Sut ydw i’n galluogi Slack ar gyfer cyfrif?
I alluogi hysbysiadau Canvas ar gyfer pob defnyddiwr mewn gweithle Slack, rhaid i ddefnyddiwr gyda hawliau gweinyddu Slack greu a gosod ap Slack i greu Tocyn Mynediad Bot. Ar ôl i’r bot gael ei greu ei ddilysu, mae modd i ddefnyddwyr unigol Canvas alluogi Slack fel dull cysylltu Canvas a derbyn hysbysiadau.
Nodyn: Does dim modd i gyfrifon consortiwm plentyn reoli gosodiadau Slack.
Agor Apiau Slack
Agor api.slack.com/apps yn eich porwr rhyngrwyd.
Os oes angen, mewngofnodwch i’ch cyfrif Slack.
Creu Ap Slack Newydd
Cliciwch y botwm Creu Ap Newydd (Create New App) [1].
Rhowch enw i’r ap yn y maes Enw Ap (App Name) [2]. Bydd enw’r ap yn ymddangos i ddefnyddwyr yng ngweithle Slack.
Dewiswch weithle eich sefydliad neu’r gweithle y dylai’r ap berthyn iddo yn y gwymplen Gweithle Slack Datblygu (Development Slack Workspace) [3].
I greu’r ap, cliciwch y botwm Creu Ap (Create App) [4].
Ychwanegu Cwmpas OAuth
Agorwch y dudalen OAuth a Hawliau (OAuth & Permissions) [1].
Yn yr adran Cwmpasau (Scopes) [2], cliciwch y botwm Ychwanegu Cwmpas OAuth (Add an OAuth Scope) [3].
Dewis Cwmpasau
Cliciwch y gwymplen Ychwanegu hawl yn ôl Cwmpas neu ddull API (Add permission by Scope or API method) [1] a dewis yr opsiynau cwmpas OAuth canlynol:
- channels:manage [2]: Rheoli sianeli cyhoeddus y mae eich ap Slack wedi cael ei hychwanegu au a chreu rhai newydd.
- chat:write [3]: Anfon negeseuon fel eich ap Slack
- groups:write [4]: Rheoli sianeli preifat y mae eich ap Slack wedi cael ei ychwanegu atynt a chreu rhai newydd.
- im:write [5]: Dechrau negeseuon uniongyrchol gyda phobl
- mpim:write [6]: Dechrau negeseuon uniongyrchol grŵp gyda phobl
- users:read [7]: Gweld pobl yn y gweithle
- users:read.email [8]: Gweld cyfeiriadau e-bost pobl yn y gweithle
Gosod Ap
I gadw a gosod yr ap, cliciwch y botwm Gosod Ap i’r Gweithle (Install App to Workplace).
Caniatáu Mynediad i’r Ap at y Gweithle
Mae neges yn ymddangos yn gofyn am hawl i’r ap gael mynediad at y gweithle Slack.
Cliciwch y botwm Caniatáu (Allow).
Copïo Tocyn Mynediad Bot Slack
Ar ôl i’r ap gael ei greu yn Slack, cliciwch y ddolen Gosod Ap (Install App) [1].
Dod o hyd i Docyn Mynediad OAuth Defnyddiwr Bot, a chlicio’r botwm Copïo (Copy) [2].
Ychwanegu Tocyn API Slack
Yn y dudalen Gosodiadau Cyfrif yn Canvas, dewch o hyd i’r adran Tocyn API Slack a gludo’r tocyn wedi’i gopïo yn y maes Allwedd API Slack Newydd (New Slack API Key) [1].
I gadw, cliciwch y botwm Diweddaru Gosodiadau (Update Settings) [2].
Nodyn: Os nad yw’r Allwedd API Slack yn ymddangos, adnewyddwch ffenestr eich porwr.
Creu Dull Cysylltu
Yn eich tudalen gosodiadau defnyddiwr, cliciwch y ddolen Ychwanegu Dull Cysylltu (Add Contact Method) [1].
Cliciwch y tab E-bost Slack (Slack Email) [2], a rhoi cyfeiriad e-bost eich cyfrif Slack yn y maes E-bost Slack (Slack Email) [3].
Yna cliciwch y botwm Cofrestru E-bost Slack (Register Slack Email) [4].
Cadarnhau Sianel Gyfathrebu
Yn Slack, chwiliwch am hysbysiad sydd wedi cael ei anfon at yr Ap Slack sydd newydd ei greu gyda chod cofrestru Canvas pedwar digid [1].
Yn Canvas, rhowch y cod pedwar digid yn y maes Cadarnhau Sianel Gyfathrebu (Confirm Communication Channel) [2]. Yna cliciwch y botwm Cadarnhau (Confirm) [3].
Ar ôl cadarnhau, mae pob defnyddiwr yn eich cyfrif Slack yn gallu ychwanegu’r dull cyswllt E-bost Slack a rheoli eu gosodiadau hysbysu Slack yn y dudalen Gosodiadau Defnyddiwr.