Sut ydw i’n gweld gweithgarwch mewngofnodi ac allgofnodi defnyddiwr mewn cyfrif?

Yn Adnoddau Gweinyddol, mae gweinyddwyr yn gallu gweld gweithgarwch mewngofnodi/allgofnodi defnyddwyr yn eu sefydliad. Mae gweithgarwch cofnodi yn cael ei drefnu yn ôl dyddiad gyda’r gweithgarwch mwyaf diweddar ar frig y rhestr.

Nodiadau:

  • Bydd Canvas ddim ond yn cofnodi defnyddiwr yn allgofnodi pan mae’r botwm Mewngofnodi wedi’i glicio yn y ddewislen Cyfrif Defnyddiwr. Nid yw cau ffenestr y porwr yn creu cais allgofnodi.
  • Bydd gweithgarwch cofnodi ddim ond yn dangos gweithgarwch a ddigwyddodd yn y flwyddyn ddiwethaf.
  • Does dim modd i weinyddwyr is-gyfrifon weld gweithgarwch mewngofnodi ac allgofnodi yn yr Adnoddau Gweinyddol.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Adnoddau Gweinyddol

Agor Adnoddau Gweinyddol

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Adnoddau Gweinyddol (Admin Tools).

Agor Cofnodi

Agor Cofnodi

Cliciwch y tab Cofnodi (Logging).

Dewis Math o Gofnod

Dewis Math o Gofnod

O’r gwymplen math o gofnod, dewiswch yr opsiwn Gweithgarwch Mewngofnodi / Allgofnodi (Login / Logout Activity).

Chwilio am Ddefnyddiwr

Chwilio am Ddefnyddiwr

Teipiwch enw’r defnyddiwr yn y maes chwilio [1], a chlicio’r botwm Canfod (Find) [2]. Cliciwch enw’r defnyddiwr [3]

Rhowch Ystod Dyddiadau

Rhowch Ystod Dyddiadau

Creu'r ystod dyddiadau rydych chi eisiau ei chwilio. Gallwch chi roi dyddiadau yn y meysydd dyddiadau Dyddiad o a Dyddiad I [1], neu gallwch chi ddefnyddio’r eicon calendr i ddewis dyddiadau [2]. Yna cliciwch y botwm Canfod (Find) [3].

Canfod Gweithgarwch Cofnodi

Clicio’r Botwm Canfod

Cliciwch y botwm Canfod (Find).

Gweld Gweithgarwch Cofnodi

Gweld y gweithgarwch mewngofnodi/allgofnodi ar gyfer y defnyddiwr.