Sut ydw i'n rhannu defnyddwyr wedi’u cyfuno mewn cyfrif?
Os yw cyfrifon y defnyddiwr wedi'u huno o'r blaen, gallwch eu rhannu gan ddefnyddio'r opsiwn Rhannu Defnyddwyr wedi’u Cyfuno ar y dudalen defnyddwyr lefel cyfrif.
Gallwch rannu defnyddwyr o fewn 180 diwrnod iddynt gael eu cyfuno. Fodd bynnag, does dim modd adfer defnyddwyr sydd wedi’u cyfuno i’w cyflwr blaenorol yn llawn. Os nad yw'r opsiwn Rhannu Defnyddwyr wedi’u Cyfuno yn ymddangos, mae'r terfyn 180 diwrnod wedi dod i ben ac ni all y defnyddiwr gael ei rannu ers cael ei gyfuno’n flaenorol. Gellir rhannu defnyddwyr hefyd gan ddefnyddio API Defnyddwyr Canvas.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor yr adnodd Pobl
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Pobl (People).
Dod o hyd i Ddefnyddiwr
Defnyddiwch yr hidlydd a’r opsiynau chwilio i ddod o hyd i’r defnyddiwr yn y cyfrif.
Agor Proffil Defnyddiwr
Yn y canlyniadau chwilio, cliciwch enw’r defnyddiwr.
Rhannu Defnyddwyr wedi’u Cyfuno
Cliciwch y ddolen Rhannu Defnyddwyr wedi’u Cyfuno (Split Merged Users).
Sylwch: Os nad yw'r opsiwn Rhannu Defnyddwyr wedi’u Cyfuno yn ymddangos, mae'r terfyn 180 diwrnod wedi dod i ben ac ni all y defnyddiwr gael ei rannu ers cael ei gyfuno’n flaenorol.
Rhannu Cyfrifon Defnyddwyr wedi’u Cyfuno
Cliciwch y botwm Rhannu (Split).
Sylwch: Gallwch rannu defnyddwyr o fewn 180 diwrnod iddynt gael eu cyfuno. Fodd bynnag, does dim modd adfer defnyddwyr sydd wedi’u cyfuno i’w cyflwr blaenorol yn llawn.
Gweld Cadarnhad
I weld cyfrifon y defnyddiwr sydd wedi’u rhannu, cliciwch enw’r defnyddiwr [1]. I ddychwelyd i broffil y defnyddiwr, cliciwch y botwm OK [2].