Sut ydw i’n mewngludo data SIS i gyfrif Canvas?

Mae modd llwytho data SIS i fyny drwy'r ddolen Mewngludo SIS (SIS Imports) yng Ngosodiadau’r Cyfrif. Dim ond ar lefel y cyfrif y mae modd gweld data SIS, a does dim modd ei ychwanegu at isgyfrifon.

Mae’r dudalen Mewngludo SIS (SIS Imports) yn delio â rhai fformatau ar gyfer prosesau mewngludo sylfaenol i Canvas: Ffeil zip o ffeiliau CSV neu ffeil CSV wedi’i fformatio gan Instructure, ffeil zip XML IMS Enterprise Specification, neu XML Canlyniadau Cyfnewid Gradd Baner. Mae modd gosod ffeiliau i’w diweddaru’n llawn ac i ddiystyru newidiadau i ryngwyneb y defnyddiwr.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r opsiynau llwytho i fyny hyn. I gael rhagor o fanylion am y risgiau hyn ewch i’r wers ar brosesau Mewngludo SIS.

Prosesu API

Mae ffeiliau Mewngludo SIS yn cael eu hychwanegu i giw sy’n prosesu pob ffeil CSV sydd wedi’i mewngludo ar wahân (wedi’u llwytho i fyny yn unigol neu mewn ffeil ZIP). Mae gwallau wrth fewngludo yn cael eu dangos ar y dudalen Mewngludo SIS (SIS Import).

Ymarfer API

Cyn mewngludo gwybodaeth SIS, ewch ati i ymarfer defnyddio’r API er mwyn rheoli data SIS. Dylech hefyd ddefnyddio eich amgylchedd prawf i osgoi gwrthdaro â data cynhyrchu byw. Ar ôl i chi gadarnhau eich data yn eich amgylchedd prawf, gallwch ailddefnyddio eich integreiddiad SIS yn eich amgylchedd cynhyrchu. Hefyd, dim ond drwy'r API mae rhai opsiynau data SIS ar gael.

Nodiadau:

  • Rhaid i’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid alluogi ffeiliau Mewngludo SIS (SIS Imports) cyn bod modd llwytho ffeiliau i fyny i’ch cyfrif.
  • Mae mewngludo ffeiliau SIS yn hawl cyfrif. Os nad oes gennych chi fynediad i reoli ffeiliau SIS, mae eich sefydliad wedi rhwystro'r nodwedd hon.
  • Cyn rhoi hawl ar gyfer rôl defnyddiwr, rhaid i chi sicrhau bod y rôl rydych chi am ei neilltuo i'r defnyddiwr yn bodoli’n barod yn eich cyfrif. Rhagor o wybodaeth am sut mae creu rôl lefel y cyfrif.

Cyngor ar Ddatrys Problemau: Bydd rhai meysydd yn troi'n rhai "gludiog" ("sticky") pan fydd gwybodaeth yn cael ei haddasu'n uniongyrchol gan ddefnyddiwr neu weinyddwr. Mae maes gludiog yn atal newidiadau awtomatig drwy Fewngludo SIS. Os na fydd newidiadau’n digwydd ar ôl mewngludo data SIS, efallai bod defnyddwyr wedi gwneud newidiadau drwy’r rhyngwyneb defnyddiwr (UI). Gallwch ddiystyru newidiadau gan ddefnyddio’r opsiwn Diystyru newidiadau i ryngwyneb y defnyddiwr.

Os ydych chi’n defnyddio system awtomatig i fewngludo data o SIS, efallai y byddwch chi am gyfyngu defnyddwyr rhag golygu eu henw’n uniongyrchol yn Canvas. I atal defnyddwyr rhag addasu eu henwau eu hunain, dad-ddewiswch yr opsiwn Defnyddwyr yn gallu golygu eu henw (Users can edit their name) yng ngosodiadau’r cyfrif.

Gallwch weld rhestr lawn o feysydd a allai fod yn ludiog ar dudalen API mewngludo SIS.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor ffeiliau Mewngludo SIS

Agor ffeiliau Mewngludo SIS

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Mewngludo SIS (SIS Import).

Dewis Ffeil

Dewis Ffeil

Cliciwch y botwm Dewis Ffeil (Choose File) a chwilio am y ffeil mewngludo SIS o’ch cyfrifiadur.

Dewis Math o ffeil Mewngludo

Dewis Math o ffeil Mewngludo

Yn y ddewislen Math o ffeil Mewngludo (Import Type), dewiswch y math o ffeil mewngludo rydych chi’n ei llwytho i fyny i Canvas. Bydd y ddewislen yn dewis yr opsiwn mewngludo CSV yn ddiofyn.

Gosod Diweddariad Llawn

Os ydych chi am greu diweddariad llawn, dewiswch y blwch ticio Mae hwn yn ddiweddariad llawn (This is a full batch update) [1]. Mae rhybudd yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr am y risgiau sy’n gysylltiedig â dewis y blwch ticio Mae hwn yn ddiweddariad llawn. Yn y gwymplen Tymor (Term) [2], dewiswch y tymor ar gyfer y diweddariad llawn. Gyda’r opsiwn hwn, mae modd dileu unrhyw gyrsiau, adrannau, neu ymrestriadau sydd â chofnod ID SIS yn Canvas sydd wedi’u cysylltu â’r Tymor a ddewisir yn y gwymplen. Ar gyfer ymrestriadau, mae’r opsiwn hwn yn golygu bod angen ID SIS ar y cwrs/adrannau a'r defnyddiwr cysylltiedig. Bydd cofnod Canvas yn cael ei ddileu os na fydd yn cael ei gynnwys yn y ffeil mewngludo bresennol.

Dim ond ar ddata wedi’i greu drwy ffeiliau mewngludo SIS blaenorol y bydd yr opsiwn hwn yn effeithio. Fydd cyrsiau sydd wedi cael eu creu gan rywun, er enghraifft, ddim yn cael eu dileu, hyd yn oed os dydyn nhw ddim yn ymddangos yn y broses mewngludo SIS newydd.

Nodiadau: Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r risgiau sy’n gysylltiedig cyn dewis yr opsiwn hwn.

Diystyru newidiadau i ryngwyneb y defnyddiwr

Diystyru newidiadau i ryngwyneb y defnyddiwr

Os ydych chi am ddiystyru newidiadau i ryngwyneb y defnyddiwr, ticiwch y blwch Diystyru newidiadau i ryngwyneb y defnyddiwr (Override UI changes). Bydd y newid hwn yn dweud wrth Canvas am ddisodli unrhyw ddata "gludiog" sydd wedi'i newid gan ddefnyddwyr yn eu cyfrifon gyda’r data rydych chi’n ei fewngludo.

  • Os NA fydd tic yn y blwch hwn wrth fewngludo defnyddwyr newydd, fydd dim newidiadau mewn enwau yn cael eu diystyru yn rhyngwyneb y defnyddiwr, ond os bydd y defnyddiwr wedi tynnu ei gyfeiriad e-bost sydd wedi’i restru, caiff hwn ei ychwanegu eto ond heb ei farcio’n ddiofyn.
  • Os BYDD tic yn y blwch hwn wrth fewngludo defnyddwyr newydd, bydd yr enw llawn a’r enw mewn trefn yn newid, ond fydd yr enw arddangos ddim yn newid. Bydd y cyfeiriad e-bost yn cael ei ychwanegu ond heb ei farcio’n ddiofyn o hyd.

Dewis Opsiwn Rhyngwyneb Defnyddiwr

Mae diystyru newidiadau i ryngwyneb y defnyddiwr yn caniatáu un o ddau opsiwn ychwanegol: prosesu wrth i ryngwyneb y defnyddiwr newid neu glirio cyflwr newydd rhyngwyneb y defnyddiwr. Dim ond un opsiwn cewch chi ei ddewis.

Os ydych chi am ddewis opsiwn, cliciwch y blwch ticio wrth yr un o’ch dewis:

  • Prosesu wrth i ryngwyneb y defnyddiwr newid (Process as UI changes) [1]: yn diystyru newidiadau sydd wedi digwydd yn rhyngwyneb y defnyddiwr fel data "gludiog"; mae pob data yn ymddwyn fel petai’r newidiadau, mewn gwirionedd, wedi eu diweddaru gan rywun yn rhyngwyneb y defnyddiwr
  • Clirio cyflwr newydd rhyngwyneb y defnyddiwr (Clear UI-changed state) [2]: yn cael gwared ar "ludiogrwydd" yr holl ddata sy’n bodoli yn y broses mewngludo hon; ni fydd prosesau mewngludo yn y dyfodol â'r data hwn yn nodi bod unrhyw ddata yn rhyngwyneb y defnyddiwr yn ddata "gludiog"

Prosesu Data

Prosesu Data

Cliciwch y botwm Prosesu Data (Process Data).

Cadarnhau Newidiadau

Cadarnhau Newidiadau

Ar ôl clicio'r botwm Prosesu Data, bydd Is-ffenestr cadarnhau yn ymddangos. Cliciwch Canslo (Cancel) [1] i stopio neu Cadarnhau (Confirm) [2] i fwrw ymlaen.

Gweld ffeiliau Mewngludo Data

Gweld ffeiliau Mewngludo Data

Pan fydd y mewngludo wedi cael ei brosesu, bydd Canvas yn dangos canlyniadau’r ffeil sydd wedi’i mewngludo, ynghyd â hyd at 50 o wallau a rhybuddion. Os ydych chi wedi mewngludo diweddariad llawn, bydd y canlyniadau hefyd yn dangos nifer yr eitemau wedi’u dileu sydd wedi'u tynnu o’r cyfrif. Mae eitemau wedi’u dileu yn cynnwys ymrestriadau, cyrsiau, ac adrannau.

Ar ôl i chi adnewyddu'r dudalen, bydd yr wybodaeth hon yn aros ar dudalen Mewngludo SIS (SIS Import) o dan y pennawd Diweddariad Diwethaf (Last Batch) nes bydd mewngludo arall yn digwydd.

Llwytho Gwallau i lawr

Llwytho Gwallau i lawr

Os ydych chi am lwytho pob rhybudd a gwall i lawr o’ch ffeil mewngludo ddiwethaf, ewch yn ôl i dudalen Mewngludo SIS (SIS Import). O dan y pennawd Diweddariad Diwethaf (Last Batch) [1], cliciwch yr eicon llwytho i lawr Diweddariad Diwethaf [2]. Bydd ffeil CSV yn llwytho i lawr sy’n cynnwys pob gwall a rhybudd o’ch proses fewngludo ddiwethaf.

Nodyn:

  • Mae’n bosib y bydd angen i chi adnewyddu’r dudalen i weld yr eicon llwytho i lawr.
  • Os ydy’r adroddiad wedi cael ei lwytho i lawr, mae’r ddolen yn dod i ben ar ôl awr. Os ydy’r dudalen yn cael ei hadnewyddu, mae URL newydd yn cael ei greu a bydd yn weithredol am awr.

Adolygu Gwallau

Os byddwch yn canfod bod ffeil wedi methu, adolygwch unrhyw negeseuon gwall sydd ar gael i chi. Noder y canlynol wrth adolygu gwallau:

  • Efallai bod gan y ffeil ei hun neges gwall, neu fod llinellau penodol yn y ffeil wedi methu.
  • Gallwch ddefnyddio API Gwallau wrth Fewngludo SIS i gael rhagor o fanylion datrys problemau. Bydd hyn yn dychwelyd rhif y llinell CSV lle digwyddodd y gwall.
  • Mae’r CSV yn gofyn am fformatio penodol er mwyn llwytho i fyny’n iawn. Yn benodol, adolygwch y penawdau CSV. Dysgu mwy am fformatio ffeiliau CSV.
  • Rhaid amgodio ffeiliau CSV Mewngludo SIS yn UTF-8 heb farc trefn beitiau. Mae'r rhan fwyaf o raglenni'n amgodio'n awtomatig ar gyfer UTF-8, er y bydd rhai rhaglenni, fel Microsoft Excel, yn newid i broses amgodio amgen. Os yw eich meddalwedd yn gallu amgodio ffeiliau o UTF-8, dewiswch UTF-8 fel opsiwn wrth gadw.
  • Mae rhai negeseuon gwall yn gofyn i chi gysylltu â chymorth i adolygu.