Sut ydw i’n gweld gweithgarwch newid gradd ar gyfer cyfrif?

Fel gweinyddwr, gallwch chi weld gweithgarwch newid gradd ar gyfer eich cyfrif heb orfod cael gafael ar y dudalen hanes gradd neu’r API. Gallwch chi weld newidiadau gradd yn ôl graddiwr ac yn ôl myfyriwr. Gallwch chi hefyd weld cofnodion newid graddau ar gyfer aseiniadau a chyrsiau penodol gan ddefnyddio ID aseiniad a chwrs.

Nodyn: Does dim modd i weinyddwyr is-gyfrifon weld gweithgarwch newid gradd yn yr Adnoddau Gweinyddol.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Adnoddau Gweinyddol

Agor Adnoddau Gweinyddol

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Adnoddau Gweinyddol (Admin Tools).

Agor Cofnodi

Agor Cofnodi

Cliciwch y tab Cofnodi (Logging).

Dewis Math o Gofnod

Dewis Math o Gofnod

O’r gwymplen math o gofnod, dewiswch yr opsiwn Gweithgarwch Newid Gradd (Grade Change Activity).

Chwilio am Newid Gradd

Chwilio am Newid Gradd

I weld canlyniadau gweithgarwch newid gradd, chwiliwch gan ddefnyddio un neu ragor o baramedrau.

  1. Mae’r graddiwr (Grader) yn gadael i chi chwilio yn ôl enw’r graddiwr (e.e. Addysgwr neu gynorthwyydd dysgu)
  2. Mae’r myfyriwr (Student) yn gadael i chi chwilio yn ôl enw’r myfyriwr
  3. Mae ID cwrs (Course Id) yn gadael i chi chwilio yn ôl cwrs. Gallwch chi ddod o hyd i’ch rhif ID cwrs ar ddiwedd eich URL cwrs (e.e. canvas.instructure.com/courses/XXXXXX).
  4. Mae ID aseiniad (Assignment Id) yn gadael i chi chwilio yn ôl aseiniad. Gallwch chi ddod o hyd i’ch rhif ID aseiniad ar ddiwedd eich URL cwrs (e.e. canvas.instructure.com/assignments/XXX).
  5. Mae Dyddiad I/O (From/To Date) yn gadael i chi gyfyngu eich paramedrau chwilio yn ôl ystod dyddiadau.

Nodyn: Wrth deipio enw unigolyn i’r maes graddiwr neu fyfyriwr, bydd Canvas yn creu rhestr o enwau cyfatebol yn awtomatig. Ni fydd Canvas yn derbyn cofnodion yn y meysydd graddiwr a myfyriwr sydd heb eu dewis o restr cwymplen o ddefnyddwyr Canvas. Ar hyn o bryd, dim ond os yw’r ID yn hysbys y mae modd chwilio ID Cwrs ac Aseiniad.  

Gweld Gweithgarwch Newid Gradd

Gweld Gweithgarwch Newid Gradd

Rhowch feini prawf chwilio yn y meysydd priodol [1] a chlicio’r botwm Canfod (Find) [2]. Bydd Canvas yn dangos unrhyw ganlyniadau perthnasol ar gyfer y meini prawf a roddwyd. Yn yr enghraifft uchod, fe wnaeth y cam chwilio greu’r holl weithgarwch yn seilliedig ar y graddiwr a’r myfyriwr [3]. Canlyniadau’n cynnwys:

  • Y Dyddiad (Date) y cafodd y radd ei newid
  • Yr Amser (Time) y cafodd y radd ei newid
  • Y radd oedd wedi’i neilltuo’n flaenorol a gafodd ei newid O (From); mae dash (-) yn nodi nad oedd gradd wedi’i neilltuo’n flaenorol ac mae EX yn nodi fod yr aseiniad wedi’i esgusodi.
  • Y radd newydd y cafodd ei newid I (To)
  • Y Graddiwr (Grader) wnaeth neilltuo’r newid gradd
  • Y Myfyriwr (Student) wnaeth dderbyn y newid gradd
  • Y Cwrs (Course) y cafodd y radd ei newid ynddo
  • Yr Aseiniad (Assignment) y cafodd y radd ei newid ar ei gyfer
  • P’un ai y gwnaeth y graddiwr ddewis yr opsiwn Cuddio Enwau Myfyrwyr (Dienw (Anonymous)) yng ngosodiadau SpeedGrader