Beth yw SpeedGrader?

Fel addysgwr, mae SpeedGrader yn caniatáu i chi weld a graddio aseiniadau sydd wedi’u cyflwyno gan fyfyrwyr mewn un lle gan ddefnyddio graddfa bwyntiau neu gyfarwyddyd sgorio cymhleth. Mae Canvas yn derbyn amrywiaeth o fformatau dogfennau a hyd yn oed URLs ar gyfer aseiniadau a gyflwynir. Mae modd marcio rhai aseiniadau dogfen i gael adborth yn uniongyrchol yn y cyflwyniad. Mae modd rhoi adborth i’ch myfyrwyr drwy ddefnyddio testun neu sylwadau ar gyfryngau hefyd.

Gwylio fideo am SpeedGrader

Pryd Fyddwn i’n Defnyddio SpeedGrader?

Gallwch ddefnyddio SpeedGrader i wneud y canlynol:

  • Trefnu cyflwyniadau yn ôl myfyrwyr a chuddio enwau'r myfyrwyr er mwyn graddio’n ddienw
  • Edrych ar fanylion cyflwyniad pob myfyriwr, gan gynnwys aseiniadau sydd wedi’u hailgyflwyno
  • Defnyddio cyfarwyddiadau sgorio i ddyrannu graddau
  • Rhoi sylwadau adborth i’ch myfyrwyr
  • Tracio eich cynnydd graddio a chuddio aseiniadau pan fyddwch chi'n graddio
  • Gweld cyflwyniadau mewn aseiniadau wedi’u safoni

Gweld SpeedGrader

Ar gyfer pob myfyriwr, gallwch chi ddefnyddio’r meysydd yn SpeedGrader i wneud y canlynol:

  1. Gweld cyflwyniadau myfyrwyr (cofnodion testun, URLs gwefannau, recordiadau ar gyfryngau a/neu ffeiliau wedi eu llwytho i fyny); gweld rhagolwg o fathau o ffeiliau y mae modd delio â nhw yn DocViewer Canvas; adolygu cyflwyniadau mewn fformat ffeil arall gan ddefnyddio’r rhagddangosydd dogfennau neu Google Preview
  2. Dyrannu gradd yn seiliedig ar eich hoff ddull asesu (pwyntiau neu ganrannau)
  3. Gweld y Cyfarwyddyd Sgorio i helpu i raddio (os oes un wedi’i ychwanegu at yr aseiniad)
  4. Gweld sylwadau sydd wedi’u creu gennych chi neu'r myfyriwr am yr aseiniad
  5. Gadewch sylwadau adborth drwy roi testun, dewis emojis, dewis sylwadau wedi’u creu ymlaen llaw o'r llyfrgell sylwadau, atodi ffeiliau, recordio neu lwytho cyfryngau i fyny, recordio cipio sgrin, neu ychwanegu sylwadau sain.
  6. Ailneilltuo’r aseiniad
  7. Llwytho sylwadau ar y cyflwyniad i lawr neu eu hargraffu

Sylwch: Mae modd defnyddio bysellau hwylus i lywio SpeedGrader. I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau hwylus, pwyswch y bysellau Shift+Marc Cwestiwn ar yr un pryd ar eich bysellfwrdd.