Sut ydw i'n ffurfweddu gosodiadau SSO ar gyfer fy narparwr dilysu?
Fel rhan o broses ddilysu Canvas neu broses ddilysu trydydd parti, gallwch ffurfweddu gosodiadau mewngofnodi un-tro (SSO) ar gyfer eich cyfrif. Mae newid y label hefyd yn newid y testun mewngofnodi ar y dudalen ailosod cyfrinair.
Mae dolenni SSO yn etifeddu gosodiadau gan y Golygydd Thema. Mae modd diweddaru dolenni yn adran mewngofnodi’r Golygydd Thema.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor yr adran Dilysu
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Dilysu (Authentication).
Ffurfweddu Gosodiadau SSO
Yn yr adran Gosodiadau SSO (SSO Settings), rhowch fanylion ar gyfer y meysydd priodol.
Yn y maes Label Mewngofnodi (Login Label) [1], gallwch roi label sy’n ymddangos ar y dudalen mewngofnodi ac y mae myfyrwyr yn ei ddefnyddio i roi eu dynodydd unigryw. Os nad oes label wedi cael ei osod, yna mae'r maes mewngofnodi yn defnyddio E-bost yn ddiofyn. Gallwch roi labeli fel enw defnyddiwr, ID Myfyriwr, ac ati.
Yn y maes Wedi Anghofio URL Cyfrinair (Forgot Password URL) [2], gallwch roi'r URL ar gyfer tudalen wedi anghofio cyfrinair eich sefydliad. Gadewch y maes hwn yn wag os ydych chi am i ddefnyddwyr weld tudalen ddiofyn Canvas ar gyfer ailosod cyfrinair.
Yn y maes URL Darganfod (Discovery URL) [3], gallwch roi URL ar gyfer tudalen ddilysu, os oes un. Os nad oes tudalen wedi'i gosod, mae defnyddwyr yn cael eu hanfon i’r darparwr dilysu cyntaf ar y rhestr darparwyr dilysu.
Gosod URL Defnyddiwr Dieithr Trydydd Parti
Wrth ddefnyddio darparwr dilysu trydydd parti, gallwch hefyd roi URL sy’n ailgyfeirio defnyddwyr os nad oes modd dod o hyd i ddefnyddiwr dilys yn Canvas.
Cadw Gosodiadau SSO
Cliciwch y botwm Cadw (Save).
Gosod Safleoedd Darparwr
Os oes gennych chi fwy nag un darparwr dilysu ar eich cyfrif, bydd nodwedd ddilysu Canvas yn defnyddio’r safle cyntaf yn ddiofyn, a hwn yw’r ffurfweddiad diofyn ar gyfer yr URL Darganfod.
I newid lleoliad eich darparwyr dilysu, dewch o hyd i’r darparwr a chliciwch y ddewislen safle [1]. Dewiswch rif y safle newydd. Yna cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].
Nodyn: Yr unig ffordd o ddileu manylion dilysu Canvas o’r dudalen ddilysu yw drwy alluogi darparwr dilysu trydydd parti. Os yw’r unig ddarparwr dilysu sy’n bodoli’n cael ei ddileu, bydd dull dilysu Canvas yn cael ei adfer fel y darparwr diofyn.