Sut ydw i’n creu deilliant ar gyfer cyfrif?
Os na allwch chi ddod o hyd i ddeilliant i’w ddefnyddio yn eich cyfrif, gallwch greu deilliant newydd ar gyfer y cyfrif. Gellir creu deilliannau o’r cyfrif, yr isgyfrif neu ar lefel y cwrs.
Mae modd cynnwys deilliannau mewn cyfarwyddiadau sgorio aseiniadau fel ffordd hawdd o asesu meistrolaeth o ddeilliannau sy’n cyd-fynd ag aseiniadau penodol. Pan fyddwch chi’n diffinio deilliant dysgu, dylech hefyd ddiffinio maen prawf y gellir ei ddefnyddio wrth greu cyfarwyddiadau sgorio ar gyfer aseiniad. Diffiniwch gynifer o golofnau cyfarwyddyd sgorio ag y bo angen arnoch, a phennu trothwy pwyntiau a gaiff ei ddefnyddio i ddiffinio meistrolaeth o’r deilliant hwn.
Mae’r erthygl hwn yn dangos sut mae creu deilliannau yn y wedd tudalen Deilliannau glasurol. Os ydy’r dudalen Deilliannau yn eich cyfrif yn edrych yn wahanol i'r delweddau yn yr erthygl hwn, dysgwch sut mae creu deilliannau sydd wedi galluogi’r opsiwn nodwedd Gwell Rheoli Deilliannau.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Deilliannau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).
Ychwanegu deilliant
Cliciwch y botwm Deilliant Newydd (New Outcome).
Creu Deilliant
Rhowch enw i’r deilliant yn y maes Enw’r deilliant hwn (Name this outcome) [1].
Pan fydd addysgwyr yn caniatáu i fyfyrwyr weld sgorau Meistroli Dysgu (Learning Mastery) ar y dudalen Graddau, bydd y myfyrwyr yn gweld enw’r deilliant. Fodd bynnag, efallai eich bod chi am greu enw cyfarwydd a phersonol eich hun. I greu enw cyfarwydd ar gyfer gwedd myfyrwyr, rhowch enw yn y maes Enw cyfarwydd (dewisol) (Friendly name (optional)) [2].
Mae modd i chi roi disgrifiad yn y maes Golygydd Cynnwys Cyfoethog hefyd [3].
Ychwanegu Sgorau Maen Prawf
Cliciwch yr eicon Golygu (Edit) [1] i olygu sgôr y maen prawf. Mae modd i chi newid yr enw presennol (os ydych chi’n dymuno) ar gyfer y maen prawf yn y maes Enw'r Maen Prawf (Criterion Name) [2]. Gallwch osod gwerth pwynt y maen prawf drwy deipio yn y maes Pwyntiau (Points) [3].
I gadw'r maen prawf, cliciwch y botwm Iawn (OK) [4]. I ddileu'r maen prawf yn gyfan gwbl, cliciwch y botwm Dileu (Delete) [5].
I ychwanegu sgorau maen prawf ychwanegol, cliciwch y ddolen Mewnosod (Insert) [6].
Note: Os na allwch chi olygu meini prawf ar gyfer eich deilliant, mae eich sefydliad wedi galluogi graddfeydd meistroli ar draws y cyfrif.
Gosod Meistrolaeth a Dull Cyfrifo
Gallwch osod gwerth pwynt y feistrolaeth yn y maes Meistrolaeth yn (Mastery at) [1]. Mae’r maes hwn yn dangos nifer y pwyntiau y mae’n rhaid eu hennill ar gyfer meistrolaeth yn ôl y sgorau maen prawf.
Yn y gwymplen Dull Cyfrifo (Calculation Method) [2], dewiswch y dull cyfrifo ar gyfer y deilliant. Yn ddiofyn, mae deilliannau newydd yn cael eu cyfrifo ar sail Cyfartaledd wedi’i Bwysoli yn rhyngwyneb Canvas.
Cliciwch y botwm Cadw (Save) [3].
Note: Os na allwch chi olygu dulliau cyfrifo ar gyfer eich deilliant, mae eich sefydliad wedi galluogi dulliau cyfrifo deilliannau ar draws y cyfrif.