Beth ydy'r Blwch Derbyn?
Mae'r Blwch Derbyn yn adnodd negeseuon a ddefnyddir i gyfathrebu â chwrs, grŵp, myfyriwr unigol neu grŵp o fyfyrwyr. Gallwch ddefnyddio'r Blwch Derbyn i gyfathrebu â phobl eraill yn eich cwrs.
Sylwch:
- Bydd defnyddwyr yn ymddangos yn y Blwch Derbyn ar ôl iddyn nhw ymrestru ar y cwrs, ac ni all defnyddwyr ymuno â chwrs oni bai ei fod wedi'i gyhoeddi.
- Ar ôl i gwrs ddod i ben a bod ei ddyddiad tymor wedi mynd heibio, ni fyddwch yn gallu anfon negeseuon at fyfyrwyr ar y cwrs hwnnw mwyach.
- Os yw eich sefydliad wedi galluogi rhagenwau personol a bod defnyddwyr wedi dewis eu rhagenwau, bydd y rhagenwau hynny’n ymddangos ym manylion y neges ac wrth ochr eu henwai ym meysydd chwilio’r Blwch Derbyn.
Pryd fyddwn i'n defnyddio'r Blwch Derbyn?
Mae modd defnyddio’r Blwch Derbyn i wneud y canlynol:
- Anfon neges at rywun yn eich cwrs neu eich grŵp
- Anfon neges atoch chi eich hun (bydd yn ymddangos yn eich ffolder Wedi Anfon)
- Aateb negeseuon gan bobl eraill ar eich cwrs
- Hildo sgyrsiau yn ôl cwrs neu fath
- Gweld ac ateb sylwadau ar aseiniadau sydd wedi eu cyflwyno
Dysgu mwy am ddefnyddio'r Blwch Derbyn.
Nodyn: Gallwch addasu eich gosodiadau hysbysiadau i gael negeseuon gan ddefnyddio sianeli allanol.