Sut ydw i’n ychwanegu cynllun graddau mewn cyfrif?
Fel gweinyddwr, gallwch chi greu cynlluniau graddau ar gyfer pob cyfrif sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif.
Ar ôl i gynllun graddau gael ei greu ar gyfer eich cyfrif, bydd addysgwr yn gallu cysylltu’r cynllun graddau â’u cyrsiau. Ond, ar ôl i gynllun graddau gael ei ddefnyddio i asesu myfyriwr, does dim modd i chi olygu’r cynllun graddau.
Sylwch: Mae unrhyw gynlluniau graddau rydych chi’n eu creu mewn cyfrif ar gael i’w defnyddio mewn isgyfrifon hefyd.
Agor Cyfrif
![Agor Cyfrif](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/007/949/740/original/167b4d34-2e3f-4046-9aed-39673e67bdab.png)
Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor yr adran Graddio
![Agor yr adran Graddio](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/005/797/274/original/open-grading-.png)
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Graddio (Grading).
Agor Cynlluniau Graddau
![Agor Cynlluniau Graddau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/261/901/original/fadb698b-865c-47dd-90b3-71b985b1aaf0.png)
Cliciwch y tab Cynlluniau Graddau (Grading Schemes).
Ychwanegu Cynllun Graddau Newydd
![Ychwanegu Cynllun Graddau Newydd](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/260/222/original/183390a3-fb2b-4cc3-a950-ba7c27a39628.png)
Cliciwch y botwm Ychwanegu Cynllun Graddau Newydd (Add New Grading Scheme).
Golygu Cynllun Graddau
![Golygu Cynllun Graddau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/260/224/original/081afe6e-37d7-4d36-a981-fbbb5cc64722.png)
Creu teitl yn y maes Enw Cynllun Graddau (Grading Scheme Name) [1]. Gallwch chi ddewis cael cynllun graddio yn ôl canran neu bwyntiau [2]. Ar gyfer pob eitem llinell, golygwch enw’r cynllun graddau yn y maes Gradd Llythyren (Letter Grade) [3]. Golygwch isafswm pob ystod unigol yn y maes % I [Rhif] [4]
Ychwanegu Ystod
![Ychwanegu Ystod](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/260/226/original/c4aa12ce-059f-4e16-be11-d879848720ad.png)
Os oes angen i chi ychwanegu ystodau, cliciwch y botwm Ychwanegu (Add) [1]. Gallwch chi dynnu ystodau unigol drwy glicio'r botwm Dileu (Delete) [2]. Ar ôl i chi orffen golygu eich cynllun graddau, cliciwch y botwm Cadw (Save) [3].
Addasu Cynllun Graddau (Modify Grading Scheme)
Bydd eich cynllun graddau newydd yn ymddangos yn nhrefn yr wyddor yn y golofn Enw Cynllun Graddau (Grading Scheme Name) [1].
Gallwch chi ddyblygu’r cynllun graddau drwy glicio’r eicon Dyblygu (Duplicate) [2], gallwch chi olygu’r cynllun graddau drwy glicio’r eicon Golygu (Edit) [3], gallwch chi archifo’r cynllun graddau drwy glicio’r eicon Archifo (Archive) [4], a gallwch chi ddileu’r cynllun graddau drwy glicio’r eicon Dileu (Delete) [5].
Sylwch:
- Dim ond cynlluniau graddau sydd heb gael eu defnyddio i raddio y mae modd eu golygu a’u dileu.
- Os bydd cynlluniau graddio’n cael eu defnyddio i raddio myfyriwr mewn cwrs, ni fydd modd dileu’r cynllun o’r cyfrif.