Pa hawliau a rolau defnyddiwr sydd ar gael yn Canvas?
Mae dau fath o ddefnyddiwr yn Canvas: Defnyddwyr Lefel y Cyfrif a defnyddwyr Lefel y Cwrs.
Yn ddiofyn, mae Canvas yn cynnwys un rôl defnyddiwr Lefel y cyfrif sy'n cynnwys hawliau sy’n effeithio ar y cyfrif cyfan yn ogystal ag effeithio ar gyrsiau. Mae modd i weinyddwyr cyfrif greu rolau defnyddiwr lefel y cyfrif gyda hawliau wedi'u haddasu. I gael rhagor o wybodaeth am hawliau ar lefel y cyfrif, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Hawliau Cyfrif Canvas.
Yn ddiofyn, mae gan Canvas bum rôl defnyddiwr Lefel y cwrs, pob un â hawliau sy'n effeithio ar ei allu i ryngweithio â chyrsiau Canvas. Mae modd i weinyddwyr cyfrifon greu rolau defnyddiwr lefel y cyfrif. I gael rhagor o wybodaeth am hawliau defnyddiwr ar lefel y cwrs, edrychwch ar y ddogfen adnoddau ar Hawliau Cwrs Canvas.
Hefyd, gallwch weld fideo am Hawliau Canvas.
Note: Pan fyddwch chi’n golygu hawl, gall gymryd 30 munud neu fwy i’r hawl hwnnw ddod i rym. Os nad yw’r newidiadau disgwyliedig yn ymddangos yn sych, rhowch gynnig arall arni mewn peth amser.
Rolau Lefel Cwrs
Mae rolau lefel cwrs yn rolau sydd â hawliau sy'n caniatáu mynediad ar lefel y cwrs. Fel arfer, ni all defnyddwyr sydd â'r rolau hyn weld mwy na’r hyn sydd yn eu cyrsiau Canvas
Mae Canvas yn darparu pum rôl defnyddiwr sylfaenol lefel y cwrs ac mae pob un yn cynnwys set o hawliau diofyn eu hunain. Gallwch reoli'r hawliau yn unol ag anghenion eich sefydliad. Gallwch chi hefyd greu rolau cwrs personol sy'n cael eu creu o rôl sylfaenol. Dyma rolau sylfaenol Canvas:
- Myfyriwr [1] : Mae gan y defnyddwyr hyn yr hawl i gyflwyno aseiniadau. Ni ddylai'r hawl hon gael ei diffodd ar gyfer y rôl hon. Mae hawliau myfyrwyr wedi'u cyfyngu, ond mae ganddynt ddigon o hawliau i gael mynediad at ddeunyddiau'r cwrs a rhyngweithio gyda nhw. Gallwch hefyd roi hawliau eraill i fyfyrwyr.
- Athro [2]: Mae'r rôl athro yn rhoi hawliau gweinyddwr cwrs i ddefnyddiwr, gan roi rheolaeth dros y cyrsiau sydd wedi'u neilltuo iddynt. Ond, mae modd i sefydliadau adolygu a chyfyngu'r hawliau hyn fel bod angen, yn unol ag anghenion eich sefydliad.
- Cynorthwyydd Dysgu [3]: Mae gan y defnyddwyr hyn hawliau tebyg i athrawon, ond ni ddylai cynorthwywyr dysgu gael mynediad at ddata SIS. Mae rôl y cynorthwyydd dysgu yno i gefnogi rôl yr athro. Mae modd i weinyddwyr reoli hawliau cynorthwywyr dysgu. Er enghraifft, mae'n bosib bod rhai sefydliadau yn caniatáu i gynorthwywyr dysgu raddio cyflwyniadau myfyrwyr.
- Dylunydd [4]: Mae gan y defnyddwyr hyn yr hawl i gael mynediad at, a chreu, cynnwys cwrs, gan gynnwys cyhoeddiadau, aseiniadau, trafodaethau, a chwisiau. Bydd mynediad dylunwyr at wybodaeth myfyrwyr yn amrywio o'r naill sefydliad i'r llall. Fodd bynnag, ni all dylunwyr weld graddau. Os nad yw eich sefydliad yn defnyddio Dylunwyr Cwrs, gallech ddefnyddio’r rôl defnyddiwr hon fel rôl defnyddiwr cynorthwyydd dysgu sydd â mwy o hawliau na chynorthwyydd dysgu arferol.
- Arsyllwr [5]: Mae modd cysylltu'r rôl defnyddiwr hwn â myfyriwr sydd wedi ymrestru ar gwrs. Er enghraifft, efallai y bydd rhieni, gofalwyr a/neu fentoriaid am gael eu cysylltu â myfyriwr i weld eu cynnydd yn y cwrs. Fel arfer, arsyllwr sydd â'r lleiaf o hawliau.
Note: Mae hawliau defnyddiwr yn symud i lawr trwy gyfrif. Yn ogystal, mae unrhyw addasiadau i hawliau yn effeithio ar bob defnyddiwr sydd â rôl. Mae'n bosib y bydd angen i chi greu rôl defnyddiwr bersonol ar lefel y cwrs ar gyfer defnyddwyr rydych am i'w hawliau lefel y cwrs fod yn wahanol i'r gweddill.
Rolau Lefel Cyfrif
Mae gweinyddwyr cyfrif yn gallu gosod hawliau ar gyfer pob defnyddiwr yn Canvas. Mae modd i weinyddwyr greu rolau lefel y cyfrif ychwanegol gyda hawliau lefel y cyfrif. Mae'r hawliau diofyn ar gyfer gweinyddwyr cyfrif yn gallu cynnwys mynediad at bopeth yn y cyfrif, yn ogystal â’r gallu i ffugio fel defnyddiwr.
Mae gan bob isgyfrif ei dudalen hawliau ei hun felly gall gweinyddwyr greu rolau lefel cyfrif mewn isgyfrifon ac ychwanegu hawliau isgyfrifon yn uniongyrchol yn yr isgyfrif. Gall gweinyddwyr isgyfrif ddim ond rheoli hawliau a gosodiadau ar gyfer yr isgyfrifon hynny sydd wedi’u neilltuo iddynt. Ond, mae'n bosib na fydd rhai hawliau ar gael ar gyfer defnyddwyr is-gyfrifon. I ddysgu mwy, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Cymharu Cyfrif ac Isgyfrif.