Sut ydw i’n gweld adroddiadau ar gyfer cyfrif?
Mae gan weinyddwyr ar lefel cyfrif fynediad at adroddiadau Canvas y gellir eu defnyddio i adolygu data am y cyfrif. Mae Canvas yn cynnwys cyfres o adroddiadau diofyn ond mae modd cynnwys adroddiadau personol eraill ar gyfer eich sefydliad. Mae gwybodaeth am ffurfweddu adroddiadau yn y ddogfen adnoddau Adroddiadau Cyfrif Diofyn Canvas.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Gosodiadau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Gweld Adroddiadau
Mae’r dudalen Adroddiadau yn dangos yr holl adroddiadau sydd ar gael. Mae pob adroddiad yn cynnwys yr enw [1] ac eicon help sy’n egluro mwy am yr adroddiad [2]. Gallwch chi hefyd weld y tro diwethaf i’r adroddiad gael ei redeg, os o gwbl [3].
Nodyn: Mae’r adroddiad Rhediad Diwethaf yn ymddangos yn iaith y defnyddiwr a redodd yr adroddiad ddiwethaf.
Ffurfweddu Adroddiadau
Rhaid ffurfweddu'r rhan fwyaf o adroddiadau cyn y bydd modd eu rhedeg. I ffurfweddu adroddiad, cliciwch y botwm Ffurfweddu (Configure).
Gan ddibynnu ar yr adroddiad, gall prosesau ffurfweddu adroddiadau gynnwys un neu nifer o opsiynau.
Dewiswch dymor
Mae pob adroddiad ac eithrio’r Adroddiad LTI (LTI Report), Allgludo Deilliant (Outcome Export), ac adroddiadau Tocynnau Mynediad Defnyddwyr (User Access Tokens) yn gofyn i chi ddewis tymor. Yn y ddewislen Tymor (Term) [1], gallwch chi ddewis y Tymor Diofyn neu unrhyw dymhorau gweithredol, blaenorol neu rhai i’r dyfodol. Mae’n bosib nad yw cyrsiau sydd ag aseiniadau wedi’u cuddio yn adlewyrchu’r sgorau’n gywir yn yr adroddiad hwn.
Mae’r adroddiadau Allgludo Gradd, Mynediad Defnyddiwr Diwethaf, Cymhwysedd Myfyriwr, Adroddiad LTI, a Thocynnau Mynediad Defnyddiwr yn cynnwys yr opsiwn o gynnwys gwrthrychau sydd wedi’u dileu. Gall gwrthrychau sydd wedi’u dileu gynnwys cyrsiau, defnyddwyr neu ymrestriadau sydd wedi’u dileu. I gynnwys gwrthrychau sydd wedi’u dileu, ticiwch y blwch Cynnwys Gwrthrychau wedi’u Dileu (Include Deleted Objects) [2].
Dewis Trefn Adroddiad
Mae’r adroddiad Canlyniadau Deilliant (Outcome Results) yn caniatáu i chi ddewis sut mae trefnu’r adroddiad. Gellir dewis trefnu yn ôl Defnyddwyr, Cyrsiau neu Ddeilliannau. Fel mater o drefn, mae adroddiadau’n cael eu trefnu yn ôl Defnyddwyr. Dewiswch y botwm radio i ddewis trefn adroddiad.
Dewis Ffeiliau CSV
Mae’r adroddiadau Darparu (Provisioning) ac Allgludo SIS (SIS Export) yn gofyn i chi ddewis y ffeiliau CSV rydych chi am eu creu ar gyfer tymor dan sylw [1]. Dewiswch y blychau ticio wrth y ffeiliau rydych chi am eu creu. Gellir creu ffeiliau ar gyfer Defnyddwyr, Cyfrifon, Tymhorau, Cyrsiau, Adrannau, Ymrestriadau, Grwpiau, Aelodaeth grŵp, Categorïau grŵp, Traws-restru (rhestr X), Arsyllwyr Defnyddiwr a Gweinyddwyr.
Os ydych chi am weld data sydd wedi’i greu gan eich SIS yn unig, ticiwch y blwch Wedi creu gan SIS (Created by SIS) [2]. Fel arall, bydd y ffeiliau CVS yn dangos yr holl ddata sydd wedi cael ei greu yn eich cyfrif Canvas, gan gynnwys gwybodaeth sydd wedi cael ei chreu gan SIS a thrwy'r rhyngwyneb.
I gynnwys cyrsiau wedi’u dirwyn i ben neu wrthrychau sydd wedi’u dileu yn yr adroddiad, ticiwch y blwch Cynnwys Gwrthrychau wedi’u Dileu (Include Deleted Objects) [3].
Nodyn: Mae’r tymor dan sylw yn effeithio ar Gyrsiau, Adrannau, Ymrestriadau a ffeiliau CSV Traws-restru yn unig.
Dewiswch Ddyddiadau a Chyflwr Ymrestru
Bydd y Myfyrwyr heb adroddiad Cyflwyniadau yn gofyn i chi ddewis dyddiad dechrau [2] a dyddiad cwblhau [2] ar gyfer yr adroddiad. Mae modd i chi ddewis dyddiad drwy glicio eicon calendr pob dyddiad priodol, neu drwy roi'r dyddiad yn uniongyrchol yn y maes dyddiad.
Gallwch chi hefyd ddewis cynnwys y cyflwr ymrestru yn yr adroddiad drwy roi tic yn y blwch Cynnwys Cyflwr Ymrestru (Include Enrollment State) [3]. Yn y gwymplen Cyflwr Ymrestru (Enrollment State) [4], dewiswch bob ymrestriad neu dewiswch ymrestriadau gweithredol yn unig.
Dewis Dyddiad Dechrau
Mae’r adroddiadau Dim Gweithgarwch a’r Log Mynediad Defnyddiwr at Gwrs yn gofyn i chi ddewis dyddiad dechrau ar gyfer yr adroddiad. Mae modd i chi ddewis dyddiad drwy glicio’r eicon calendr, neu drwy roi'r dyddiad yn uniongyrchol yn y maes dyddiad.
Nodyn: Bydd uchafswm o ddwy flynedd o ddata yn cael ei nodi yn yr adroddiad Log Mynediad Cwrs Defnyddiwr. Os oedd gan y defnyddiwr fynediad at y cwrs dros ddwy flynedd ynghynt, bydd neges yn ymddangos ond ni fydd modd darparu’r manylion.
Dewiswch Fath o Ymrestriad
Mae’r adroddiad Log Mynediad Defnyddiwr at Gwrs yn gadael i chi ddewis cynnwys pob math o ymrestriad neu fathau unigol. Yn y gwymplen Math o Ymrestriad, dewiswch bob ymrestriad, ymrestriadau myfyrwyr, ymrestriadau athrawon, ymrestriadau cynorthwywyr dysgu, ymrestriadau arsyllwyr, neu ymrestriadau dylunwyr.
Dewiswch Sgorau Cwrs
Mae’r Adroddiad Cyflwyniad SIS yn gadael i chi gynnwys sgorau cwrs. Cliciwch y blwch ticio Cynnwys sgorau cwrs (Include course scores). Yn ddiofyn, nid yw’r Adroddiad Cyflwyniad SIS yn cynnwys sgorau cwrs.
Nodyn: Dim ond ar gyfer sefydliadau sydd wedi awdurdodi Canvas i bostio graddau i’w SIS y bydd yr Adroddiad Cyflwyno SIS yn ymddangos.
Hidlo Data eBortffolio
Mae’r Adroddiad eBortffolio yn gadael i chi hidlo’r data sydd wedi’i ddangos yn yr adroddiad.
Er mwyn dim ond dangos eBortffolios gan ddefnyddwyr heb ymrestriadau yn eich cyfrif Canvas, cliciwch y blwch ticio Dim ond cynnwys eBortffolios gan ddefnyddwyr heb ymrestriadau (Only include ePortfolios from users with no enrollments) [1].
Er mwyn dim ond dangos eBortffolios sydd wedi cael eu tynnu, cliciwch y blwch ticio Dim ond cynnwys eBortffolios sydd wedi cael eu tynnu (Only include ePortfolios that have been removed) [2].
Rhedeg Adroddiad
Ar ôl i chi orffen ffurfweddu adroddiad, cliciwch y botwm Rhedeg Adroddiad (Run Report).
Llwytho Adroddiad i lawr
Pan fydd adroddiad wedi’i gwblhau ac yn barod i’w lwytho i lawr, cliciwch yr eicon Llwytho i Lawr. Bydd y ffeil yn cael ei llwytho i lawr i’ch cyfrifiadur.