Beth yw Dadansoddiadau?

Mae ddadansoddiadau yn gwerthuso cydrannau unigol mewn cyrsiau ac yn gwerthuso perfformiad myfyrwyr. Mae ddadansoddiadau yn defnyddio dull tair ffordd o greu data sylweddol ar gyfer defnyddwyr Canvas.

  • Mae'r broses unioni’n canolbwyntio ar adroddiadau'r system a sut mae’r system yn cael ei defnyddio.
  • Mae’r broses ymyrryd yn ceisio rhagweld y myfyrwyr sydd mewn perygl ac yn chwilio am ffyrdd o ddiwallu eu hanghenion.
  • Mae’r dysgu yn canolbwyntio ar y canlynol: deilliannau dysgu, effeithiolrwydd yr arddull addysgu a’r ffordd mae amser yn cael ei rannu rhwng myfyrwyr sy'n ennill cymhwysedd a’r rheini sydd ar ei hôl hi.

Nodyn: Dysgu mwy am Ddadansoddiadau Newydd.

Dadansoddiadau Cyfrif

Gall gweinyddwyr cyfrif weld y dadansoddiadau ar gyfer yr holl gyfrif er mwyn tracio a dadansoddi'r hyn y mae myfyrwyr, athrawon, addysgwyr a/neu ddylunwyr yn ei wneud yn y cyfrif. Mae dadansoddiadau'n gweithio yn unol ag Ystadegau'r cyfrif.

Gwylio fideo am Ddadansoddiadau ac Ystadegau.

Sylwch:

  • I weld dadansoddiadau cyfrif, rhaid galluogi dadansoddiadau yng Ngosodiadau'r Cyfrif.
  • Mae dadansoddiadau cyfrif hefyd yn cynnwys dadansoddiadau sydd wedi eu galluogi ar lefel yr isgyfrif.

Gweld Hierarchaeth Dadansoddiadau Cyfrif

Gweld Hierarchaeth Dadansoddiadau Cyfrif

Gellir defnyddio dadansoddiadau ar unrhyw lefel o’r cyfrif, cyhyd â bod gan y defnyddiwr hawl ar lefel y cyfrif i weld y dadansoddiadau. Er enghraifft, gall gweinyddwyr yn y cyfrif gwraidd [1] weld dadansoddiadau ar gyfer y cyfrif a’r holl isgyfrifon. Gall gweinyddwyr mewn isgyfrifon [2] weld y dadansoddiadau ar gyfer eu hisgyfrifon eu hunain ac unrhyw isgyfrifon ychwanegol oddi tanynt.

Gall gweinyddwyr weld dadansoddiadau cwrs mewn cyfrif neu isgyfrif. Gall addysgwyr weld dadansoddiadau cwrs os ydynt hefyd yn cael yr hawl i weld dadansoddiadau ar lefel y cwrs.

Pryd Fyddwn i’n Defnyddio Dadansoddiadau Cyfrif?

Mae pedair prif adran mewn dadansoddiadau cyfrif:

  1. Trosolwg o’r hyn sydd yn y cyfrif gan gynnwys Cyrsiau, Athrawon, Myfyrwyr, Aseiniadau, Pynciau Trafod, Ffeiliau sydd wedi’u Llwytho i Fyny a Recordiadau ar Gyfryngau.
  2. Mae'r adran gweithgarwch yn ôl dyddiad yn caniatáu i’r Gweinyddwr weld sut mae pawb yn cymryd rhan yn y cyrsiau, a hynny yn y tymor ac yn y cyfrif.
  3. Mae’r adran gweithgarwch yn ôl categori yn caniatáu i’r Gweinyddwr weld y cyfranogiad mewn Tudalennau, Aseiniadau, Modiwlau, Trafodaethau, Graddau, Ffeiliau, Cydweithrediadau, Cyhoeddiadau, Grwpiau, Cynadleddau, Cyffredinol ac Arall.
  4. Mae dosbarthiad graddau yn caniatáu i’r Gweinyddwr weld y graddau terfynol a’r graddau sydd ar y gweill yn ystod y tymor yn y cyfrif.

 

Mae modd defnyddio dadansoddiadau cyfrif i wneud y canlynol:

  • Gwneud yn siŵr bod y myfyrwyr, yr athrawon, yr arsyllwyr a/neu'r dylunwyr yn cymryd rhan yn y cwrs.
  • Gweld trosolwg o’r tymor yn y cyfrif.
  • Gweld sut mae'r defnyddwyr yn rhyngweithio â chyrsiau yn y tymor.
  • Gwylio sut mae’r dosbarthiad graddau yn amrywio neu’n aros yn gyson.
  • Gweld cyfanswm nifer y cyrsiau, yr athrawon, y myfyrwyr, yr aseiniadau, y cyflwyniadau, y pynciau trafod a'r ymatebion, y ffeiliau a’r recordiadau ar gyfryngau yn y tymor o fewn y cyfrif.

Dadansoddiadau Cwrs

Gall addysgwyr weld y dadansoddiadau ar gyfer cwrs er mwyn tracio a dadansoddi'r hyn y mae myfyrwyr, addysgwyr a/neu ddylunwyr yn ei wneud yn y cwrs. Mae dadansoddiadau'n gweithio yn unol ag ystadegau'r cwrs.

Nodyn: Mae gweld dadansoddiadau cwrs yn hawl cwrs. Os na allwch chi weld dadansoddiadau cwrs, mae eich sefydliad wedi atal y nodwedd hon.

Pryd Fyddwn i’n Defnyddio Dadansoddiadau Cwrs?

Mae pedair prif adran yn nadansoddiadau cwrs:

  • Mae gweithgarwch yn caniatáu i’r addysgwr weld pan fydd myfyriwr yn gweld tudalen neu’n cymryd rhan yn y cwrs.
  • Mae cyflwyniadau'n caniatáu i’r addysgwr weld a yw myfyrwyr yn cyflwyno aseiniad yn brydlon, yn hwyr neu ddim o gwbl.
  • Mae graddau’n defnyddio plot blwch a llinellau i ddangos dosbarthiad y graddau yn y cwrs.
  • Mae Dadansoddiadau Myfyrwyr yn dangos gwedd tudalen, cyfranogiad, aseiniadau a sgôr bresennol ar gyfer pob myfyriwr yn y cwrs.

 

Mae modd defnyddio dadansoddiadau cwrs i wneud y canlynol:

  • Rhagweld sut bydd myfyrwyr yn ymateb i weithgareddau’r cwrs.
  • Gweld pa fyfyrwyr sydd mewn perygl ac sydd angen help.
  • Gweld pa mor effeithiol yw eich strategaethau addysgu o ran galluogi myfyrwyr i ddysgu.
  • Bwrw golwg cyflym ar yr hyn y mae eich myfyrwyr yn ei gyflawni yn eich cwrs.