Sut ydw i’n ffurfweddu ap allanol ar gyfer cyfrif gan ddefnyddio ID Cleient?
Mae apiau allanol sy’n gallu delio â LTI 1.3 a LTI Advantage yn gofyn am ffurfweddu gan ddefnyddio ID cleient. Mae modd dod i hyd i ID cleient drwy ffurfweddu allwedd LTI o’r dudalen Allweddi Datblygwr.
Nodiadau:
- Mae ffurfweddu ap allanol eich hun yn hawl cyfrif. Os nad oes modd i chi ffurfweddu ap allanol, nid yw’r hawl hwn wedi cael ei alluogi ar gyfer eich rôl defnyddiwr.
- Mae analluogi neu ddileu allwedd LTI yn tynnu gosodiadau’r rhaglen.
Agor Cyfrif

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Agor Apiau

Cliciwch y tab Apiau (Apps).
Gweld Ffurfweddiadau Ap

I ffurfweddu ap, cliciwch y botwm Gweld Ffurfweddiadau Ap (View App Configurations).
Ychwanegu Ap Newydd

Cliciwch y botwm Ychwanegu Ap (Add App).
Gosod Math o Ffurfweddiad

Dewiswch y gwymplen Math o Ffurfweddiad a gosod y math o ffurfweddiad i Yn Ôl ID Cleient (By Client ID).
Rhoi ID Cleient

Rhowch yr ID cleient yn y maes ID Cleient (Client ID) [1].
Yna cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [2].
Note: Os nad oes gennych chi ID cleient, rhaid i chi ffurfweddu allwedd LTI.
Gweld Neges Gwall

Os na fydd modd dod o hyd i’r ID cleient sydd wedi’i gyflwyno yn allweddi datblygwr eich cyfrif, bydd Canvas yn dangos neges gwall.
Gweld Ap

Gweld eich ap ar y dudalen Apiau Allanol [1].
I reoli eich ap, cliciwch yr eicon Gosodiadau [2].
I olygu’r ap, cliciwch y ddolen Golygu (Edit) [3]. I reoli lleoliadau ap, cliciwch y ddolen Lleoliadau (Placements) [4].
Os yw’r ap yn gallu delio â LTI Advantage, efallai y bydd y ddewislen Gosodiadau hefyd yn dangos dolen ID Gosod.
I weld yr ID Gosod ar gyfer yr ap, cliciwch y ddolen ID Gosod (Deployment ID) [5]. Efallai y bydd darparwyr apiau sy’n defnyddio LTI Advantage angen yr ID Gosod hwn ar gyfer swyddogaethau ap.
I ddileu’r ap, cliciwch y ddolen Dileu (Delete) [6].