Beth yw Grwpiau?
Mae grwpiau yn fersiwn bach o gwrs ac maent yn cael eu defnyddio fel adnodd ar gyfer cydweithio lle gall dau fyfyriwr neu ragor weithio gyda’i gilydd ar aseiniadau a phrosiectau grŵp.
Gwedd Addysgwr
Gall addysgwyr greu grwpiau o fyfyrwyr gydweithio ar dudalennau, cydweithrediadau, aseiniadau grŵp a mwy. Gall addysgwyr hefyd ganiatáu myfyrwyr i greu eu grwpiau eu hunain.
Mewn Grwpiau, gall addysgwyr wneud y canlynol:
- Gweld yr holl weithgareddau yn yr holl grwpiau yn eu cwrs, gan gynnwys grwpiau sydd wedi’u creu gan fyfyrwyr fel y nodir yn nhab Grwpiau Myfyrwyr (Student Groups) yr addysgwr (bydd myfyrwyr yn cael creu eu grwpiau eu hunain yn ddiofyn, fel y nodir yn y tab Manylion Cwrs (Course Details))
- Gweld yr holl grwpiau sydd wedi’u creu yn y cwrs
- Creu grwpiau mewn set grwpiau eich hun neu'n awtomatig
- Neilltuo myfyrwyr i grwpiau mewn set grwpiau â llaw neu'n awtomatig
- Neilltuo arweinydd grŵp ar gyfer pob grŵp
- Caniatáu i fyfyrwyr gofrestru ar gyfer eu grwpiau eu hunain
- Ehangu a chrebachu isgyfrifon
- Symud myfyrwyr i isgyfrifon gwahanol
- Creu cydweithrediadau grŵp
Pryd Ddylwn i Ddefnyddio Grwpiau fel Addysgwr?
Fel addysgwr, dylech greu grwpiau i wneud y canlynol:
- Gosod ffurfweddiadau grŵp myfyrwyr ar lefel y cwrs ar gyfer aseiniadau a gwaith yn y dosbarth, wedi’u graddio a heb eu graddio.
- Hwyluso prosiectau sy'n para semester fel bod myfyrwyr yn gallu cyfathrebu a thrafod dogfennau gyda’i gilydd.
- Hwyluso datblygiad proffesiynol y staff a phwyllgorau neu weithgareddau sefydliadol.
- Hwyluso grwpiau astudio sy’n cael eu rhedeg gan fyfyrwyr mewn cyrsiau neu ar lefel y cyfrif.
Gwedd Myfyriwr
Gall myfyrwyr ddefnyddio grwpiau fel adnodd ar gyfer cydweithio er mwyn gweithio gyda chyd-fyfyrwyr ar aseiniadau a phrosiectau grŵp.
Mewn grwpiau, gall myfyrwyr wneud y canlynol:
- Gweld y rhestr grwpiau
- Gweld y grwpiau y maent wedi ymrestru arnynt
- Ymuno â grŵp myfyrwyr
- Creu grŵp myfyrwyr
- Cadw a rhannu Ffeiliau
- Dechrau Trafodaeth
- Anfon neges
- Creu cydweithrediadau grŵp
Pryd Ddylwn i Ddefnyddio Grwpiau fel Myfyriwr?
Fel myfyriwr, dylech greu grwpiau i wneud y canlynol:
- Creu grwpiau astudio
- Cydweithio ar brosiectau ac aseiniadau