Beth yw’r adnodd Sgwrsio?

Mae’r adnodd Sgwrsio (Chat) yn Canvas yn caniatáu i fyfyrwyr ac athrawon ryngweithio mewn amser real.

Nodiadau:

  • Rhaid i’r adnodd Sgwrsio gael ei alluogi ar gyfer eich sefydliad cyn y bydd modd ei ddefnyddio mewn cyrsiau Canvas. Os ydych chi’n weinyddwr, cysylltwch â'ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid i gael cymorth.
  • Pan fydd yr adnodd Sgwrsio wedi’i alluogi ar lefel y cyfrif, mae’n cael ei alluogi’n ddiofyn ym mhob cwrs yn y cyfrif.
  • Nid yw'r adnodd Sgwrsio ar gael pan fyddwch chi’n ffugio.
  • Mae Safari 13.1 yn cynnwys diweddariad a allai achosi problemau gyda rhybuddion ar gyfer sgwrs. Gallwch osgoi gwallau gyda ffeiliau a delweddau drwy analluogi’r nodwedd atal tracio ar draws safleoedd yn Safari wrth ddefnyddio Canvas.

Gweld Adnodd Sgwrsio Cwrs

Mae Sgwrsio yn adnodd mewn cyrsiau sydd ar gael i’r holl fyfyrwyr yn y cwrs. Nid oes modd cyfyngu Sgyrsiau i fyfyrwyr penodol.

Gall addysgwyr ddefnyddio’r adnodd sgwrsio i ganiatáu i fyfyrwyr gysylltu â nhw pan fyddant ar-lein, i greu rhith oriau swyddfa, i gynnal trafodaethau grŵp neu sesiynau astudio.

Gall pob defnyddiwr yn y cwrs weld hanes sgwrsio hefyd.

Nodyn: Ni all myfyrwyr ddileu sylwadau mewn sgyrsiau.