Sut ydw i’n ychwanegu cwrs at gyfrif fel gweinyddwr?
Gallwch chi ychwanegu cyrsiau at eich cyfrif ar y dudalen Cyrsiau. Gwyliwch fideo am gyrsiau.
Os yw templed cwrs wedi cael ei ddewis yn eich cyfrif, bydd cynnwys o’r cwrs dan sylw’n cael ei gopïo i’ch cwrs newydd. Efallai na fydd y cynnwys i gyd yn cael ei drosglwyddo mewn prosesau copïo cwrs. I gael rhagor o fanylion, ewch i’r wers ar fewngludo cwrs. Dydy creu cwrs o dempled cwrs ddim yn effeithio ar gwotâu ffeiliau.
Nodiadau:
- Dydy cyrsiau rydych chi’n eu hychwanegu at Canvas ddiym yn cael eu cysylltu’n ôl i ddata SIS a dydyn nhw ddim yn cael eu heffeithio gan ffeiliau SIS wedi’i mewngludo.
- I gysylltu cwrs sydd heb gael ei greu’n awtomatig gydag ID SIS, golygwch y manylion ar gyfer adran cwrs.
- Hefyd, mae modd ychwanegu cyrsiau gan ddefnyddio nodwedd mewngludo SIS. Dydy cyrsiau rydych chi’n eu hychwanegu at Canvas ddiym yn cael eu cysylltu’n ôl i ddata SIS (er bod modd gwneud hynny drwy eu cysylltu ag ID SIS) a dydyn nhw ddim yn cael eu heffeithio gan ffeiliau SIS wedi’i mewngludo.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Cyrsiau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses).
Nodyn: Pan fyddwch chi’n agor cyfrif, bydd y cyfrif yn mynd i’r dudalen Cyrsiau yn ddiofyn.
Ychwanegu Cwrs
Cliciwch y botwm Ychwanegu Cwrs (Add Course).
Ychwanegu Manylion Cwrs
Yn y maes Enw Cwrs (Course Name) [1], ewch ati i greu enw ar gyfer y cwrs.
Yn y maes Cyfeirnod (Reference Code) [2], ewch at i greu cyfeirnod ar gyfer y cwrs. Mae’r cyfeirnod hefyd yn cael ei alw’n enw byr neu’n god cwrs ac mae i’w weld ar frig y Ddewislen Crwydro’r Cwrs ac fel rhan o gerdyn cwrs myfyriwr ar y dangosfwrdd. Cyfeirir ar y cod ar dudalen Cyrsiau’r cyfrif.
Yn y ddewislen Is-gyfrif (Subaccount) [3], dewiswch is-gyfrif ar gyfer y cwrs. Gallwch chi deipio enw is-gyfrif i chwilio am is-gyfrifon neu ddewis is-gyfrif o’r gwymplen. Mae opsiynau dewislen yn seiliedig ar yr is-gyfrifon sydd eisoes wedi cael eu creu yn eich cyfrif.
Yn y ddewislen Tymor Ymrestru (Enrollment Term) [4], dewiswch y tymor rydych chi eisiau ei gysylltu â’r cwrs. Gallwch chi deipio enw’r tymor i chwilio am dymhorau neu ddewis tymor o’r gwymplen. Mae opsiynau dewislen yn seiliedig ar y tymhorau sydd eisoes wedi cael eu creu yn eich cyfrif.
Ychwanegu Cwrs
Cliciwch y botwm Ychwanegu Cwrs (Add Course).
Agor Cwrs Newydd
Gweld y neges llwyddiant. I agor y cwrs, cliciwch y ddolen Mynd i’r cwrs newydd (Go to the new course).