Sut ydw i’n dad-draws-restru adran mewn cwrs fel gweinyddwr?
Os gwnaethoch chi draws-restru adran o gwrs, efallai y byddwch chi’n gallu traws-restru’r un adran yn ôl i’r cwrs gwreiddiol. Mae’r broses hon yn cael ei galw’n ddad-draws-restru ac mae’n dychwelyd pob ymrestriad myfyriwr yn ôl i adran wreiddiol y cwrs.
Ar ôl i chi ddad-draws-restru ymrestriadau, bydd pob gradd a chyflwyniad myfyriwr yn cael eu tynnu o’r cwrs (gan nad yw’r cwrs yn gallu cysylltu’r wybodaeth ag unrhyw ymrestriad cwrs mwyach). Os oes angen i chi gadw graddau myfyriwr a’u rhoi yn y cwrs gwreiddiol, dylech chi allgludo’r Llyfr Graddau a’i fewngludo i’r cwrs gwreiddiol cyn dad-draws-restru’r adran.
Nodyn: Peidiwch â newid enw’r cwrs wrth draws-restru neu ddad-draws-restru.
00:07: Sut ydw i’n dad-rewi rhestr adran mewn cwrs fel gweinyddwr? 00:11: Yn y ddewislen crwydro'r safle cyfan, cliciwch y ddolen gweinyddwr, yna cliciwch enw’r 00:15: cyfrif. 00:17: Yn y ddewislen crwydro’r cwrs, cliciwch y ddolen cyrsiau 00:21: I ddod o hyd i'r cwrs yn y cyfrif, defnyddiwch yr opsiynau hidlo a chwilio. 00:26: Cliciwch y tab adrannau 00:29: Cliciwch deitl yr adran rydych chi eisiau traws-restru. 00:33: Cliciwch y botwm dad-rewi rhestr yr adran hon. 00:36: Cliciwch y botwm dad-rewi rhestr yr adran hon. 00:38: Bydd yr adran hon yn cael ei symud yn ôl i’w chwrs gwreiddiol. 00:42: Roedd y canllaw hwn yn trafod y broses o draws-restru adran mewn cwrs ar instructure 00:46: gan gynnwys cael gafael ar osodiadau cwrs dewis adrannau penodol 00:50: a deall y nodwedd traws-restru er mwyn rheoli cwrs yn Effeithiol.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Cyrsiau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses).
Nodyn: Pan fyddwch chi’n agor cyfrif, bydd y cyfrif yn mynd i’r dudalen Cyrsiau yn ddiofyn.
Canfod Cwrs
Defnyddiwch yr opsiynau hidlo a chwilio i ddod o hyd i'r cwrs yn y cyfrif.
Agor Adrannau
Cliciwch y tab Adrannau (Sections).
Agor Adran
Cliciwch deitl yr adran rydych chi am ei dad-draws-restru.
Dad-draws-restru’r adran hon
Cliciwch y botwm Dad-Draws-Restru’r Adran Hon (De-Cross-List this Section).
Cliciwch y botwm Dad-Draws-Restru’r Adran Hon (De-Cross-List this Section). Bydd yr adran hon yn cael ei symud yn ôl i’w chwrs gwreiddiol.
Nodyn: Os byddwch chi’n dad-draws-restru adran sy’n cynnwys graddau myfyriwr, bydd Canvas yn cynnwys neges na fydd graddau’n weladwy mwyach. Os oes angen i chi gadw graddau myfyriwr a’u rhoi yn y cwrs gwreiddiol, dylech chi allgludo’r Llyfr Graddau a’i fewngludo i’r cwrs gwreiddiol cyn dad-draws-restru’r adran.