Beth yw Gosodiadau Defnyddiwr a Gosodiadau Proffil?
Opsiynau cyfrif defnyddiwr yw Gosodiadau Proffil a Gosodiadau Defnyddiwr, sy’n eich galluogi i reoli eich gwybodaeth bersonol yn Canvas.
I ddysgu mwy am reoli gosodiadau defnyddiwr a phroffil, gwyliwch y fideo Gosodiadau Defnyddiwr.
Gallwch chi hefyd ddysgu mwy am reoli gosodiadau defnyddiwr a gosodiadau proffil mewn gwersi i fyfyrwyr, gwersi i addysgwyr, aa gwersi i rieni/arsyllwyr.
Sylwch: Gall eich sefydliad atal un fwy o opsiynau gosodiadau.
Beth alla i ei wneud yn fy nghyfrif defnyddiwr?
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, gallwch chi glicio y ddolen Cyfrif (Account) [1], a defnyddio’r dewislen Crwydro'r Cyfrif [2] i wneud y canlynol:
- Rheoli gosodiadau hysbysiadau fel addysgwr, fel myfyriwr, neu fel arsyllwr/rhiant
- Llwytho ffeiliau personol i fyny
- Mynediad at gosodiadau cyfrif defnyddiwr
- Creu a rheoli e-Bortffolios o’ch gwaith cwrs
- Gweld rhagolwg a mewngludo cynnwys sy’n cael ei rannu â chi
- Rhannu cod QR er mwyn mewngofnodi i app symudol Canvas fel addysgwr, fel myfyriwr, neu fel arsyllwr/rhiant
- Gweld hysbysiadau byd-eang ar draws eich cyfrif fel addysgwr, fel myfyriwr, neu neu fel arsyllwr/rhiant
- Rheoli eich proffil
Gallwch chi hefyd wella’r cyferbynnedd lliw yn Canvas [3] neu allgofnodi o Canvas [4].
Pryd fyddwn i’n defnyddio fy ngosodiadau defnyddiwr?
Yn dibynnu ar eich rôl fel defnyddiwr, gallwch chi glicio’r ddolen Gosodiadau (Settings) er mwyn gwneud y canlynol:
- Gweld a golygu eich gosodiadau defnyddiwr, fel eich enw llaw, enw arddangos, rhagenwau personol, dewis iaith a pharth amser
- Ychwanegu neu newid eich llun proffil
- Newid eich cyfeiriad e-bost diofyn neu ychwanegu cyfeiriad e-bost ychwanegol i gael hysbysiadau
- Newid eich cyfrinair fel addysgwr, fel myfyriwr, neu fel arsyllwr/rhiant
- Gosod proses ddilysu sawl cam i ddiogelu eich cyfrif ymhellach.
- Cysylltu â gwasanaethau gwe y tu allan i Canvas, fel Google Drive, a’u rheoli
- Rheoli opsiynau nodweddion defnyddiwr, fel animeiddiadau dathlu (conffeti)
- Rheoli integreiddiadau cymeradwy (rhaglenni trydydd parti sydd wedi’u hawdurdodi i gael gafael ar Canvas drwy docynnau mynediad API)
- Llwytho aseiniadau a gyflwynwyd gennych i lawr o gyrsiau presennol a blaenorol
- Creu cod paru i'w rannu â rhaint/arsyllwr fel myfyriwr
- Cysylltu myfyriwr â’ch cyfrif defnyddiwr fel rhiant/arsyllwr
- Llwytho cynnwys y cwrs i lawr fel ffeil ePub
Pryd fyddwn i'n defnyddio fy mhroffil?
Os yw eich sefydliad wedi galluogi’r nodwedd Proffiliau, gallwch chi wneud y canlynol:
- Ychwanegu gwybodaeth at y proffil, fel bywgraffiad a dolenni personol
- Gweld manylion proffil defnyddwyr eraill
- Gweld eich ymrestriadau
- Gweld ymrestriadau rydych chi’n eu rhannu â defnyddwyr eraill
Dysgwch fwy am olygu eich proffil fel addysgwr, fel myfyriwr, neu fel Arsyllwr/rhiant.
Sylwch: Dim ond os yw gweinyddwr yn rhoi caniatâd drwy Gosodiadau Cyfrif y gallwch chi olygu’ch cyfrif.