Sut ydw i’n cysylltu rhestr o gyfeiriadau wedi'u caniatáu Edu App Center â Canvas?
Os yw eich sefydliad yn defnyddio rhestr o gyfeiriadau wedi’u caniatáu ar gyfer Edu App Center, gallwch chi gysylltu’r rhestr i’r apiau allanol yn Canvas. I ddefnyddio’r rhestr o gyfeiriadau wedi’u caniatáu, bydd arnoch chi angen Tocyn API sydd wedi'i greu ar gyfer eich sefydliad yn EduAppCenter. Mae’r tocyn mynediad yn cysoni’r rhestr Apiau Allanol (External Apps) yn Canvas ar lefel y cyfrif ac ar lefel y cwrs er mwyn dangos dim ond apiau o’r rhestr o gyfeiriadau wedi’u caniatáu ar gyfer Edu App Center, sydd wedi’u creu ar gyfer y sefydliad.
Gall gweinyddwyr reoli’r rhestr apiau unrhyw bryd i dynnu tocyn mynediad neu roi un arall yn ei le. Pan nad oes tocyn mynediad mewn cyfrif neu isgyfrif, bydd y rhestr Apiau Allanol yn dangos y rhestr apiau ddiofyn sy’n cael ei darparu gan Canvas. Dim ond ar lefel cyfrif ac isgyfrif mae modd rheoli'r rhestr o Apiau Allanol (External Apps).
Dim ond un tocyn API ar gyfer sefydliad mae Canvas yn ei dderbyn. Mae tocyn sy’n cael ei ddefnyddio ar lefel y cyfrif yn hidlo i lawr yn awtomatig i bob isgyfrif. Mae Edu App Center yn eich galluogi i greu mwy nag un tocyn ar gyfer sefydliad, ond bydd pob tocyn yn mynd i’r un rhestr o gyfeiriadau wedi’u caniatáu. Os ydych chi am greu rhestrau cyfeiriadau ar wahân sy’n berthnasol i isgyfrifon unigol, bydd angen i chi greu sefydliadau ychwanegol yn Edu App Center a chreu tocynnau API ar gyfer pob rhestr o gyfeiriadau wedi'u caniatáu.
Nodiadau:
- Bydd Apiau sy’n cael eu hychwanegu at restr caniatáu Edu App Center yn cymryd hyd at 24 awr i ymddangos yn Canvas.
- I gael gafael ar y botwm Rheoli Rhestr Apiau yn y tab Apiau yng Ngosodiadau’r Cyfrif, rhaid i chi wedi galluogi’r hawl Rheoli LTI.
Agor Cyfrif
Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Gosodiadau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Agor Apiau
Cliciwch y tab Apiau (Apps).
Rheoli Rhestr Apiau
Cliciwch y botwm Rheoli Rhestr Apiau (Manage App List).
Nodyn: I gael gafael ar y botwm Rheoli Rhestr Apiau yn y tab Apiau yng Ngosodiadau’r Cyfrif, rhaid i chi wedi galluogi’r hawl Rheoli LTI.
Rhoi Tocyn API
Yn y maes Tocyn Mynediad (Access Token) [1], rhowch y Tocyn API gan eich sefydliad Edu App Center.
Cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].