Sut ydw i’n galluogi rhagenwau personol mewn cyfrif?

Gallwch alluogi rhagenwau personol mewn cyfrif, ychwanegu opsiynau rhagenwau, ac addasu sut mae rhagenwau’n ymddangos.

Pan fydd rhagenwau wedi’u galluogi, gall defnyddwyr ddewis eu rhagenwau personol yn eu Gosodiadau Defnyddiwr (User Settings). Bydd y rhagenwau hyn yn ymddangos gyda’u henw defnyddiwr yn y meysydd canlynol yn Canvas:

  • Gweithredu fel Defnyddiwr Tudalen (Act as User Page)
  • Dewislen Creu Aseiniadau (Assignment Creation Menu)
  • Tudalen Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr wedi’u Neilltuo
  • Rhestr Adrannau’r Cwrs
  • Trafodaethau
  • Tudalennau Pobl (Cyfrif, Cwrs, a Grŵp)
  • Cerdyn Cyd-destun Myfyriwr
  • Dewislen Grwydro Defnyddiwr
  • Proffil Defnyddiwr
  • Gosodiadau Defnyddiwr

Nodiadau:

  • Does dim modd i weinyddwyr is-gyfrifon alluogi rhagenwau personol o fewn is-gyfrif.
  • Ar hyn o bryd, does dim modd i adnoddau LTI, fel Cwisiau Newydd (New Quizzes) a Dadansoddiadau (Analytics), ddangos rhagenwau.
  • I reoli rhagenwau personol drwy API Canvas, rhaid galluogi rhagenwau personol yn y cyfrif.

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Galluogi Rhagenwau Personol

Galluogi Rhagenwau Personol

Mae rhagenwau personol wedi’u hanalluogi’n ddiofyn. I alluogi rhagenwau personol, cliciwch y blwch ticio Galluogi Rhagenwau Personol (Enable Personal Pronouns).

Galluogi Defnyddwyr i Newid Rhagenwau

Ychwanegu Opsiwn Rhagenwau

I adael i’r defnyddwyr i newid eu rhagenwau, cliciwch y blwch ticio Gadael i ddefnyddwyr newid eu rhagenwau yn Canvas (Allow users to change their pronouns in Canvas).

Gweld Opsiynau Rhagenwau

Gweld Opsiynau Rhagenwau

Yn ddiofyn, bydd defnyddwyr yn eich cyfrif yn cael tri opsiwn rhagenw: Hi/Ei [1], Ef/Ei [2], a Nhw/Eu [3]. I olygu opsiwn rhagenw, tynnwch yr opsiwn rhagenw ac ychwanegwch y fersiwn wedi’i haddasu.

I dynnu opsiwn rhagenw, cliciwch yr eicon Tynnu (Remove) [4].

Ychwanegu Opsiwn Rhagenwau

Ychwanegu Opsiwn Rhagenwau

I ychwanegu opsiwn rhagenw newydd, teipiwch yr opsiwn rhagenw newydd yn y maes Rhagenwau sydd ar gael (Available Pronouns). Pwyswch y fysell Return neu Enter ar eich bysellfwrdd i ychwanegu'r opsiwn rhagenw newydd.

Nodyn: Mae'r maes Rhagenwau sydd ar gael (Available Pronouns) yn derbyn uchafswm o 50 nod ar gyfer opsiwn rhagenw newydd.

Diweddaru Gosodiadau

Diweddaru Gosodiadau

I gadw eich opsiynau rhagenwau personol, cliciwch y botwm Diweddaru Gosodiadau (Update Settings).

Gwedd Defnyddiwr

Pan fydd rhagenwau wedi’u galluogi a bod defnyddwyr yn cael newid eu rhagenwau, bydd defnyddwyr yn gallu dewis eu hopsiwn rhagenw personol yn eu Gosodiadau Defnyddiwr (User Settings) [1]. Dim ond rhagenwau sydd wedi’u galluogi yng Ngosodiadau’r Cyfrif (Account Settings) mae modd eu dewis; does dim modd i ddefnyddwyr ychwanegu eu rhagenwau eu hunain.

Bydd eu rhagenwau personol yn ymddangos ar ôl eu henw mewn meysydd ar draws Canvas [2].