Sut ydw i’n gweld ymrestriadau defnyddiwr mewn cyfrif?
Fel gweinyddwr, gallwch chi weld pob ymrestriad cwrs, grŵp, a chyfrif ar gyfer defnyddiwr yn eich cyfrif.
Mae’r dudalen hon hefyd yn gadael i chi ddad-ymrestru defnyddiwr yn gyflym o unrhyw gwrs, grŵp, neu gyfrif, os oes angen. Ar lefel y cyfrif, mae dad-ymrestru defnyddiwr o gwrs neu grŵp yn cael yr un effaith a thynnu ymrestriad mewn cwrs, heb law â bod modd i chi ddad-ymrestru'r defnyddiwr o fwy nag un cwrs neu grŵp ar yr un pryd.
Fel arfer mae ymrestriadau’n cael eu rheoli’n awtomatig yn Canvas trwy ffeiliau CSV system gwybodaeth myfyrwyr. Ond, os oes gan eich addysgwyr hawl i ychwanegu neu dynnu defnyddwyr, mae modd i addysgwr y cwrs reoli ymrestriadau ei hun.
Nodyn: Mae ffeiliau CSV ymrestru SIS sy’n cynnwys gwerthoedd start_date ac end_date yn disodli dyddiadau tymor, dyddiadau cwrs, a dyddiadau adran.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor yr adnodd Pobl
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Pobl (People).
Dod o hyd i Ddefnyddiwr
Defnyddiwch yr hidlydd a’r opsiynau chwilio i ddod o hyd i’r defnyddiwr yn y cyfrif.
Agor Proffil Defnyddiwr
Yn y canlyniadau chwilio, cliciwch enw’r defnyddiwr.
Gweld Ymrestriadau
Mae ymrestriadau wedi’u lleoli yn yr adran Ymrestriadau (Enrollments). Mae ymrestriadau wedi’u gwahanu’n gyrsiau [1] a grwpiau [2].
Os oes defnyddiwr wedi cael ei ychwanegu at gyfrif, bydd yr adran Ymrestriadau hefyd yn dangos rhestr o gyfrifon lle mae’r defnyddiwr yn byw [3].
Gweld Manylion Cwrs
Mae’r adran Cyrsiau yn dangos pob cwrs lle mae’r defnyddiwr wedi ymrestru.
Mae pob cwrs yn cynnwys enw’r cwrs [1], y tymor lle mae’r cwrs yn byw [2], statws ymrestru’r defnyddiwr [3], a rôl y defnyddiwr [4].
I gael gafael ar y cwrs, cliciwch enw’r cwrs.
Gweld Manylion Grŵp
Mae’r adran Grwpiau’n dangos pob grŵp lle mae’r defnyddiwr wedi ymrestru.
Mae pob grŵp yn cynnwys enw’r grŵp [1] ac enw’r cwrs neu gyfrif lle mae’r grŵp yn byw [2].
I gael gafael ar y grŵp, cliciwch enw’r grŵp.
Nodyn: I ddad-ymrestru defnyddiwr o grŵp, rhaid i chi agor y cyfrif neu gwrs a rheoli ymrestriad y defnyddiwr.
Gweld Manylion Cyfrif
Mae’r adran Cyfrifon yn dangos pob cyfrif lle mae’r defnyddiwr wedi ymrestru fel gweinyddwr cyfrif.
I gael gafael ar y cyfrif, cliciwch enw’r cyfrif.
Dad-ymrestru Defnyddiwr
I ddad-ymrestru defnyddiwr o gwrs, grŵp, neu gyfrif, dewch o hyd i’r adran briodol yn y rhestr ymrestridau. Wrth ymyl y cwrs, grŵp, neu gyfrif lle rydych chi am ddad-ymrestru’r defnyddiwr, cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [1] wedyn clicio'r botwm Iawn (OK) [2]. Ni fydd gan y defnyddiwr fynediad at y cwrs, grŵp, neu gyfrif.