Sut ydw i’n creu enwau deilliannau cyfrif personol i fyfyrwyr?
Fel gweinyddwr, gallwch chi ddewis caniatáu’r opsiwn nodwedd Llyfr Graddau Meistroli Dysgu Myfyrwyr i addysgwyr ei alluogi yn eu cyrsiau, sy’n caniatáu i fyfyrwyr weld sgorau Meistroli Dysgu ar eu tudalen Graddau. Mae’r holl ddeilliannau yn y cwrs yn ymddangos yn y wedd myfyriwr. Ond, efallai y bydd rhai enwau deilliannau swyddogol yn anodd i fyfyrwyr eu deall, felly wrth greu deilliannau ar lefel y cyfrif, mae gennych chi’r opsiwn i greu enw personol, mwy cyfeillgar, i fyfyrwyr ei weld. Mae’r maes enw ar wahân hwn yn gadael i chi gadw enw swyddogol y deilliant yn ogystal â chreu fersiwn mwy cyfeillgar sy’n fwy defnyddiol i fyfyrwyr.
Mae’r erthygl hwn yn dangos sut mae creu enwau deilliannau cyfrif personol yn y wedd tudalen Deilliannau glasurol. Os ydy’r dudalen Deilliannau yn eich cyfrif yn edrych yn wahanol i'r delweddau yn yr erthygl hwn, dysgwch sut mae creu deilliannau sydd wedi galluogi’r opsiwn nodwedd Gwell Rheoli Deilliannau.
Nodyn: I addysgwyr, mae creu enw personol yn hawl cwrs. Os oes ganddyn nhw fynediad, mae addysgwyr yn gallu creu enwau cyfeillgar ar gyfer deilliannau y maen nhw’n eu creu ar lefel y cwrs. Ond, does dim modd iddyn nhw greu enwau personol ar gyfer deilliannau sydd wedi’u creu ar lefel y cyfrif.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Deilliannau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif neu’r Isgyfrif, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).
Creu Deilliant Newydd
Os ydych chi eisiau creu enw cyfeillgar wrth greu Deilliant newydd, cliciwich y botwm Deilliant Newydd (New Outcome).
Creu Enw Cyfeillgar
Rhowch enw i’r deilliant yn y maes Enw’r deilliant hwn (Name this outcome) [1]. Dyma’r enw’r deilliant a fydd hefyd yn ymddangos ar gyfer addysgwyr yn eu Llyfr Graddau Meistroli Dysgu.
I greu enw deilliant personol ar gyfer myfyrwyr, rhowch enw yn y maes Enw cyfeillgar (dewisol) (Friendly name (optional)) [2].
Golygu Deilliant
Os ydych chi eisiau golygu deilliant sydd eisoes yn bodoli ac ychwanegu enw cyfeillgar, dewch o hyd i enw’r deilliant a chlicio arno [1]. Cliciwch y botwm Golygu Deilliant (Edit Outcome) [2].
Dim ond deilliannau sydd heb gael eu defnyddio i asesu myfyriwr y mae modd i chi eu golygu. Os yw’r botwm Golygu Deilliant yn llwyd, does dim modd i chi olygu’r deilliant.
Nodyn: Ni fydd eich enw cyfeillgar yn ymddangos fel rhan o’r dudalen Mynegai Deilliannau.