel cyfrif neu is-gyfrif.