Sut ydw i’n symud deilliant neu grŵp deilliannau mewn cyfrif?
Gallwch chi symud deilliannau a grwpiau deilliannau ar ôl i chi eu hychwanegu at eich cyfrif neu is-gyfrif. Gallwch chi ddefnyddio’r botwm Symud Deilliant neu Symud Grŵp Deilliannau neu gallwch chi lusgo a gollwng y deilliant neu grŵp deilliannau eich hun.
Mae’r erthygl hwn yn dangos sut mae symud deilliannau a grwpiau deilliannau yn y wedd tudalen Deilliannau glasurol. Os ydy’r dudalen Deilliannau yn eich cyfrif yn edrych yn wahanol i'r delweddau yn y wers hon, dysgwch sut mae symud deilliannau a grwpiau deilliannau sydd wedi galluogi’r opsiwn nodwedd Gwell Rheoli Deilliannau.
Nodyn: I symud deilliant i grŵp deilliannau, bydd angen i chi greu grŵp deilliannau.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Deilliannau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif neu’r Isgyfrif, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).
Symud Deilliant neu Grŵp Deilliannau
I symud deilliant unigol neu grŵp deilliannau, cliciwch y botwm Symud (Move).
Dewiswch y grŵp deilliannau lle rydych chi eisiau symud y deilliant neu grŵp deilliannau [1].
Cliciwch y botwm Symud (Move) [2].
Llusgo a Gollwng Deilliant neu Grŵp Deilliannau
Gallwch chi hefyd ddefnyddio’r opsiwn llusgo a gollwng i symud deilliannau a grwpiau deilliannau. Cliciwch y deilliant neu grŵp deilliannau a llusgo’r deilliant neu grŵp deilliannau i leoliad o’ch dewis. Rhowch y deilliant neu grŵp deilliannau yn y lleoliad o’ch dewis drwy ryddhau’r llygoden.