Sut ydw i’n rheoli cyfarwyddiadau sgorio mewn cyfrif?
Gallwch greu, golygu, a dileu cyfarwyddiadau sgorio i addysgwyr eu defnyddio ar draws eich sefydliad. Gall addysgwyr ychwanegu cyfarwyddiadau sgorio lefel cyfrif at aseiniadau, trafodaethau wedi’u graddio a chwisiau. Gall addysgwyr greu eu cyfarwyddiadau sgorio eu hunain yn eu cyrsiau hefyd.
Nodyn: Os nad yw’r camau yn y wers hon yn cyd-fynd â’r hyn sydd wedi’i ddangos yn eich cyfrif, dysgwch sut i reoli cyfarwyddiadau sgorio yn y rhyngwyneb Cyfarwyddyd Sgorio Gwell (Enhanced Rubrics).
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Cyfarwyddiadau Sgorio
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Cyfarwyddiadau Sgorio (Rubrics).
Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio
I ychwanegu cyfarwyddyd sgorio newydd, cliciwch y botwm Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio (Add Rubric).
Rheoli Cyfarwyddyd Sgorio sy’n Bodoli’n Barod
Cliciwch enw’r cyfarwyddyd sgorio rydych chi eisiau ei olygu neu ei ddileu.
Nodyn: Ni ellir addasu cyfarwyddiadau sgorio a gafodd eu defnyddio mewn mwy nag un lle.
Golygu Cyfarwyddyd Sgorio
I olygu eich cyfarwyddyd sgorio, cliciwch y botwm Golygu Cyfarwyddyd Sgorio (Edit Rubric).
Golygu Manylion Cyfarwyddyd Sgorio
I ailenwi cyfarwyddyd sgorio, teipiwch yn y maes Teitl (Title) [1].
I ailenwi disgrifiad o faen prawf cyfarwyddyd sgorio neu ddisgrifiad hir, cliciwch yr eicon Golygu (Edit) maen prawf [2]. Gallwch hefyd olygu graddau maen prawf [3], ychwanegu opsiynau graddau [4], a golygu pwyntiau [5].
I ddileu maen prawf o’r cyfarwyddyd sgorio, cliciwch yr eicon Dileu (Delete) maen prawf [6].
Hefyd gallwch ychwanegu maen prawf [7] a deilliannau [8] newydd.
I gadw’r hyn rydych wedi’i olygu, cliciwch y botwm Diweddaru Cyfarwyddyd Sgorio [9].
I dynnu meini prawf deilliannau cysylltiedig o gyfarwyddyd sgorio, cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [10]. Dim ond ar y dudalen Deilliannau y mae modd golygu meini prawf Deilliannau.
Diweddaru Cyfarwyddyd Sgorio
I gadw unrhyw olygiadau rydych chi wedi’u gwneud i’r cyfarwyddyd sgorio, cliciwch y botwm Diweddaru Cyfarwyddyd Sgorio (Update Rubric).
Dileu Cyfarwyddyd Sgorio
Cliciwch y botwm Dileu Cyfarwyddyd Sgorio (Delete Rubric).
Cadarnhau’r broses Dileu
Cliciwch y botwm Iawn (OK).
Pan fyddwch chi’n dileu cyfarwyddyd sgorio, bydd unrhyw gwrs sy’n defnyddio cyfarwyddyd sgorio bryd hynny yn dal i allu cael mynediad at y cyfarwyddyd sgorio, ond ni fydd yn cael ei gynnwys mewn cyrsiau newydd.