Beth yw rôl Athro?
Yn Canvas, caiff y rôl Athro ei defnyddio i ymrestru defnyddwyr sy'n gyfrifol am greu, rheoli a rhoi cyfarwyddiadau mewn cwrs. Mae Addysgwyr yn enw arall am Athrawon yn Canvas. Yn gyffredinol, mae gan ddefnyddwyr sydd â rôl Athro hawliau sy’n eu galluogi nhw i safoni cyrsiau, gweld data cyrsiau ac arwain sgyrsiau dyddiad mewn cyrsiau. Fodd bynnag, gall yr hawliau hyn amrywio ymysg sefydliadau.
Mae gan Canvas rolau defnyddiwr lefel cwrs eraill sydd â mynediad lefel cwrs amrywiol. Gall Dylunwyr weithio gydag Athrawon (sy’n goruchwylio Cynorthwywyr Dysgu) a gyda’i gilydd maent yn creu cynnwys cwrs y mae Myfyrwyr ac Arsyllwyr yn ei ddefnyddio. I gael rhagor o wybodaeth am hawliau defnyddiwr ar lefel y cwrs, edrychwch ar y PDF ar Hawliau Cwrs Canvas.
Gall Athrawon hefyd ddefnyddio ap Canvas Teacher i weld rhywfaint o gynnwys cyrsiau gan gynnwys cyhoeddiadau, aseiniadau, trafodaethau a chwisiau.
Defnyddio Rôl Athro
Gall Athrawon greu deunyddiau ar gyfer cyrsiau, gweld data am gyrsiau yn ogystal â rheoli a chael mynediad at holl feysydd cyrsiau Canvas. Er enghraifft, gellir ychwanegu addysgwr at gwrs gyda rôl Athro er mwyn arwain y cwrs.
Prif ddefnydd rôl Athro yw galluogi defnyddwyr i wneud y canlynol:
- Creu ac addasu cynnwys cyrsiau
- Safoni a chyflwyno graddau
- Gwahodd pobl eraill i'r cwrs
- Cyfathrebu â chyfranogwyr y cwrs
- Gweld data am fyfyrwyr a dadansoddiadau cwrs
- Monitro a safoni cyfranogiad a rhyngweithiadau’r holl ddefnyddwyr sydd wedi ymrestru ar gwrs
Pan fydd defnyddiwr yn creu cwrs â llaw, bydd Canvas yn ymrestru'r defnyddiwr hwnnw’n awtomatig fel Athro ar y cwrs. Gall gweinyddwr ymrestru athro ar gwrs ei hun, neu gellir gwneud hynny'n awtomatig drwy fewngludo SIS.
Mynediad Athro yn Canvas
Yn ddiofyn, bydd gan addysgwyr sydd â rôl Athro fynediad at holl feysydd cwrs Canvas. Fodd bynnag, gall yr hawliau hyn amrywio ymysg sefydliadau. I gael rhagor o wybodaeth am gyfranogiad Athro yn Canvas, darllenwch Ganllaw Canvas i Addysgwyr.
Mae Athro yn gallu:
- Ychwanegu a dileu rhaglenni allanol (LTI) ar gyfer cwrs
- Ychwanegu, golygu a dileu aseiniadau, cwisiau, tudalennau a ffeiliau cyrsiau a phob cynnwys cwrs arall
- Ychwanegu, golygu a dileu eitemau mewn calendr cwrs, gan gynnwys apwyntiadau'r Trefnydd
- Ychwanegu, golygu neu ddileu deilliannau dysgu sy'n gysylltiedig â chynnwys cwrs
- Creu, gweld a phostio cyhoeddiadau a thrafodaethau mewn cwrs
- Creu a golygu cyfarwyddiadau sgorio
- Creu cynadleddau a chydweithrediadau myfyrwyr
- Creu, golygu a dileu adrannau a grwpiau o fyfyrwyr mewn cyrsiau
- Dileu a chloi trafodaethau a golygu negeseuon pobl eraill mewn trafodaethau
- Cynhyrchu cod paru arsyllwr ar gyfer myfyrwyr
- Cyhoeddi, cwblhau a dileu cyrsiau
- Darllen data SIS
- Anfon negeseuon at ddefnyddwyr cyrsiau eraill ac at holl aelodau cwrs
- Gweld tudalennau pob grŵp o fyfyrwyr ar gyfer cwrs
- Gweld cyflwyniadau myfyrwyr a gwneud sylw arnynt
- Gweld a chysylltu â banciau cwestiynau
- Gweld a rheoli ymrestriadau ar gyrsiau, gan gynnwys ymrestriadau athrawon eraill, dylunwyr cyrsiau, cynorthwywyr dysgu a myfyrwyr
- Gweld dadansoddiadau cwrs
- Gweld llwybr archwilio graddau
- Gweld, safoni a golygu'r holl raddau
- Gweld adroddiadau defnyddio'r cwrs
Nid yw Athro yn gallu:
- Greu cwrs Glasbrint
- Newid tymor y cwrs cysylltiedig
- Ffugio fel defnyddiwr arall mewn cwrs
- Creu dilysiad trydydd parti ar gyfer cwrs
- Dad-ddirwyn cwrs
- Llwytho ymrestriadau myfyrwyr i fyny drwy fewngludiadau SIS
- Gweld logiau newid cwrs
Cyfyngiadau ar Rôl Athro
- Ni all Athrawon addasu argaeledd unrhyw rai o'r hawliau uchod. Dim ond gweinyddwyr all addasu'r swyddogaethau hyn.
- Mae Athrawon yn gallu creu, addasu a safoni cynnwys ar gyfer cyrsiau maent wedi ymrestru arnynt yn unig.
- Dim ond defnyddwyr sydd â hawliau gweinyddol sy’n gallu mewngludo data SIS. Ni all Athrawon fewngludo data SIS.