Sut ydw i’n rheoli allweddi datblygwyr ar gyfer cyfrif?
Fel gweinyddwr, gallwch reoli allweddi datblygwyr ar gyfer cyfrifon gwraidd. Gallwch reoli statws allweddi datblygwyr unigol a rheoli mynediad yn uniongyrchol at bwyntiau gorffen API penodol ar gyfer adnoddau trydydd parti.
Mewn cyfrif, bydd allweddi datblygwyr sydd newydd eu creu wedi’u diffodd yn ddiofyn.
Sylwch:
- Mae Allweddi Datblygwyr (Developer Keys) yn un o’r hawliau mewn cyfrif. Os na allwch chi weld dolen yr Allweddi Datblygwyr (Developer Keys) yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, yna dydy’r hawl hon ddim wedi’i galluogi ar gyfer eich cyfrif defnyddiwr.
- Er bod allweddi newydd wedi'u hanalluogi wrth eu creu, bydd allweddi sydd wedi'u creu cyn 14 Gorffennaf, 2018 wedi’u rhoi ar waith yn ddiofyn er mwyn sicrhau bod modd cael mynediad cyson.
- Nid yw Instructure yn adolygu gwerthwyr cyn rhoi allweddi datblygwyr cyffredinol, er mae angen gwybodaeth benodol am werthwyr. Dylech adolygu eich rhestr o allweddi sydd wedi’u hetifeddu i wneud yn siŵr mai dim ond allweddi sydd wedi’u cymeradwyo gan y sefydliad sy’n cael eu defnyddio. I bennu pa allweddi datblygwyr sy’n cael eu defnyddio yn eich cyfrif, ewch ati i redeg yr Adroddiad Allweddi Datblygwr (Developer Keys Report).
- Dydy cyflyrau a thocynnau allweddi datblygwyr o gyfrif rhiant ar gyfer consortiwm ddim yn cael eu hetifeddu mewn isgyfrifon cyfrif plentyn ar gyfer consortiwm safonol. Ar ben hynny, nid yw galluogi neu analluogi allweddi datblygwyr yng nghyfrif rhiant ar gyfer consortiwm nad yw’n cael ei reoli’n ganolog yn effeithio ar osodiadau offer mewn cyfrifon plant.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Allweddi Datblygwyr
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Allwedd Datblygwyr (Developer Keys).
Gweld Allweddi Datblygwyr
Mae tudalen yr Allweddi Datblygwyr yn mynd yn ddiofyn i’r tab Cyfrif, ac yno gallwch weld yr allweddi datblygwyr ar gyfer eich cyfrif.. Mae’r dudalen cyfrif yn dangos yr hidlydd Pob Un [1], sy’n dangos allwedd datblygwr pob cyfrif. Gallwch chi hefyd ddewis rhwng gweld Pob Un, allweddi LTI, ac allweddi API.
I chwilio am allwedd cyfrif, rhowch enw, e-bost neu ID yn y maes Chwilio yn ôl enw, e-bost neu ID (Search by name, email or ID) [2].
Mae pob allwedd yn dangos yr enw [3], e-bost y perchennog [4], manylion [5], ystadegau [6], math [7], a chyflwr [8].
Os yw allwedd wedi'i ffurfweddu fel allwedd LTI, bydd y golofn Math yn dangos yr eicon Adnodd Allanol [9].
Gweld Allweddi wedi'u Hetifeddu
I weld allweddi wedi’u hetifeddu sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif, cliciwch y tab Wedi Etifeddu (Inherited) [1].
Yn ddiofyn, mae’r dudalen wedi’i hetifeddu yn dangos yr hidlydd Pob Un [2], sy’n dangos pob allwedd datblygwr wedi’i hetifeddu. Gallwch chi hefyd ddewis rhwng gweld Pob Un, allweddi LTI, ac allweddi API.
I chwilio am allwedd wedi’i hetifeddu, rhowch enw neu ID yn y maes Chwilio yn ôl enw neu ID (Search by name, email or ID) [3].
Allweddi sydd wedi’u creu a’u rheoli ar lefel safle cyfan gan Canvas yw allweddi wedi’u hetifeddu. Gallwch reoli cyflwr yr allweddi sydd wedi’u hetifeddu ar gyfer eich cyfrif. Ond, os bydd allwedd yn llwyd [4], mae wedi'i galluogi’n gyffredinol a does dim modd ei haddasu ar lefel benodol y cyfrif.
Sylwch: Er mwyn i ganlyniadau chwilio ddangos, rhaid i chi roi o leiaf dri nod yn y maes chwilio.
Rheoli Allweddi Datblygwyr
I analluogi allwedd, cliciwch y botwm toglo i’r safle Diffodd [1]. I olygu allwedd, cliciwch yr eicon Golygu [2]. I ddileu’r allwedd, cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [3].
Gweld Neges Cadarnhau
Pan fydd newidiadau’n cael eu gwneud i allwedd datblygwr, bydd neges gadarnhau’n ymddangos. I gadarnhau'r newidiadau, cliciwch y botwm Iawn (OK) [1]. I ganslo’r newidiadau, cliciwch y botwm Canslo (Cancel) [2].
Ychwanegu Allwedd Datblygwr
I ychwanegu allwedd datblygwr, cliciwch y botwm Ychwanegu Allwedd Datblygwr (Add Developer Key).