Sut ydw i’n dileu cyflwyniad aseiniad wedi’i lwytho i fyny fel ffeil fel gweinyddwr?
Fel gweinyddwr, gallwch chi ddileu cyflwyniad aseiniad myfyriwr yn Speedgrader. Mae hyn yn gadael i chi reoli cyflwyniadau amhriodol neu gyflwyniadau sydd angen cael eu tynnu o gwrs.
Nodiadau:
- Dim ond gweinyddwyr sydd â’r hawl Defnyddwyr - Gweithredu Fel sy’n gallu dileu cyflwyniadau aseiniad.
- Dim ond cyflwyniadau aseiniad wedi’i lytho i fyny fel ffeil sy’n gallu cael eu dileu gan weinyddwr
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Cwrs
Gallwch chi ddefnyddio opsiynau hidlo [1] neu chwilio [2] y cwrs i ddod o hyd i'r cwrs yn y cyfrif.
I agor cwrs, cliciwch enw’r cwrs rydych chi eisiau ei agor [3].
Agor Aseiniadau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).
Dileu Cyflwyniad
Dod o hyd i ddolen y ffeil cyflwyniad [1]. Yna cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [2].
Cadarnhau’r broses Dileu
I gadarnhau eich bod chi eisiau dileu’r ffeil cyflwyniad, cliciwch y botwm Iawn (OK).