Sut ydw i’n gweld ac yn rheoli cynlluniau graddau mewn cyfrif?
Mae modd gweld a rheoli cynlluniau graddau eich cyfrif, gan gynnwys cynlluniau graddau rydych chi wedi’u creu ar gyfer eich cyfrif. Mae modd i chi olygu, dyblygu, archifo, dad-archifo a dileu cynlluniau graddau hefyd, os oes angen.
Bydd unrhyw gynlluniau graddau sydd wedi’u creu yn eich cyfrif yn ymddangos mewn isgyfrifon.
Agor Cyfrif
Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor yr adran Graddio
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Graddio (Grading).
Agor Cynlluniau Graddau
Cliciwch y tab Cynlluniau Graddau (Grading Schemes).
Gweld Cynlluniau Graddau
Mae'r dudalen Cynlluniau Graddau’n (Grading Schemes) dangos yr holl gynlluniau graddau ar gyfer eich cyfrif.
Ychwanegu Cynllun Graddau Newydd
I ychwanegu cynllun graddau at gyfrif, cliciwch y botwm Ychwanegu Cynllun Graddau Newydd (Add New Grading Scheme).
Rheoli Cynlluniau Graddau
I chwilio am gynllun graddau, rhowch yr enw yn y maes Chwilio... (Search...) [1].
I agor cynllun graddau, cliciwch enw’r cynllun graddau [2].
I osod cynlluniau graddau yn nhrefn yr wyddor (o’r dechrau i’r diwedd, neu o’r diwedd i’r dechrau), cliciwch yr eicon Saeth [3].
I weld y lleoliadau lle mae’r cynllun graddau’n cael ei ddefnyddio, cliciwch y ddolen Dangos cyrsiau ac aseiniadau (Show courses and assignments) [4].
I ddyblygu’r cynllun graddau, cliciwch yr eicon Dyblygu (Duplicate) [5].
I olygu cynllun graddau, cliciwch yr eicon Golygu (Edit) [6].
I archifo cynllun graddau, cliciwch yr eicon Archifo (Archive) [7].
I ddileu cynllun graddau, cliciwch yr eicon Dileu [8].
I ddad-archifo ac adfer cynllun graddau, cliciwch yr eicon Dad-archifo (Unarchive) [9].
Sylwch:
- Nid yw golygu enw a disgrifiad o gynlluniau graddau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn caniatáu golygu i ganrannau neu bwyntiau yn y cynllun graddau.
- O ran cynllun graddau a sefydlwyd ar lefel y cwrs, ni ellir eu dileu, eu harchifo na’u golygu ar lefel y cyfrif.
- O ran cynllun graddau a grëwyd ar lefel y cyfrif, ni ellir eu dileu, eu harchifo na’u golygu ar lefel y cwrs.
- Dim ond cynlluniau graddau sydd heb gael eu defnyddio i raddio y mae modd eu golygu.
- Os bydd cynllun graddau’n cael eu defnyddio i raddio myfyriwr mewn cwrs, ni fydd modd i chi ddileu’r cynllun o’r cyfrif.
- Gall cynllun graddau sy’n cael ei ddefnyddio gael ei archifo ac yna ei adfer i gyflwr gweithredol.
- Ni all cwrs neu aseiniad ddefnyddio cynllun graddio wedi’i archifo yn y dyfodol, oni bai fod y cynllun yn cael ei adfer.
- Does dim modd archifo cynllun graddau diofyn Canvas.
- Wrth gopïo neu allgludo cwrs, nid yw cynlluniau graddio diofyn wedi'u harchifo yn cael eu copïo na'u hallgludo.