Sut ydw i’n ychwanegu cyfnodau graddio mewn cyfrif?
Gallwch chi greu cyfnodau graddio newydd ar gyfer pob cwrs yn eich sefydliad. Dim ond ar lefel y cyfrif y mae modd creu cyfnodau graddio.
Ni ddylid golygu cyfnodau graddio sydd wedi dirwyn i ben ac ni ddylid eu hailddefnyddio ar gyfer tymhorau yn y dyfodol. Dylai tymhorau yn y dyfodol gael eu hychwanegu at set newydd o gyfnodau graddio, gyda dyddiadau wedi’u diffinio’n benodol ar gyfer y tymor yn y dyfodol. Mae dal gafael ar dymhorau sydd wedi dirwyn i ben, a’u cyfnodau graddio cysylltiedig, yn sicrhau y bydd adroddiadau graddau yn gywir.
Cyfnodau Graddio
Mae cyfnodau graddio’n cael eu creu o fewn cyfnod graddio sydd wedi’i osod ac sy’n gysylltiedig â thymor. Bydd pob cwrs sy’n gysylltiedig â’r tymor yn etifeddu’r cyfnodau graddio sydd wedi’u creu ar gyfer y tymor yn awtomatig. Dim ond gydag un cyfnod graddio wedi’i osod mae modd cysylltu pob tymor, ond mae modd i fwy nag un tymor fod yn yr un set o gyfnodau graddio. Mae modd ychwanegu mwy nag un tymor at set raddio os yw’r cyrsiau yn y tymhorau’n defnyddio’r un cyfnodau graddio. Mae modd ychwanegu cyfnodau graddio at y set cyfnodau graddio mewn unrhyw drefn ac maen nhw’n cael eu trefnu yn ôl dyddiad cychwyn. Does dim modd i ddyddiadau cychwyn a gorffen orgyffwrdd mewn cyfnod graddio.
Mae modd pwysoli cyfnodau graddio hefyd. Pan mae’r opsiwn hwn wedi’i alluogi, mae’r radd ar gyfer pob tymor yn cael ei chyfrifo drwy gymryd y graddau terfynol ar gyfer pob cyfnod graddio a gosod pwysau pob cyfnod graddio.
Yng nghynllun graddau'r cwrs, mae addysgwyr yn gallu gweld y cyfnodau graddio sy’n gysylltiedig â thymor y cwrs.
Dyddiadau Cau
Gallwch chi hefyd ychwanegu dyddiad cau at gyfnodau graddio, sy’n gadael i chi ymestyn yr amser y mae addysgwyr yn gallu golygu graddau ar ôl i’r cyfnod graddio ddod i ben. Yn ddiofyn, mae’r dyddiad cau yr un fath â’r dyddiad gorffen. Ond, mae modd golygu’r dyddiad cau i unrhyw ddyddiad ar ôl y dyddiad gorffen.
Ar lefel y cwrs, mae Canvas yn dilysu aseiniadau yn erbyn cyfnodau graddio wedi dod i ben yn Canvas. Ar hyn o bryd, dim ond yn Gradebook a SpeedGrader y mae Canvas yn dilysu aseiniadau yn erbyn cyfnodau graddio wedi dod i ben. Bydd meysydd nodweddion eraill yn cael eu dilysu mewn fersiynau sydd ar y gweill. Ar gyfer y cyfyngiadau cyfredol sy’n gysylltiedig â’r nodwedd dyddiad cau, ewch i’r ddogfen Dyddiadau Cau ar gyfer Cyfnodau Graddio yng Nghymuned Canvas.
Mwy nag un Tymor a Chyfnodau Graddio
Os yw eich sefydliad yn gofyn bod gwahanol gyfnodau graddio yn weithredol ar yr un pryd, gallwch chi greu tymhorau ychwanegol a’u hychwanegu at set cyfnodau graddio newydd neu gyfredol. Er enghraifft, os oes angen cyfnodau graddio ar eich rhanbarth ar gyfer semester neu chwarter, gallwch chi greu tymor newydd ar gyfer pob ysgol a gosod y tymhorau mewn setiau cyfnodau graddio gwahanol—un wedi’i greu ar gyfer semester ac un wedi’i greu ar gyfer chwarteri. Yn y dudalen Tymhorau, bydd pob tymor yn dangos ei gyfnod graddio cysylltiedig.
Mae pob cwrs mewn tymor yn gysylltiedig â’r cyfnod graddio. Os yw eich sefydliad yn gofyn nad yw rhai cyrsiau mewn tymor yn gysylltiedig â chyfnod graddio, rhaid i chi greu tymor ar wahân ar gyfer y cyrsiau hynny sydd ddim yn gysylltiedig â chyfnod graddio.
Sylwch:
- Unwaith mae tymor yn gysylltiedig â chyfnod graddio, mae enw’r cyfnod graddio yn ymddangos gyda’r tymor yn y dudalen Tymhorau (Terms).
- Mae is-gyfrifon a chyrsiau’n dangos cyfnodau graddio mewn cyflwr darllen yn unig; dim ond ar lefel y cyfrif mae modd gwneud newidiadau.
Agor Cyfrif
Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor yr adran Graddio
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Graddio (Grading).
Agor Cyfnodau Graddio
Cliciwch y tab Cyfnodau Graddio (Grading Periods).
Ychwanegu Set o Gyfnodau Graddio
Cliciwch y botwm Ychwanegu Set o Gyfnodau Graddio (Add Set o Grading Periods).
Creu Enw’r Set
Yn y maes Gosod Enw (Set Name) [1], rhowch enw ar gyfer y set o gyfnodau graddio.
Atodi Tymhorau
Os ydych chi eisiau atodi tymor sydd eisoes yn bodoli at y set o gyfnodau graddio, cliciwch y maes Atodi Tymhorau (Attach Terms). Yn y gwymplen, dewiswch y tymhorau rydych chi eisiau eu cysylltu â’r set o gyfnodau graddio. Mae tymhorau’n cael eu trefnu yn ôl dyddiad; ar ôl i dymor gael ei ddewis, mae’r tymor yn cael ei dynnu o’r gwymplen. Dim ond gydag un set o gyfnodau graddio y mae modd cysylltu tymhorau.
Gallwch chi hefyd olygu set o gyfnodau graddio ac ychwanegu tymor ar unrhyw adeg.
Gosod Opsiynau Cyfnodau Graddio
Gallwch chi hefyd ddewis gosod dau opsiwn ar gyfer y cyfnod graddio.
Os ydych chi eisiau creu pob cyfnod graddio gyda phwysau unigol, cliciwch y blwch ticio Cyfnodau graddio wedi’u pwysoli (Weighted grading periods) [1].
Pan mae defnyddwyr yn gweld yr opsiwn Pob Cyfnod Graddio yn y gwymplen cyfnodau graddio, gallwch chi adael iddyn nhw weld y cyfanswm graddau a chyfanswm unrhyw grwpiau aseiniadau yn y cwrs drwy glicio’r blwch ticio Dangos cyfanswm yr opsiwn Pob Cyfnod Graddio (Display totals for All Grading Periods option) [2]. Os nad yw’r blwch ticio hwn wedi’i dicio, bydd defnyddwyr yn dal i allu gweld y radd mewn cyfnod graddio unigol.
Creu Set o Gyfnodau Graddio
Cliciwch y botwm Creu (Create).
Ychwanegu Manylion Cyfnod Graddio
Yn y maes Teitl Cyfnod Graddio [1], dylech greu teitl ar gyfer y cyfnod graddio.
Yn y maes dyddiad cychwyn [2], rhowch ddyddiad cychwyn ar gyfer y cyfnod graddio. Mae’r dyddiad cychwyn yn 12:00 AM yn ddiofyn. Gallwch chi hefyd ddefnyddio’r eicon calendr i ddewis dyddiad.
Yn y maes dyddiad gorffen [3], rhowch neu ddewis dyddiad gorffen ar gyfer y cyfnod graddio. Mae’r dyddiad gorffen yn 11:59 AM yn ddiofyn.
Mae’r dyddiad cau [4] yn ddiwedd y dydd yn ddiofyn. I newid y dyddiad cau, rhowch neu ddewis dyddiad cau newydd.
Os ydych chi wedi galluogi graddio wedi’i bwysoli [5], dewiswch y ganran bwysoli ar gyfer y cyfnod graddio. Mae cyfnodau graddio’n gallu cynnwys unrhyw ganran sy’n fwy na sero, ac nid oes rhaid i gyfanswm r holl gyfnodau graddio fod yn hafal â 100%.
Cadw Cyfnod Graddio
Cliciwch y botwm Cadw (Save).