Sut ydw i’n galluogi cwrs fel cwrs glasbrint, a hynny fel gweinyddwr?
Fel gweinyddwr, mae modd i chi alluogi unrhyw gwrs yn eich sefydliad fel cwrs glasbrint, a hynny yng Ngosodiadau'r Cwrs. Mae cwrs glasbrint yn eich galluogi chi i greu cynnwys a gwrthrychau dysgu, cloi eitemau cynnwys neu osodiadau penodol a gwthio diweddariadau i’r holl gyrsiau cysylltiedig drwy gysoni cwrs.
Gall unrhyw gwrs gael ei osod fel cwrs glasbrint os nad yw’n gysylltiedig â chwrs glasbrint arall nac yn cynnwys ymrestriadau myfyrwyr. Mae’r rhaid i gyrsiau cysylltiedig fod yn yr un isgyfrif neu mewn isgyfrif is na'r isgyfrif lle mae’r cwrs glasbrint.
Mae'r dudalen Gosodiadau Cwrs yn rhoi diffiniad penodol ynghylch trin gwrthrychau wedi’u cloi yn ystod y cwrs. Ar ôl gosod diffiniad, gellir cloi gwrthrychau yn unigol yn eu tudalennau Mynegai Canvas priodol.
Gellir diffinio gwrthrychau sydd wedi’u cloi yn gyffredinol neu yn benodol yn ôl math. Fel mater o drefn, ni fydd dim un math o wrthrych yn cynnwys priodoleddau wedi’u cloi. Ymhlith y priodoleddau y mae modd eu cloi mae cynnwys, pwyntiau, dyddiadau erbyn a dyddiadau ar gael. Caiff y rhain eu defnyddio mewn aseiniadau, trafodaethau, tudalennau, ffeiliau a chwisiau.
Gwrthrychau Cyffredinol sydd Wedi’u Cloi
Yn ddiofyn, caiff y cwrs ei ddiffinio ar gyfer Gwrthrychau Cyffredinol sydd Wedi’u Cloi (General Locked Objects), gan olygu bod unrhyw wrthrychau sydd wedi’u cloi yn y cwrs glasbrint yn rhwym wrth briodoleddau cyffredinol nad oes modd eu golygu mewn cyrsiau cysylltiedig. Er enghraifft, pan fydd Cynnwys yn cael ei ddewis fel priodoledd gwrthrych wedi’i gloi, nid oes modd i addysgwyr mewn cyrsiau cysylltiedig olygu unrhyw gynnwys ar gyfer unrhyw wrthrychau sydd wedi’u cloi. Caiff yr opsiwn o gloi cynnwys ei ddewis yn ddiofyn ond mae modd dad-ddewis yr opsiwn i’w gloi.
Gwrthrychau Wedi’u Cloi yn ôl Math
Gellir diffinio cyrsiau glasbrint ar gyfer Gwrthrychau Wedi’u Cloi yn ôl Math (Locked Objects by Type) hefyd, sy’n golygu nad oes modd i unrhyw wrthrychau sydd wedi’u cloi yn y cwrs yn rhwym wrth osodiadau penodol sydd wedi’u gosod yn ôl math na ellir ei olygu mewn cyrsiau cysylltiedig. Mae cyrsiau glasbrint yn cysoni ac yn delio â phum math o wrthrychau: aseiniadau, trafodaethau, tudalennau, ffeiliau a chwisiau.
Newidiadau i Ddiffiniad Gwrthrych
Gallwch newid priodoleddau a diffiniadau gwrthrychau ar gyfer gwrthrychau wedi’u cloi yng Ngosodiadau'r Cwrs unrhyw bryd. Fodd bynnag, bydd datgloi unrhyw briodoledd sydd wedi’i gloi ar ôl hynny berthnasol i’r holl wrthrychau cysylltiedig sydd wedi’u cloi yn y cwrs cysylltiedig. Os bydd priodoledd sydd wedi'i gloi’n flaenorol yn cael ei galluogi neu ei datgloi yn y cwrs glasbrint, bydd unrhyw briodoleddau cynnwys wedi'i gloi yn y cwrs cysylltiedig, sy'n amrywio o briodoleddau cynnwys wedi’i gloi yn y cwrs glasbrint, yn arwain at newid heb ei gysoni ac yn diystyru’r cynnwys yn y cwrs cysylltiedig. Gwnewch yn siŵr bod diffiniadau a phriodoleddau’n cael eu nodi cyn darparu cyrsiau cysylltiedig i addysgwyr.
Nodiadau:
- Ni all cyrsiau glasbrint gynnwys unrhyw ymrestriadau myfyrwyr neu arsyllwyr.
- Nid oes rhaid cyhoeddi cyrsiau glasbrint.
- Nid yw cyrsiau glasbrint yn cynnwys y botwm Ailosod Cynnwys Cwrs (Reset Course Content) oherwydd nad oes modd ailosod cynnwys.
- Nid oes modd creu cyrsiau glasbrint ar gyfer cyrsiau ar draws cyfrifon ymddiriedaeth. Ni all cwrs mewn un cyfrif fod yn gwrs glasbrint ar gyfer cyfrif arall.
- Nid yw cyrsiau glasbrint yn cysoni rhai gosodiadau cwrs i gyrsiau cysylltiedig, gan gynnwys tymor, a fformat cwrs.
- Mae Cyrsiau Glasbrint yn cynnwys ymarferoldeb tebyg gyda Canvas Commons. I ddysgu mwy am Canvas Commons, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Cymharu Dosbarthiad Cynnwys Cwrs.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Cyrsiau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses).
Nodyn: Pan fyddwch chi’n agor cyfrif, bydd y cyfrif yn mynd i’r dudalen Cyrsiau yn ddiofyn.
Canfod Cwrs
Defnyddiwch yr opsiynau hidlo a chwilio i ddod o hyd i'r cwrs yn y cyfrif.
Agor Manylion y Cwrs
Cliciwch y tab Manylion y Cwrs (Course Details).
Galluogi Cwrs
Ticiwch y blwch Galluogi cwrs fel Cwrs Glasbrint (Enable course as a Blueprint Course).
Gweld Cyfyngiadau
Os nad oes modd galluogi’r cwrs fel cwrs glasbrint, bydd y blwch ticio wedi’i dywyllu [1]. Nid oes modd galluogi cwrs fel cwrs glasbrint os yw’r cwrs yn cynnwys ymrestriadau myfyrwyr.
Os yw’r cwrs eisoes wedi’i gysylltu â chwrs glasbrint, gallwch chi weld enw'r cwrs ac ID y cwrs fel cyfeirnod (ee cyrsiau/XXX) [2]. Mae enw’r cwrs glasbrint yn cynnwys dolen i fynd i’r cwrs glasbrint.
Diffinio Gwrthrychau Cyffredinol sydd Wedi’u Cloi
Yn ddiofyn, caiff y cwrs ei ddiffinio ar gyfer Gwrthrychau Cyffredinol sydd Wedi’u Cloi (General Locked Objects), gan olygu bod unrhyw wrthrychau sydd wedi’u cloi yn y cwrs glasbrint yn rhwym wrth briodoleddau cyffredinol nad oes modd eu golygu mewn cyrsiau cysylltiedig.
Dewis Priodoleddau
Fel rhan o’r gosodiadau cyffredinol, dewiswch y priodoleddau ar gyfer y gwrthrychau sydd wedi’u cloi yn y cwrs hwn. Mae gwrthrychau cyffredinol sydd wedi’u cloi yn delio â phedwar priodoledd ar draws unrhyw wrthrych mewn cwrs: cynnwys, pwyntiau, dyddiadau ar gael a dyddiadau erbyn.
Caiff yr opsiwn o gloi cynnwys ei ddewis yn ddiofyn ond mae modd dad-ddewis yr opsiwn i’w gloi.
Does dim modd golygu gwrthrychau sydd wedi’u cloi mewn cyrsiau cysylltiedig. Er enghraifft, pan fydd Cynnwys yn cael ei ddewis fel priodoledd gwrthrych wedi’i gloi, nid oes modd i addysgwyr mewn cyrsiau cysylltiedig olygu unrhyw gynnwys ar gyfer unrhyw wrthrychau sydd wedi’u cloi. Mae'r cynnwys hefyd yn ymwneud â theitl eitem y cynnwys.
Diffinio Gwrthrychau Wedi’u Cloi yn ôl Math
I ddiffinio gwrthrychau sydd wedi’u cloi yn ôl math, dewiswch yr opsiwn Gwrthrychau Wedi’u Cloi yn ôl Math (Locked Objects by Type). Mae’r gosodiad hwn yn golygu bod unrhyw wrthrych sydd wedi’i gloi yn y cwrs yn rhwym wrth osodiadau penodol sydd wedi’u gosod yn ôl math na ellir eu golygu yn y cyrsiau cysylltiedig.
Dewis Priodoleddau
Mae cyrsiau glasbrint yn cysoni ac yn delio â phum math o wrthrychau: aseiniadau, trafodaethau, tudalennau, ffeiliau a chwisiau. I ddewis priodoledd ar gyfer math o wrthrych, dylech ehangu’r ddewislen math o briodoledd [1] a dewis priodoleddau unigol sy’n berthnasol i bob gwrthrych sydd wedi’i gloi [2]. Ar ôl dewis priodoledd, bydd enw'r priodoledd i’w weld wrth y math o wrthrych.
Nodiadau:
- Nid oes angen i briodoleddau fod yr un fath ar gyfer pob math o wrthrych. Hefyd, gan ddibynnu ar y math o wrthrych, efallai na fydd pob priodoledd ar gael.
- Mae modd diweddaru a chysoni cyfarwyddiadau sgorio fel rhan o gyrsiau glasbrint. Fodd bynnag, os yw pwyntiau wedi cael eu cloi ar gyfer aseiniad, ni fydd diweddaru gwerth pwynt cyfarwyddyd sgorio yn effeithio ar werth pwynt aseiniad.
Diweddaru Manylion Cwrs
Cliciwch y botwm Diweddaru Manylion Cwrs (Update Course Details).