Sut alla i gael help gyda Canvas fel gweinyddwr?
Gallwch gael help gyda Canvas drwy ddefnyddio'r ddewislen Help. Yn dibynnu ar eich rôl defnyddiwr, mae’r ddewislen Help yn creu rhestr o adnoddau i'ch helpu chi gyda Canvas. Mae Canvas yn dangos dolenni yn ôl rolau ar gyfer pob ymrestriad; er enghraifft, os ydych chi wedi ymrestru fel myfyriwr, ond bod gennych chi rôl addysgwr ar o leiaf un cwrs, bydd y ddewislen Help yn dangos dolenni sydd ar gael i fyfyrwyr ac addysgwyr.
Mae’r erthygl hon yn amlinellu'r dolen help ddiofyn a all fod wedi’u cynnwys yn y ddewislen Help ar gyfer eich sefydliad. Gallwch chi addasu dolenni yn y ddewislen Help.
I ddysgu rhagor am haenau cymorth sydd ar gael i gwsmeriaid Canvas, ewch i’r dudalen we Tîm Cymorth.
Agor Help
Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Help.
Nodyn: Yn ddibynnol ar eich sefydliad, efallai y bydd enw ac eicon y ddolen Help yn amrywio.
Gweld Dolenni Diofyn
Mae wyth dolen ddiofyn ar gyfer help neu adborth:
- Chwilio drwy Ganllawiau Canvas (Search the Canvas Guides) [1]: Gallwch chwilio drwy Ganllawiau Canvas i gael gwybodaeth am nodweddion Canvas
- Adnoddau COVID-19 Canvas (COVID-19 Canvas Resources) [2]: Mae defnyddwyr yn gallu gweld adnoddau ar gyfer addysgu a dysgu ar-lein
- Canllawiau Cynadledda ar gyfer Dosbarthiadau o Bell (Conference Guides for Remote Classrooms) [3]: Gall defnyddwyr weld a chwilio canllawiau ac adnoddau ar gyfer defnyddio Cynadleddau mewn dosbarthiadau o bell a dysgu ar-lein.
- Rhoi gwybod am broblem (Report a Problem) [4]: Gallwch gyflwyno problemau â Canvas i’n tîm cymorth
- Porth Gwasanaethau Hyfforddi (Training Services Portal) [5]: Mynediad at fideos a chyrsiau hyfforddi Canvas
- Gofyn i'r Gymuned (Defnyddwyr Nad Ydynt yn Fyfyrwyr yn Unig) [Ask the Community (Non-Students Only)] [6]: Gallwch gyfnewid syniadau ac atebion o ran swyddogaethau Canvas gydag arbenigwyr Canvas a’ch cyfoedion ar Canvas
- Cyflwyno Syniad am Nodwedd (Submit a Feature Idea) [7]: Gallwch gyflwyno syniadau am sut i wella Canvas
- Dangos Taith Groeso (Show Welcome Tour) [8]: Dysgwch fwy am Canvas drwy wylio’r Daith Groeso
Gweld Dolenni Personol
Gall eich sefydliad newid trefn neu dynnu’r dolenni diofyn.
Gall eich sefydliad dynnu neu newid pa ddolen sy’n ymddangos fel dolen nodwedd [1] a pha ddolen sy’n dangos y label Newydd (New) [2].
Yn olaf, gall eich sefydliad gynnwys dolenni personol yn y ddewislen Help. Gall dolenni personol gynnwys tudalennau ar gyfer rhifau ffôn, gwybodaeth am gymorth, ac adnoddau eraill.
Chwilio drwy Ganllawiau Canvas
Bydd y ddolen Chwilio drwy Ganllawiau Canvas (Search the Canvas Guides) yn helpu defnyddwyr i chwilio drwy ddogfennau Canvas am wybodaeth ynghylch nodweddion Canvas.
Adnoddu COVID-19 Canvas
Mae’r ddolen Adnoddau COVID-19 Canvas (COVID-19 Canvas Resources) yn gadael i ddefnyddwyr weld cyfarwyddiadau ynglŷn â chreu cynnwys cwrs yn Canvas.
Gweld Adnoddau Gwe-gynadledda
Mae’r ddolen Canllawiau Cynadledda ar gyfer Dosbarthiadau o Bell (Conference Guides for Remote Classrooms) yn caniatáu i ddefnyddwyr gael mynediad at ganllawiau ac adnoddau ar gyfer defnyddio gwe-gynadledda mewn dosbarthiadau o bell .... Mae’n bosib na fydd y ddolen hon yn ymddangos yn eich dewislen Help Canvas.
Rhoi gwybod am broblem
Mae'r ddolen Rhoi Gwybod am Broblem (Report a Problem) yn helpu defnyddwyr i roi gwybod am broblemau yn Canvas.
Efallai y byddwch yn cael ateb i’ch cwestiwn yn gyflymach drwy chwilio drwy Ganllawiau Canvas. Ond os na allwch ddod o hyd i ateb, gallwch anfon tocyn a chael cymorth.
Cyflwyno Tocyn
Yn y maes pwnc (subject) [1], gallwch greu pwnc ar gyfer eich tocyn.
Yn y maes disgrifiad (description) [2], disgrifiwch y broblem rydych chi'n ei chael yn Canvas. Rhowch gymaint o fanylion â phosib er mwyn helpu i ddatrys y broblem.
Mae’r wybodaeth ganlynol yn helpu tîm cymorth Canvas i ateb eich cwestiynau’n gynt:
- Dolen i'r defnyddiwr neu enw ac e-bost y defnyddiwr.
- Dolen i’r lleoliad lle mae’r gwall.
- Crynodeb o beth sy’n digwydd.
- Sgrincast neu sgrinlun o beth sy’n digwydd.
- Y camau rydych chi wedi’u cymryd i dîm cymorth Canvas ddyblygu beth rydych chi’n ei brofi.
- Pa atebion rydych chi wedi rhoi cynnig arnyn nhw (e.e. clirio’r storfa a cwcis).
Os ydych chi’n cyflwyno tocynnau yn aml, efallai y byddai'n well gennych chi ddefnyddio rhaglen sgrincast i greu dolen ar-lein at ddelwedd neu greu fideo tywys. Fodd bynnag, os nad ydych chi'n gyfforddus yn defnyddio dolenni ar-lein, gallwch gyflwyno atodiadau yn nes ymlaen os bydd angen; ar ôl i chi gyflwyno’r tocyn, byddwch yn cael e-bost gan y tîm cymorth. Gallwch ateb yr e-bost gydag unrhyw atodiad yn ôl yr angen.
Gwybodaeth ychwanegol i helpu tîm cymorth Canvas:
- Os oes unrhyw ffeiliau’n gysylltiedig, darparwch gopi o’r ffeil.
- Os yw’r broblem SIS, darparwch y Pasio Gradd yn ôl sy’n cael ei ddefnyddio.
- Os yw’n broblem gydag adnodd personol, darparwch enw’r adnodd.
- Os oes unrhyw achosion blaenorol a allai fod yn berthnasol i’ch cwestiwn, darparwch y rhifau achosion hynny.
Yn y gwymplen [3], dewiswch y datganiad sy'n rhoi’r disgrifiad gorau o sut mae'r broblem yn effeithio arnoch chi:
- Dim ond awgrym, syniad, sylw neu gwestiwn anffurfiol
- Mae angen help arna i, ond dydy’r mater ddim yn un brys
- Mae rhywbeth wedi mynd o’i le, ond fe alla i fwrw ymlaen am y tro
- Alla i ddim bwrw ymlaen nes bydda i wedi cael ateb gennych chi
- ARGYFWNG DIFRIFOL IAWN
Ar ôl i chi orffen, cliciwch y botwm Cyflwyno Tocyn (Submit Ticket) [4].
Yn ddibynnol ar amserlen cymorth eich sefydliad, byddwch yn cael ateb cyn gynted â phosib.
Agor Porth Gwasanaethau Hyfforddi
Mae’r ddolen ar gyfer y Porth Gwasanaethau Hyfforddi yn caniatáu i ddefnyddwyr fynd i’r Porth Gwasanaethau Hyfforddi, sy’n cynnwys adnoddau hyfforddi ar amrywiaeth o bynciau Canvas, y gall pobl fynd drwyddynt wrth eu pwysau.
Gofyn i’r Gymuned
Mae'r ddolen Gofyn i’r Gymuned (Ask the Community) yn caniatáu i ddefnyddwyr sydd â math o rôl gweinyddwr, addysgwr, cynorthwyydd dysgu neu ddylunydd gydweithio ag aelodau eraill o gymuned Canvas i gael atebion i gwestiynau Canvas. Mae’r ddolen hon yn mynd â chi i’r man Dod o Hyd i Atebion yng Nghymuned Canvas.
Gofyn am Nodwedd
Mae’r ddolen Cyflwyno Syniad am Nodwedd (Submit a Feature Idea) yn caniatáu i ddefnyddwyr gyflwyno syniad am nodwedd i Canvas. Mae'r ddolen hon yn mynd â chi i’r man Syniadau am Nodweddion yng Nghymuned Canvas.
Dangos Taith Groeso
Mae’r ddolen Dangos Taith Groeso (Show Welcome Tour) yn dangos i chi sut i ychwanegu pobl a chyrsiau i Canvas, rhannu templedi a chynnwys cyrsiau ag athrawon, gosod fideo gynadledda ac adnoddau eraill a chael gafael ar hyfforddiant ac adnoddau defnyddiol eraill.
Gweld Nodiadau Rhyddhau
Os ydyn nhw wedi’u galluogi gan eich sefydliad, gallwch chi weld dolenni nodiadau rhyddhau o’r Ddewislen Help. Mae nodiadau rhyddhau’n disgrifio nodweddion wedi’u diweddaru a nodweddion newydd sydd wedi cael eu hychwanegu at ryngwyneb Canvas. Mae’r Ddewislen help yn dangos y deg nodyn rhyddhau diwethaf a bostiwyd i’r rôl gweinyddwr. Efallai y byddwch chi hefyd yn gweld nodiadau ar gyfer rolau addysgwr ac arsyllwr, os ydych chi wedi cael eich neilltuo i un o’r rolau hynny mewn cwrs.
I weld dogfen nodyn rhyddhau, cliciwch y ddolen ar gyfer y rhyddhau [1]. Mae’r ddogfen yn cynnwys crynodeb i ddefnyddiwr o wybodaeth ryddhau sy’n berthnasol i rôl defnyddiwr benodol. Mae’r Ddewislen help hefyd yn cynnwys disgrifiad byr [2] a’r dyddiad y cafodd y nodiadau rhyddhau eu cyhoeddi.
Mae’r Ddewislen Help yn dangos bathodyn wedi’i rifo ar gyfer unrhyw nodiadau rhyddhau sydd heb gael eu gweld [4]. I guddio’r bathodyn wedi’i rifo, cliciwch y botwm Dangos bathodynnau ar gyfer nodyn rhyddhau newydd (Show badges for new release notes) [5].
Nodiadau:
- I alluogi dolenni nodiadau rhyddhau yn y Ddewislen Help, galluogwch y rhagolwg nodwedd Nodiadau Rhyddhau wedi’u Plannu yng Ngosodiadau’r Cyfrif.
- Dydy rhagolygon nodwedd ddim yn cael eu crebwyll mewn nodiadau rhyddhau news bod y nodwedd yn nodwedd ddiofyn i bob defnyddiwr.