Beth yw’r rôl Gweinyddwr?
Yn Canvas, rôl Gweinyddwr yw'r rôl weinyddol. Mae defnyddwyr sydd â rôl Gweinyddwr yn goruchwylio ac yn rheoli cyfrif Canvas sefydliad neu isgyfrif Canvas mewn sefydliad. Mae hawliau Gweinyddwr yn caniatáu i ddefnyddwyr reoli tymhorau, creu cyrsiau, gweld a safoni ymrestriadau a chynnwys ar gyfer pob cwrs mewn cyfrif, ac mae'r hawliau'n caniatáu iddynt weld data am gyfrifon a chyrsiau. Hefyd, gall Gweinyddwyr arwain prosesau cyfathrebu mewn cyfrif ac yn ei gyfrifon. Mae hawliau lefel cyfrif yn amrywio ar gyfer isgyfrifon ac yn amrywio o sefydliad i sefydliad. I gael rhagor o wybodaeth am hawliau ar lefel y cyfrif, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Hawliau Cyfrif Canvas.
Dim ond Gweinyddwyr all reoli hawliau lefel cyfrif. Mae rolau defnyddiwr eraill yn Canvas ac mae eu lefelau mynediad yn amrywio. Mae Athrawon yn goruchwylio Cynorthwywyr Dysgu, a gyda’i gilydd maent yn creu cynnwys cwrs y mae Myfyrwyr ac Arsyllwyr yn ei ddefnyddio. I gael rhagor o wybodaeth am hawliau defnyddiwr ar lefel y cwrs, edrychwch ar y ddogfen adnoddau ar Hawliau Cwrs Canvas.
Ar hyn o bryd, nid yw Canvas yn delio ag ap symudol penodol ar gyfer y rôl Gweinyddwr. Fodd bynnag, gall gweinyddwr fewngofnodi i unrhyw un o apiau symudol Canvas a gweithredu fel unrhyw ddefnyddiwr yn y cyfrif. Gall Gweinyddwyr sydd â rôl athro neu fyfyriwr weld cyrsiau drwy’r ap ffôn symudol priodol hefyd.
Defnyddio Rôl Gweinyddwr
Prif ddefnydd y rôl Gweinyddwr yw caniatáu i ddefnyddwyr greu a safoni tymhorau, llwytho i fyny a rheoli data SIS, rheoli nodweddion ar lefel cwrs a lefel cyfrif, a rheoli hawliau a rolau defnyddwyr ar lefel cwrs. Gan ddibynnu ar y sefydliad, gall Gweinyddwyr hefyd reoli a chael mynediad at gyrsiau Canvas gyda hawliau tebyg i’r rhai sy’n berthnasol i rôl Athro.
Gellir ychwanegu gweinyddwyr at gyfrif neu isgyfrif gyda hawliau lefel cyfrif penodol wedi’u ffurfweddu yn ôl yr hyn sydd orau ar gyfer eu rolau Er enghraifft, gellir ychwanegu ymgynghorydd academaidd at isgyfrif Canvas gyda mynediad i weld data am SIS, y cyfrif a’r cwrs, ond gyda mynediad cyfyngedig at gyrsiau a chynnwys cyrsiau.
Yn gyffredinol, mae hawliau Gweinyddwyr a ffurfweddau cyfrif yn adlewyrchu strwythur sefydliad. Gall hawliau a rolau defnyddwyr gweinyddol gael eu ffurfweddu i ddiwallu anghenion gweinyddol sefydliad. Dim ond gweinyddwyr eraill all ychwanegu defnyddiwr at gyfrif fel Gweinyddwr.
Dysgwch fwy ar sut i ddechrau arni fel gweinyddwr.
Mynediad Gweinyddwr yn Canvas
Gall sefydliad addasu hawliau gweinyddol ar sail rolau defnyddwyr. I gael rhagor o wybodaeth am gyfranogiad Gweinyddwr yn Canvas, darllenwch y Canllawiau i Weinyddwyr Canvas.
Mae gweinyddwyr yn gallu:
- Gweithredu fel defnyddwyr
- Ychwanegu a thynnu gweinyddwyr eraill yn y cyfrif
- Ychwanegu a thynnu dylunwyr cyrsiau, arsyllwyr, myfyrwyr, athrawon a chynorthwywyr dysgu yn y cwrs
- Ychwanegu, golygu a dileu digwyddiadau ar galendr y cwrs
- Creu a rheoli templedi cyrsiau
- Creu cydweithrediadau myfyrwyr a chynadleddau gwe
- Cynhyrchu cod paru arsyllwr ar gyfer myfyrwyr
- Mewngludo, rheoli a darllen data SIS
- Rheoli gosodiadau a nodweddion lefel cyfrif, allweddi datblygwyr, hawliau rhaglenni allanol (LTIs), cwotâu storio a bachau gwe
- Rheoli cyrsiau (gan gynnwys cyrsiau Glasbrint), adrannau cyrsiau, cyhoeddiadau cyffredinol a grwpiau o fyfyrwyr
- Rheoli deilliannau dysgu a chyfarwyddiadau sgorio yn ogystal â gweld a chysylltu â banciau cwestiynau
- Addasu manylion mewngofnodi defnyddwyr
- Anfon negeseuon at aelodau unigol mewn cwrs ac at holl aelodau mewn cwrs
- Gweld ystadegau lefel cyfrif a lefel cwrs, tudalennau dadansoddiadau cyrsiau a chyfrifon, ac adroddiadau defnydd ar gyfer cyrsiau
- Gweld a gwneud sylw ar gyflwyniadau myfyrwyr yn ogystal â safoni a phostio mewn trafodaethau
- Gweld a rheoli rhybuddion, aseiniadau, hysbysiadau, cwisiau a phob cynnwys arall mewn cwrs
- Gweld logiau newid graddau a chyrsiau
- Gweld y rhestr o’r cyrsiau, newid cyflwr cyrsiau a dad-ddileu cyrsiau
- Gweld matrics ateb yn y Logiau Cwisiau a Gyflwynwyd
- Gweld y rhestr o’r defnyddwyr mewn cwrs a gweld tudalennau grŵp pob grŵp myfyrwyr
- Gweld, safoni a golygu graddau
Nid yw’r hawliau canlynol byth yn berthnasol i isgyfrifon:
- Gweithredu fel defnyddwyr
- Rheoli cyrsiau Glasbrint
- Rheoli allweddi datblygwyr a data SIS
- Mynediad at y tab Gweld Hysbysiadau yn Adnoddau Gweinyddol
Cyfyngiadau ar y Rôl Gweinyddwr
- Mae rhai hawliau lefel y cyfrif wedi’u cloi’n ddiofyn a does dim modd i unrhyw un newid hynny. Gall hawliau eraill fod wedi’u cloi gan weinyddwyr mewn sefydliad.
- Bydd gweinyddwyr sydd ag unrhyw rolau lefel cwrs fel myfyriwr neu athro mewn cwrs yn dal i allu gweld yr opsiynau a’r nodweddion gweinyddol. I osgoi gwrthdaro rhwng hawliau, dylai gweinyddwyr greu cyfrif ar wahân.